ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

eHealth Digital Media Ltd / PocketMedic

eHealth Digital Media Ltd / PocketMedic

eHealth Digital Media Ltd - PocketMedic

Teitl: Gwella Gofal Dementia a Gofal Diwedd Oes Trwy Adrodd Straeon Digidol 

Maes Ymchwil: Ymddygiad Dynol a Mesur Seicoffisiolegol

Partner: eHealth Digital Media Ltd / PocketMedic

Amlinelliad o’r prosiect

eHealth Digital Media Ltd - PocketMedic 1

Amlinelliad o’r prosiect

Fe wnaeth eHealth Digital Media Ltd bartneru ag ATiC i greu cyfres bwerus o ffilmiau sy’n archwilio profiadau bywyd pobl â dementia. Nod y ffilmiau hyn, a ddatblygwyd dros gyfnod o flwyddyn, yw cefnogi cleifion, teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol drwy addysg, empathi a chyd-ddealltwriaeth.

Mae’r gyfres o 10 ffilm sydd wedi deillio o hyn bellach ar gael ar blatfform sefydledig eHealth sef PocketMedic, sy’n darparu gwybodaeth iechyd a ragnodir gan glinigwyr i gefnogi hunanreoli cyflyrau cronig fel diabetes, COPD, iselder ysbryd a phryder.

Cyfraniad ATiC:

Roedd cyfranogiad ATiC yn allweddol wrth sicrhau cyllid gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i gynhyrchu’r gyfres gyntaf, a ddangoswyd yng Nghynhadledd y Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Gofal Integredig ym mis Mai 2021. Yn ddiweddarach ariannwyd ail gyfres sy’n canolbwyntio ar effaith dementia yng nghymunedau BAME Cymru.

Arbenigedd ATiC:

  • Cymhwyso offer ymchwil UX ac offer ymddygiadol datblygedig, gan gynnwys offer gwisgadwy sy’n tracio llygaid, offer adnabod mynegiant wyneb, a dadansoddiad arsylwadol o ddau gyfranogwr yn eu 80au, y ddau yn byw gyda dementia.
  • Defnyddio meddalwedd FaceReader i werthuso effaith emosiynol y ffilmiau ar draws cynulleidfaoedd amrywiol a grwpiau rhanddeiliaid.

Effaith:

Dangosodd y cydweithrediad hwn sut y gall adrodd straeon sy’n seiliedig ar ymchwil wella cyfathrebu, meithrin empathi, a chefnogi gofal mwy cynhwysol a thosturiol i bobl sy’n byw gyda dementia.

Gwybodaeth gysylltiedig