Ҵý

Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o gyhoeddi bod dau o’i chwaraewyr pêl-rwyd gorau wedi’u dewis i gynrychioli Tîm Pêl-rwyd Prifysgolion Cymru, yn dilyn treialon hynod gystadleuol yn cynnwys myfyrwyr o bob rhan o Gymru.

Lauren, Cassy and Hannah photo together

Mae Lauren Evans, myfyriwr Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff sy’n chwarae i Glwb Pêl-rwyd Dulais, a Cassy Rumbelow, myfyriwr Plismona sy’n chwarae i’r Llanelli Sosbans ac a fydd yn graddio fis nesaf, ill dwy wedi ennill eu lle yn y garfan.

Yn ymuno â nhw bydd ein Pennaeth Pêl-rwyd, Hannah Poole, sy’n parhau yn ei rôl fel Rheolwr Tîm Prifysgolion Cymru.

Meddai Hannah: 

“Mae gennym garfan gref iawn eleni, ac mae’n wych gweld dau chwaraewr lleol yn llwyddo. Cafodd Lauren a Cassy dreialon gwych, ac rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar i weld beth fyddan nhw’n ei gyflawni ar y lefel hon. Mae’n galonogol iawn i fyfyrwyr eraill weld chwaraewyr o PCYDDS yn manteisio ar gyfleoedd mor anhygoel.”

Ychwanegodd Lee Tregoning, Pennaeth Academi Chwaraeon PCYDDS:

“Rydym yn hynod falch o Lauren a Cassy sydd wedi bod yn allweddol eleni yn llwyddiant Pêl-rwyd PCYDDS ac mae eu gweld yn cael eu gwobrwyo’n unigol fel hyn yn haeddiannol iawn. Rydym unwaith eto wrth gwrs yn falch iawn fod Hannah yn parhau yn ei rôl gyda Phrifysgolion Cymru. Mae cael presenoldeb o PCYDDS yn yr agweddau chwarae a rheoli yn wych i ni fel sefydliad.”

Llongyfarchiadau, Lauren, Cassy a Hannah ar y cyflawniad gwych hwn!

Bydd Tîm Pêl-rwyd Prifysgolion Cymru yn dechrau hyfforddi ac yn chwarae cyfres o gemau cyfeillgar yn erbyn timau’r gynghrair genedlaethol yn y cyfnod cyn eu gêm ryngwladol gyntaf. Byddant yn wynebu Prifysgolion Lloegr ddydd Mercher, 2 Gorffennaf yng Nghaerdydd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn Pêl-rwyd yn PCYDDS, cysylltwch â Hannah Poole yn h.poole@uwtsd.ac.uk 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon