Ҵý

Skip page header and navigation

Mae gan Siôn Jones sawl rheswm i ddathlu yr wythnos hon. Y mae’n derbyn ei radd BA Addysg Gynradd gyda SAC o gampws Caerfyrddin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac hefyd ef yw cyd-enillydd Gwobr Goffa D D Rees am Fathemateg.

Sion Jones at the Carmarthen Graduation, winner of the DD Rees Memorial Prize

Dyfarnwyd y wobr i Siôn am ei fod yn athro dan hyfforddiant rhagorol mewn Mathemateg yn ôl ei ddarlithwyr. 

Meddai Fiona Jones, Rheolwr Rhaglen y BA a thiwtor personol Sion, “Mae wedi bod yn fraint addysgu Siôn dros y tair blynedd ddiwethaf a gweld ei hyder yn datblygu ym mhob agwedd o fywyd y Brifysgol. Mae ei angerdd dros y Maes Dysgu a Phrofiad Mathemateg a Rhifedd wedi sicrhau fod ei wersi Mathemateg yn ei brofiadau addysgu proffesiynol yn hwylus ac wedi sbarduno’r disgyblion i fwynhau’r pwnc”.

Yn  wreiddiol o Gastell Newydd Emlyn a bellach yn byw yn Nhrefach Felindre, dewisodd Siôn i astudio yn y Drindod Dewi Sant oherwydd ei enw da am hyfforddi athrawon.

Dywed: “Roeddwn i’n ymwybodol o enw da’r Brifysgol wrth hyfforddi athrawon ac oherwydd bod astudio yng Nghaerfyrddin yn caniatáu i mi fyw gartref a pharhau i weithio, penderfynais ddod i astudio yn y Drindod”.

Roedd Siôn a’i frid ar weithio yn y byd addysg ac ar ôl cyfnod o weithio fel cynorthwydd dosbarth teimlodd bod cwrs Addysg Gynradd yn gam naturiol. 

“Ar ddechrau’r cwrs, fy mlaenoriaeth oedd pasio’r cwrs a bod yn athro cymwys. Ond ar ôl peth amser, roeddwn i’n benderfynol o greu argraff wych ar yr ysgolion yn ystod fy mhrofiadau addysgu proffesiynol a chreu enw da ar gyfer fy hun”, meddai. “Erbyn diwedd yr ail flwyddyn, ar ôl derbyn marciau da, roeddwn i eisiau gwneud fy ngorau yn ystod y drydedd flwyddyn er mwyn sicrhau gradd dosbarth cyntaf”.

Ymhlith yr hyn sydd wedi sefyll allan i Siôn oedd y staff y Brifysgol a’i gyd-fyfyrwyr. Meddai: “Does dim dwywaith mai uchafbwyntiau’r cwrs i mi oedd staff rhagorol y Brifysgol a chriw gwych o gyd-fyfyrwyr. Roedd yr adnoddau oedd ar gael i ni fyfyrwyr megis y llyfrgell a’r llyfrgell ar lein yn hynod o ddefnyddiol yn ystod y tair blynedd yn ogystal ag hyfforddiant megis ymwybyddiaeth awtistiaeth a SKIP Cymru. A pwy allai anghofio, cinio yn y Myrddin!”

Fel rhan o’r cwrs, bues ar dri phrofiad addysgu proffesiynol gwahanol le gefais amser gwych ac fe wnes i ddysgu cymaint sydd yn sicr wedi gwella fy ymarfer. Yn ogystal, roedd angen cwblhau prosiect ymchwil yn flynyddol. Yn y flwyddyn gyntaf, edrychais ar ymgysylltiad plant sydd â’r Cymraeg yn iaith gyntaf mewn gwersi o gymharu â phlant sydd â’r Gymraeg fel ail iaith. Yn ystod yr ail, ffocws fy ymchwil oedd strategaeth Asesu ar Gyfer Dysgu a’i effeithiolrwydd ac yn ystod y drydedd, penderfynais ymchwilio i’r effaith mae meddylfryd ac agwedd dysgwyr yn cael ar eu cyrhaeddiad ac ymgysylltiad academaidd”.

Cafodd Siôn ddigon o gefnogaeth gan y Brifysgol i gwblhau ei astudiaethau yn cynnwys pan brofodd ei deulu brofedigaeth.  Meddai:  Yn academaidd, doeddwn i ddim wir wedi wynebu unrhyw heriau, ac i’r Brifysgol mae’r diolch am hynny oherwydd roedd yr aseiniadau wedi’u trefnu mewn ffordd lle doedd y profiadau addysgu proffesiynol ddim yn amharu arnynt. Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf, yn anffodus roeddwn i wedi profi profedigaeth i deulu agos, ond roedd y Brifysgol yn garedig iawn ac yn wybodus yn ystod y cyfnod yma trwy gynnig cymorth ynglŷn â beth i wneud pan fod dyddiad cau aseiniad yn agos”.

Ers cwblhau’r cwrs, mae Siôn wedi bod yn gweithio fel athro cyflenwi ac mae’n canmol staff y Brifysgol a’i gyd fyfyrwyr. “Bydden i’n sicr yn argymell y cwrs hwn i eraill oherwydd nid yn unig mae’r cynnwys yn hynod o ddefnyddiol ar gyfer gyrfa yn y byd addysg, ond mae’r staff dysgu wir yn anhygoel. Maent bob amser yn barod i helpu gydag unrhyw beth, boed yn rhywbeth i wneud gyda’r brifysgol neu rywbeth personol. Maen nhw wedi hwyluso’r tair blynedd i mi’n sylweddol ac rwy’n hynod o ddiolchgar i bob un ohonynt.  Mae’r cwrs hefyd wedi fy helpu oherwydd dwi wedi dysgu cymaint o sgiliau hanfodol bydd yn ddefnyddiol i mi nid yn unig yn y byd addysg ond hefyd trwy gydol fy mywyd”.

“Ers gorffen y cwrs dwi wedi treulio peth amser yn cyflenwi fel athro ac yn gobeithio dod o hyd i swydd erbyn mis Medi, ond dwi’n fwy nag hapus i barhau i gyflenwi os na fydd hynny’n digwydd”, meddai. “Yn ddiweddar, mae fy nghariad a fi wedi prynu tŷ gyda’n gilydd ac wrthi’n ei hadnewyddu felly mae’n gyfnod cyffrous iawn i ni ac mae llawer o waith paentio ar y gorwel!”.


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;01267&Բ;676790

Rhannwch yr eitem newyddion hon