LIMB-art Ltd
Teitl: Archwilio Effaith Cynfasau Coesau Prosthetig ar Lesiant
Maes Ymchwil: Ymddygiad Dynol a Mesuriad Seicoffisiolegol
Partner: LIMB-art Ltd
Amlinelliad o’r prosiect

Amlinelliad o’r prosiect
Sefydlwyd LIMB-art gan gyn-fedalydd Paralympaidd, Mark Williams, a’i wraig Rachel i helpu’r rhai sy’n defnyddio prostheteg i fynegi eu hyder a’u hunigolrwydd. Nod eu cynfasau coesau pwrpasol, bywiog yw grymuso defnyddwyr i fod yn falch o’u prostheteg – a chael hwyl wrth eu dangos i bawb.
Er mwyn archwilio effaith ehangach y cynhyrchion hyn, lluniodd LIMB-art bartneriaeth gydag ATiC a’r Hwb Ymgynghori Gwerthuso ac Ymchwil Seicolegol (PERCH) yng Nghanolfan Seicoleg a Chwnsela PCYDDS. Gyda’i gilydd, gwnaethant ymchwilio i sut mae cynfasau coesau prosthetig pwrpasol yn dylanwadu ar iechyd meddwl, llesiant, a phrofiadau cymdeithasol trychedigion, yn ogystal â chanfyddiadau cyhoeddus.
Cyfraniad ATiC:
Aeth yr astudiaeth archwiliadol hon i’r afael â newidynnau personol a chymdeithasol cymhleth, gan gynnig mewnwelediadau gwerthfawr i sut gall dylunio leihau stigma a gwella ansawdd bywyd trychedigion.
Cyfunodd ATiC a PERCH eu harbenigedd i:
- Ddefnyddio tracio llygad ar sgrin, adnabod mynegiant wynebol, a dadansoddi fideo i asesu ymatebion emosiynol ac ymddygiadol.
- Cydweithio ar ddylunio arbrofol, gan ddefnyddio gwybodaeth ddofn PERCH o seicoleg ac ymchwil seicogymdeithasol.
Effaith:
Gwnaeth y bartneriaeth unigryw hon helpu LIMB-art i ddeall gwerth emosiynol a chymdeithasol eu cynhyrchion yn well – gan gefnogi eu cenhadaeth i annog hyder a dathlu unigolrwydd.