Mangar Health
Teitl: Datblygu Datrysiadau Trosglwyddo Cleifion Saff
Meysydd Ymchwil: Mesur Symudiad a Pherfformiad Dynol
Partner: Mangar Health
Project outline

Amlinelliad o’r prosiect
Mangar Health yw prif ddarparwr dyfeisiau cynorthwyol pwmpiadol y DU ar gyfer codi, ymolchi, a chymorth yn y gwely – wedi’i ddylunio i leihau’r risg o anafiadau a hyrwyddo annibyniaeth pobl â symudedd cyfyngedig. Wrth i systemau gofal iechyd ymateb i ofynion poblogaeth sy’n heneiddio, mae’r angen am ddatrysiadau trin a thrafod cleifion yn saff ac effeithiol yn parhau i dyfu’n fyd-eang.
I fodloni’r gofyn hwn, gwnaeth Mangar lunio partneriaeth ag ATiC i archwilio cynhyrchion newydd sy’n gwella diogelwch a defnyddioldeb ar gyfer cleifion a gofalwyr. Eu ffocws: datblygu System Trosglwyddo Aer Cleifion i’w defnyddio mewn lleoliadau ysbyty.
Cyfraniad ATiC:
Gwnaeth ATiC gefnogi Mangar wrth drawsnewid eu cysyniad yn ddatrysiad dilys, sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr trwy brofion a gwerthusiadau trylwyr yn y byd go iawn.
Arbenigedd ATiC:
- Darparwyd cyfleusterau uwch ar gyfer profi cynhyrchion, gan gynnwys tracio symudiad pobl a dadansoddi biofecanyddol, i asesu perfformiad y prototeip.
- Ymuno â Mangar ar ymweliadau ag ysbytai ar draws y DU i gynnal gwerthusiadau defnyddioldeb gan ddefnyddio synwyryddion tracio symudiad ac electromyograffi (EMG) - gan feincnodi effeithiolrwydd ergonomig y system newydd a’i diogelwch yn erbyn cynhyrchion cystadleuwyr.
Gwnaeth y prosiect cydweithredol hwn helpu Mangar i fireinio system drosglwyddo fwy saff ac effeithlon, gan gryfhau eu safle yn y farchnad gofal iechyd fyd-eang.