Ҵý

Skip page header and navigation

Llongyfarchiadau i fyfyrwraig Birmingham PCYDDS, Nazia Khan, sy’n graddio gydag MSc mewn Iechyd y Cyhoedd a Gofal Cymdeithasol mewn Ymarfer heddiw. Mae taith Nazia i lwyddiant academaidd yn stori bwerus o wydnwch, penderfyniad, ac ymrwymiad diwyro i helpu eraill.  

an image of Nazia Khan at graduation

A hithau’n fenyw Fwslimaidd Brydeinig o dras Bacistanaidd, roedd angerdd Nazia am addysg yn amlwg yn gynnar, ond oherwydd amgylchiadau personol roedd rhaid cefnu ar astudiaethau ffurfiol ar ôl coleg. Fodd bynnag, parhaodd ei chariad at ddysgu yn gryf, wedi’i feithrin trwy flynyddoedd o waith ymroddedig yn weithiwr cymorth i unigolion bregus. 

Ar ôl seibiant hir o addysg, dyma Nazia yn dod o hyd i’r cyfle iawn ar gampws Birmingham Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) gan gofrestru ar y rhaglen BSc Iechyd a Gofal Cymdeithasol symud ymlaen maes o law i MSc mewn Iechyd y Cyhoedd a Gofal Cymdeithasol. “Roeddwn i’n angerddol am ddyfnhau fy ngwybodaeth a’m sgiliau i wasanaethu eraill yn well,” rhannodd, gan ychwanegu bod y cyrsiau yn cynnig y cyfuniad delfrydol o ddyfnder academaidd a pherthnasedd yn y byd go iawn. 

Doedd hi ddim yn hawdd dychwelyd i addysg ar ôl 25 mlynedd ac mae Nazia wedi wynebu rhwystrau sylweddol. 

Meddai: “Roedd dilyn fy addysg yn fwy na thaith academaidd, daeth yn brawf personol o wydnwch. Yn ystod cyfnod pan oeddwn i’n wynebu’n dawel heriau iechyd sylweddol, dewisais i barhau i symud ymlaen, wedi fy ngyrru gan bwrpas a gobaith.  

“Dysgodd y profiad hwnnw i mi nid yn unig werth dyfalbarhad, ond hefyd y cryfder a all dyfu mewn tawelwch. Roedd i bob carreg filltir a gyrhaeddais ystyr ddyfnach, ac roedd pob llwyddiant yn atgoffa y gall penderfyniad ffynnu hyd yn oed yn y tymhorau anoddaf. 

“Yn Y Drindod Dewi Sant, roedd hi’n anrhydedd i mi ennill pedair gwobr i gydnabod fy mherfformiad rhagorol mewn modylau a thraethodau hir.” 

Doedd dim pall ar ei phenderfyniad. “Roeddwn i am brofi i mi fy hun nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddilyn eich breuddwydion,” meddai. Talodd ei hymdrechion ar eu canfed gyda chanlyniadau lefel rhagoriaeth yn y ddwy radd. 

Ymhlith ei chyflawniadau academaidd niferus, mae Nazia yn tynnu sylw at y llawenydd o ymgysylltu ag ymchwil ystyrlon a’r gymuned gymorth gref a gafodd yn PCYDDS. Roedd ei gwaith arbenigol yn canolbwyntio ar faterion hanfodol mewn iechyd a gofal cymdeithasol, gan roi’r hyder a’r arbenigedd iddi ffynnu yn y maes. 

Mae Nazia yn bwriadu parhau i gael effaith gadarnhaol ar y sector gwasanaethau iechyd. I’r rhai sy’n ystyried llwybr tebyg, mae hi’n llwyr  argymell y rhaglen: “Mae’n ddelfrydol i unrhyw un sy’n angerddol am iechyd a gofal cymdeithasol ac sy’n awyddus i ddatblygu sgiliau sy’n gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd.” 

Mae stori Nazia Khan yn dyst i ddyfalbarhad, gan brofi, ni waeth beth fo’r rhwystrau, ei bod hi bob amser yn bosibl trawsnewid eich bywyd chi a bywydau eraill trwy addysg. 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon