Kaydiar Ltd
Teitl: Cyflymu Lansiad Marchnad ZeroSole – Chwyldro ym maes Dadlwytho Pwysau
Maes Ymchwil: Mesur Symudiad Dynol a Pherfformiad
Partner: Kaydiar Ltd
Amlinelliad o’r prosiect

Amlinelliad o’r prosiect
Gweithiodd Kaydiar Ltd, arloeswr o Abertawe ym maes technoleg dadlwytho pwysau, mewn partneriaeth ag ATiC i werthuso ZeroSole - mewnwadn silicon, modylaidd, wedi’i gynllunio i leihau’r pwysau ar y droed. Mae’r cynnyrch yn targedu briwiau traed poenus, a achosir gan bwysau, gyda chymwysiadau sy’n amrywio o ofal diabetig i esgidiau bob dydd ac esgidiau chwaraeon.
Nod yr astudiaeth beilot oedd asesu effeithiolrwydd mewnwadn wrth ailddosbarthu pwysau ar draws arwyneb plantar y droed. Fe’i cynlluniwyd i’w ddefnyddio mewn esgidiau confensiynol, mae ZeroSole yn cynnig datrysiad addasadwy, dros y cownter (OTC) ar gyfer rheoli ac atal briwiau traed.
Fe’i lansiwyd yn haf 2024, a ZeroSole y mewnwadn silicon modylaidd cyntaf i sicrhau dadlwytho wedi’i lywio’n glinigol yn y farchnad OTC-ffarma.
Cyfraniad ATiC:
Cynhaliodd ATiC werthusiad cynhwysfawr i gefnogi datblygiad y cynnyrch a’i barodrwydd i’r farchnad.
Arbenigedd ATiC:
- Defnyddio mapio pwysau F-Scan mewn esgidiau i ddal data pwysau traed amser go iawn.
- Data pwysau cydamserol gyda fideo cipio symud i ddadansoddi osgo a symudiad.
- Cipio canfyddiadau profiadau defnyddiwr (UX) i lywio’r gwaith o fireinio cynnyrch.
Effaith:
Helpodd y cydweithrediad hwn Kaydiar i ddilysu perfformiad ZeroSole a chyflymu ei lwybr i’r farchnad—gan ddod â datrysiad newydd, hygyrch i bobl sy’n byw gyda phoen traed cronig.