Coleg Celf Abertawe yn Croesawu Myfyrwyr o Brifysgol Wuhan am Weithdy Darlunio Creadigol
Mae’r cwrs BA Darlunio yng Ngholeg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi croesawu 40 o fyfyrwyr o Brifysgol Technoleg Wuhan yn rhan o Ysgol Haf Tsieineaidd ehangach PCYDDS, menter sydd â’r bwriad o gynnig profiad dynamig a throchol i fyfyrwyr rhyngwladol yn addysg uwch y DU.

O dan arweiniad y darlithwyr Darlunio Ian Simmons a Jon Williams, cyflwynwyd y myfyrwyr gwadd gan y gweithdy i ysbryd cydweithredol ac arbrofol addysg ddarlunio yng Ngholeg Celf Abertawe PCYDDS. Dechreuodd sesiwn y bore gyda briff creadigol a chyflwyniad i weithgareddau’r diwrnod, cyn i’r myfyrwyr gael eu rhannu’n ddau grŵp mawr i weithio ar brosiect tynnu llun cydweithredol byw.
Bu’r ddau grŵp yn gweithio ar ddalen fawr o bapur a oedd yn croesi dwy res o fyrddau, gan annog mynegiant rhydd, gwaith tîm, a gweithio’n ddifyfyr. Hanner ffordd drwy’r sesiwn, fe wnaeth y grwpiau gyfnewid lle a pharhau i ddatblygu gwaith celf ei gilydd, profiad a wnaeth herio eu creadigrwydd a’u gallu i addasu.
Newidiwyd i ddylunio cymeriadau yn sesiwn y prynhawn, gyda briff newydd yn annog y myfyrwyr i archwilio anthropomorffaeth trwy greu cymeriadau gwreiddiol. Y tro hwn, bu’r myfyrwyr yn gweithio ar wahân, gan roi’r cyfle iddynt arddangos eu harddulliau personol a’u dehongliad o’r briff.
Canmolwyd yr ymweliad gan Shi Dong, darlithydd ym Mhrifysgol Technoleg Wuhan, a ddywedodd:
“Mae’r Ysgol Haf yn gyfle gwych i’r myfyrwyr ehangu eu gorwelion. Mae’r ffordd y cânt eu haddysgu yn Tsieina yn hollol wahanol i’r ffordd yr ydych yn addysgu yng Ngholeg Celf Abertawe, ac roedd yn dda gweld sut y gwnaethant ymdopi â’r briffiau a oedd y tu hwnt i’w ffiniau cyfforddus arferol. Fe wnaeth y myfyrwyr wir fwynhau’r cyrsiau gwahanol y buont yn cymryd rhan ynddyn nhw, ac mae wedi agor eu llygaid i ffordd wahanol o wneud pethau.”
Daeth y diwrnod i ben gyda chyflwyniad byr ar y rhaglen BA Darlunio, gan roi cipolwg i’r myfyrwyr ar strwythur, athroniaeth, a diwylliant creadigol y cwrs yn PCYDDS.
Meddai Ian Simmons: “Roedd y sesiwn yn rhan o ymrwymiad parhaus PCYDDS i gydweithio rhyngwladol a chyfnewid creadigol, sy’n galluogi myfyrwyr o bob rhan o’r byd i ymwneud â dulliau addysgol newydd, meithrin cysylltiadau byd-eang, ac ehangu eu harfer artistig.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071