Care Direct Technology Ltd
Teitl: Gwella Trosglwyddo Gwybodaeth mewn Cwmnïau Fferyllol gyda Thechnoleg Realiti Estynedig (AR) Cynorthwyol
Maes Ymchwil: Ymddygiad Dynol a Mesur Seicoffisiolegol / Cipio Realiti, Modelu 3D ac Efelychu Rhithwir
Partner: Care Direct Technology Ltd
Amlinelliad o’r prosiect

Amlinelliad o’r prosiect
Mae CatSci Ltd, Sefydliad Ymchwil Contract (CRO) blaenllaw ym maes datblygu fferyllol yn arbenigo mewn darparu pecynnau gwybodaeth o ansawdd uchel i gleientiaid. Fodd bynnag, mae trosglwyddo prosesau fferyllol cymhleth rhwng cyfleusterau yn aml yn wynebu rhwystrau oherwydd bod gwybodaeth ymhlyg yn cael ei cholli - mewnwelediadau allweddol sy’n anodd eu dogfennu ac yn hawdd eu camddehongli.
Er mwyn mynd i’r afael â’r her hon, bu CatSci yn archwilio’r defnydd o dechnolegau cydweithredol a realiti estynedig (AR) amser real. Gallai’r offer hyn - a ddefnyddir yn gyffredin mewn diwydiannau eraill - alluogi cofnodi gweithdrefnau a gyflawnir mewn un cyfleuster a’u rhannu i’w hailadrodd yn gywir mewn mannau eraill. Fodd bynnag, mae costau uchel a’r nifer cyfyngedig o gwsmeriaid sy’n defnyddio’r offer yn parhau i fod yn rhwystrau.
Cyfraniad ATiC:
Fe wnaeth ATiC helpu CatSci i werthuso atebion AR sydd ar gael yn fasnachol a mabwysiadu llif gwaith i ddiwallu anghenion penodol amgylcheddau datblygu fferyllol.
Arbenigedd ATiC:
- Cynnal ymchwil i ddeall anghenion CatSci a’i gleientiaid o ran cyfathrebu gwybodaeth.
- Gwerthuso technolegau AR parod a thechnolegau cipio cyfryngau o ran eu haddasrwydd i hyfforddiant mewn labordai a throsglwyddo gweithdrefnau.
Effaith:
Rhoddodd y cydweithrediad hwn lwybr hyfyw, cost-effeithiol i CatSci i wella trosglwyddo gwybodaeth - gan bontio’r bwlch rhwng dogfennaeth ac arfer y byd go iawn mewn datblygu fferyllol.