Gwylan UK
Teitl: Sleeping Lions – Cefnogi Rheolaeth Emosiynol yn yr Ystafell Ddosbarth
Maes Ymchwil: Ymddygiad Dynol a Mesuriad Seicoffisiolegol
Partner: Gwylan UK
Amlinelliad o’r prosiect

Amlinelliad o’r prosiect
Datblygodd Gwylan UK Sleeping Lions, system rheoli straen a gor-bryder yn y dosbarth a gynlluniwyd i helpu i blant reoli eu hemosiynau a gwella eu llesiant meddyliol. Mae’r system yn defnyddio ap ar lechen, clustffonau Bluetooth, a monitor cyfradd y galon a wisgir ar yr arddwrn i dywys plant trwy ymarferion i’w gostegu a thechnegau ymwybyddiaeth ofalgar.
Pan fydd plentyn yn ypsetio neu’n cael ei or-lethu, mae Sleeping Lions yn eu helpu i leihau eu cyfradd anadlu ac adennill rheolaeth – heb orfod gadael y dosbarth. Nid yn unig mae hyn yn cefnogi gwydnwch emosiynol ond hefyd yn lleihau colli amser dysgu a galluogi i ysgolion gefnogi iechyd meddwl disgyblion yn well.
Cyfraniad ATiC:
Gweithiodd ATiC gyda Gwylan UK i brofi a dilysu effeithiolrwydd Sleeping Lions mewn amgylcheddau ysgol go iawn.
Arbenigedd ATiC:
- Cynnal astudiaethau mewn ysgolion i werthuso effaith yr ap ar gyfradd y galon a rheolaeth emosiynol.
- Defnyddio tracio biometreg, dadansoddi mynegiant y wynebol, ac offer ymchwil ymddygiadol eraill i asesu effeithiolrwydd y system a mireinio profiad y defnyddiwr.
Effaith:
Darparodd y canfyddiadau dystiolaeth gref o fanteision y cynnyrch a chynigodd welliannau i’r fersiwn terfynol – gan helpu i ddod ag offeryn llesiant emosiynol gwerthfawr i ysgolion ac addysgwyr.