ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Concentric Health

Concentric Health

Concentric Health 2

Teitl: Cynllunio Penderfyniadau Gofal Iechyd sy’n Canolbwyntio ar y Claf

Maes Ymchwil: Ymddygiad Dynol a Mesuriad Seicoffisiolegol

Partner:  Concentric Health

Amlinelliad o’r prosiect

Concentric Health

Amlinelliad o’r prosiect

Sefydlwyd Concentric Health gan ddau glinigwr oedd yn benderfynol i wella’r ffordd mae cleifion yn cymryd rhan mewn penderfyniadau am eu gofal - yn arbennig yn ystod enydau clinigol critigol sy’n cynnwys llawdriniaeth neu driniaethau mewnwthiol. Cawsant fod prosesau caniatâd presennol wedi dyddio, yn cael eu cadw ar bapur ac yn anodd eu personoli. Mewn ymateb, datblygasant blatfform caniatâd digidol i gefnogi gwneud penderfyniadau ar y cyd yn ystod ymgynghoriadau.

Cyfraniad ATiC:

Helpodd ATiC i Concentric Health droi mewnwelediadau clinigol yn blatfform effeithiol, hawdd ei ddefnyddio. Gwnaeth y cydweithio hwn ganolbwyntio ar ddymchwel rhwystrau at wybodaeth, gan alluogi i gleifion ddeall eu dewisiadau’n well a chymryd rhan yn weithredol yn eu gofal.

Arbenigedd ATiC:

  • Hwyluso sgyrsiau ystyrlon rhwng llawfeddygon a chleifion i sicrhau bod y platfform yn adlewyrchu anghenion y byd go iawn.
  • Cynnal ymchwil defnyddwyr gyda chleifion a chlinigwyr i lunio cynllun a defnyddioldeb y platfform.
  • Gweithio’n agos gyda’r tîm dylunio i ddarparu profiad defnyddiwr sythweledol sy’n cefnogi gwneud penderfyniadau gwybodus, cydweithredol.

Effaith:

Gwnaeth y bartneriaeth hon helpu i greu arf digidol sy’n grymuso cleifion, gwella cyfathrebu, a chefnogi clinigwyr wrth ddarparu gofal wedi’i bersonoli.

Gwybodaeth gysylltiedig