Ҵý

Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi’i henwi’n un o’r lleoliadau a fydd yn cynnal Rowndiau Terfynol mawreddog WorldSkills UK 2025, yn rhan o bartneriaeth newydd rhwng WorldSkills UK ac Ysbrydoli Sgiliau Rhagoriaeth yng Nghymru.

Picture of UWTSD IQ campus made up of red bricks and glass windows under blue skies

Mae’r digwyddiad arloesol hwn, a gynhelir rhwng 25 a 28 Tachwedd, 2025, yn cael ei gynnal dros amrywiaeth o leoliadau yn Ne Cymru, gan gynnwys adeilad IQ blaenllaw y Brifysgol ar gampws Glannau Abertawe, gan nodi’r tro cyntaf y mae’r Rowndiau Terfynol wedi’u cynnal yng Nghymru.

Meddai’r Athro Elwen Evans, CB, Is-Ganghellor PCYDDS: “Mae’r Brifysgol yn falch i fod yn un o’r lleoliadau sy’n cynnal Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK 2025, ac i eirioli dros y genhedlaeth nesaf o ymarferwyr proffesiynol medrus. Mae bod yn lleoliad ar gyfer y digwyddiad mawreddog hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i arloesi, cydweithio â diwydiant, a grymuso dysgwyr i lwyddo. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol genedlaethol – mae eich ymroddiad, talent ac uchelgais yn cynrychioli’r gorau mewn rhagoriaeth alwedigaethol.”

Mae Cystadlaethau WorldSkills UK yn nodwedd bwysig o’r tirlun addysg a hyfforddiant ôl-16, gan ddenu dros 6,000 o gofrestriadau bob blwyddyn ar draws Lloegr, Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Maent yn helpu i feincnodi sgiliau yn erbyn safonau o’r radd flaenaf a chefnogi dilyniant i mewn i yrfaoedd ansawdd uchel mewn sectorau sy’n allweddol i economi’r DU.

Meddai Ben Blackledge, Prif Weithredwr WorldSkills UK: “Bydd dod â Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK i Dde Cymru yn wych. Mae ein rhaglenni cystadlaethau sgiliau yn ganolog i yrru rhagoriaeth mewn addysg dechnegol, gan helpu dysgwyr i ddangos eu parodrwydd ar gyfer swyddi sgiliau uchel. Gan weithio gyda’n partneriaid yng Nghymru, byddwn yn dathlu technegwyr ifanc gorau’r DU ac yn amlygu’r rôl hanfodol mae sgiliau o’r radd flaenaf yn eu chwarae yn ein heconomi.”

Mae Jack Sargeant, Gweinidog Sgiliau Llywodraeth Cymru, wedi croesawu’r newyddion: “Mae’r cyfle i groesawu Rowndiau Terfynol WorldSkills UK 2025 i Gymru yn eithriadol o gyffrous. Rhaid i sgiliau fod yn flaenllaw wrth lunio economi mwy cynaliadwy a ffyniannus yng Nghymru. Gyda rhestr gadarn o enillwyr medalau, mae’n wych cynnal cam olaf y gystadleuaeth hon yma. Rwy’n gobeithio y bydd yn ysbrydoli’r don nesaf o dalent.”

Bydd cannoedd o gystadleuwyr ifanc yn cael eu profi yn y rowndiau terfynol ar draws amrywiol ddisgyblaethau gan gynnwys Gweithgynhyrchu Ychwanegion, Peiriannu dan Reolaeth Cyfrifiadur (CNC), Awtomatiaeth, Roboteg, Electroneg Diwydiannol ac Ynni Adnewyddadwy. Gall cystadleuwyr sy’n perfformio’n uchel fynd ymlaen i gynrychioli’r DU mewn Cystadlaethau WorldSkills rhyngwladol yn y dyfodol.

Ychwanegodd Paul Evans, Llysgennad Sgiliau Cymru a Chyfarwyddwr Prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau: “Rydym wrth ein bodd i ddod â Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK i Gymru. Mae cymryd rhan mewn cystadlaethau yn cynnig cyfleoedd sy’n gallu newid bywydau pobl ifanc. Mae’n dod â mantais gystadleuol i gyflogwyr ac yn ehangu gwybodaeth ar draws y sector addysg a hyfforddiant.Rydym yn edrych ymlaen at groesawu goreuon y DU i ddigwyddiad arbennig.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;07384&Բ;467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon