Myfyriwr Graddedig yn Hyrwyddo Arloesedd ac Ymchwil mewn Iechyd Cyhoeddus
Mae Gaurav Janakbhai Patel, myfyriwr MSc Iechyd y Cyhoedd s a Gofal Cymdeithasol mewn Ymarfer sy’n graddio o’n campws yn Llundain heddiw, wedi troi ei angerdd dros feddyginiaeth ac arloesi yn gyfraniadau academaidd a phroffesiynol effeithiol.

Yn feddyg cymwys a dysgwr gydol oes, ymunodd Gaurav â PCYDDS gyda’r nod o ehangu ei wybodaeth y tu hwnt i feddygaeth glinigol i fynd i’r afael â heriau ehangach iechyd y cyhoedd.
“Rwyf bob amser wedi ymrwymo i ddefnyddio fy nghefndir meddygol i wneud gwahaniaeth ym mywydau cymunedau,” meddai. “Dyna wnaeth fy arwain i ddilyn gradd meistr mewn iechyd y cyhoedd a gofal cymdeithasol. PCYDDS, sy’n adnabyddus am ei ddull blaengar mewn addysg iechyd y cyhoedd, oedd fy newis cyntaf.”
Gwnaeth ffocws y rhaglen ar gymhwysiad ymarferol, dadansoddi polisi, a dysgu rhyngddisgyblaethol argraff barhaol. “Roedd cynnwys y cwrs yn hynod berthnasol i heriau iechyd y cyhoedd byd-eang a chenedlaethol cyfredol,” meddai Gaurav. “Roedd ei ffordd o integreiddio gofal cymdeithasol o fewn fframweithiau iechyd y cyhoedd, ochr yn ochr â’r cyfle i gymryd rhan mewn ymchwil ystyrlon, yn amserol ac yn ysbrydoledig.”
Trwy gydol y cwrs, croesawodd Gaurav y cyfle i gyfuno dysgu academaidd â chymwysiadau yn y byd go iawn. Mae’n diolch i PCYDDS am feithrin ei dwf nid yn unig fel myfyriwr, ond fel ymchwilydd ac arloeswr. “Rhoddodd y brifysgol gymorth ddiwyro, gan fy ngalluogi i archwilio’r meysydd rydw i’n angerddol amdanynt, megis arweinyddiaeth, hyrwyddo iechyd, a gwerthuso polisi,” meddai.
Un o uchafbwyntiau taith academaidd Gaurav oedd cymryd rhan mewn ymchwil. Mae wedi cwblhau saith prosiect ymchwil hyd yn hyn, a chynhaliwyd tri ohonynt yn ystod ei astudiaethau yn PCYDDS. Dewiswyd dau o’r rhain i’w cyflwyno mewn cynadleddau iechyd y cyhoedd a gynhaliwyd gan Brifysgol Warwick, Cofentri, gan danlinellu ei enw da cynyddol ym maes ymchwil cymhwysol iechyd y cyhoedd.
Yn awyddus i roi’n Ă´l, mae Gaurav bellach yn gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr PCYDDS i ddatblygu mentrau a fydd yn darparu cyfleoedd ymchwil ymarferol i fyfyrwyr y dyfodol. “Rydym yn cydweithio ar brosiectau sydd ar ddod i sicrhau bod pob myfyriwr yn elwa o ddysgu ymchwil drwy brofiadau,” meddai.
Er gwaethaf gofynion cydbwyso gwaith academaidd dwys â chyfrifoldebau personol, llywiodd Gaurav heriau gyda phenderfyniad. “Roedd rheoli amser a chefnogaeth gan fentoriaid yn hanfodol,” ychwanegodd. “Gwnaeth adnoddau ac amgylchedd y brifysgol fy helpu i ffynnu hyd yn oed yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol.”
Mae Gaurav bellach yn bwriadu dilyn rĂ´l o fewn y GIG fel gwneuthurwr polisi neu ymarferydd iechyd y cyhoedd. Ei nod hirdymor yw cyfrannu at strategaethau iechyd cenedlaethol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac yn ymateb yn gymdeithasol gan fynd i’r afael ag anghydraddoldebau gofal iechyd a gwella canlyniadau’r boblogaeth.
“Byddwn yn argymell yn fawr yr MSc mewn Iechyd y Cyhoedd a Gofal Cymdeithasol mewn Ymarfer yn PCYDDS i unrhyw un sy’n chwilio am addysg drylwyr, sy’n canolbwyntio ar ymarfer,” meddai. “Mae’n arbennig o werthfawr i weithwyr proffesiynol o gefndiroedd clinigol sydd eisiau trosglwyddo i bolisi, ymchwil, neu weinyddiaeth iechyd y cyhoedd.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ąó´ÚĂ´˛Ô:&˛Ô˛ú˛ő±č;07384&˛Ô˛ú˛ő±č;467071