Ҵý

Skip page header and navigation

Mae Marchnad Nadolig flynyddol y dref a’r brifysgol, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar gampws Llambed, wedi codi swm ardderchog o £1,000.

Cyflwyno siec Marchnad Nadolig Meryl Thomas (PCYDDS), Anwen Roberts (Cylch Meithrin Pont Pedr), Elin Lloyd-Williams (PCYDDS)
Meryl Thomas (PCYDDS), Anwen Roberts (Cylch Meithrin Pont Pedr), Elin Lloyd-Williams (PCYDDS)

Cafodd yr arian a godwyd ei rannu rhwng Pwyllgor Henoed Llambed, Cylch Meithrin Carreg Hirfaen a Chylch Meithrin Pont Pedr. 

Roedd y digwyddiad yn cynnwys stondinau yn cynnig anrhegion a chrefftau unigryw, yn ogystal â pherfformiadau swynol gan Gôr Cwmann a phlant ysgolion cynradd lleol. Cefnogwyd y digwyddiad gan Gyngor Tref Llanbedr Pont Steffan, Siambr Fasnach Llanbedr Pont Steffan, a grŵp ymroddedig o staff y brifysgol.

Wendy Davies (Cylch Meithrin Carreg Hirfaen), Meryl Thomas (YDDS), Elin Lloyd- Williams (YDDS) a rhai o blant y cylch yn derbyn siec
Wendy Davies (Cylch Meithrin Carreg Hirfaen), Meryl Thomas (PCYDDS), Elin Lloyd- Williams (PCYDDS) gyda rhai o blant y Cylch Meithrin.

Dywedodd un o’r trefnwyr, Elin Lloyd Williams:

“Hoffwn ddiolch i bawb a gefnogodd y digwyddiad a hynny er gwaethaf y tywydd garw.  Rydym yn hynod falch i weld bod tri achos da sy’n cyfrannu cymaint yn lleol yn mynd i elwa o’r arian a godwyd ar y diwrnod. ”

Lampeter Christmas Market Young At Heart cheque presentation
Aelodau Pwyllgor Henoed Llambed (Young at Heart) gyda Meryl Thomas ac Elin Lloyd Williams o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
ô:&Բ;07384&Բ;467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon