
Astudiwch gyda ni yn 2025
Ydych chi’n paratoi i adael coleg neu’n dychwelyd i ddysgu?Â
Nawr eich bod yn barod i ddechrau ar eich taith, darllenwch am y gwahanol ffyrdd o wneud cais. Yma byddwn yn esbonio’r tri llwybr i gychwyn arni.
Gwneud cais drwy UCAS
I wneud cais am radd israddedig, bydd angen i chi gyflwyno cais drwy UCAS. Ein cod UCAS yw T80.
Gwneud cais yn uniongyrchol
Os ydych yn gwneud cais am radd ôl-raddedig (heblaw TAR) neu radd ran-amser, bydd angen i chi wneud cais yn uniongyrchol i ni. Gallwch archwilio ein holl gyrsiau a gwneud cais yn uniongyrchol gan ddilyn y ddolen isod.
A oes angen rhagor o wybodaeth arnoch cyn gwneud cais?
Yn ansicr beth i’w astudio neu angen cymorth gyda’ch cais? Llenwch y ffurflen isod, a bydd ein tîm yn rhoi cyngor wedi’i deilwra, yn archwilio eich opsiynau gyda chi, ac yn eich arwain drwy’r broses o wneud cais.
Cyrsiau sy’n eich paratoi ar gyfer gyrfa

Pam PCYDDS?
Byddwch yn dysgu beth sydd wir ei angen ar gyflogwyr, dan arweiniad academyddion arbenigol, gyda chyrsiau sy’n eich paratoi ar gyfer gyrfa. Cewch brofiad ymarferol mewn cyfleusterau o safon diwydiant, gan ddysgu sgiliau sy’n hanfodol i yrfa cyn i chi raddio. Byddwch yn cyfoethogi eich astudiaethau â chyfleoedd ar leoliad gwaith sy’n bwysig iawn ar gyfer llwyddiant mewn gyrfa.
Cewch gymorth ar bob cam a’r gwasanaethau sydd eu hangen, cyn gynted ag y bydd eu hangen arnoch. Mae ein Tîm Cymorth Myfyrwyr wedi’i lunio i’ch galluogi a’ch cefnogi i gyrraedd eich potensial llawn. Cewch fynediad i gyngor ac arweiniad o ansawdd uchel ar lesiant, cyllid a rhagor.
Byddwch yn datblygu sgiliau a gwybodaeth a fydd gyda chi gydol eich oes gyda chyfleoedd i bawb. Mae dosbarthiadau bach a darlithoedd diddorol yn annog cwestiynau a thrafodaethau, felly byddwch yn datblygu gwell dealltwriaeth o’ch dewis bwnc.