Ҵý

Skip page header and navigation

“Nid wyf yn cael fy nghyfyngu gan label.  Rwy’n cael fy ngyrru gan bwrpas, a byddaf yn parhau i godi.” – Serena Bailey 

Serena Bailey, sy’n graddio heddiw o’r rhaglen BSc Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Gampws Birmingham, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), yw gwir ddiffiniad gwydnwch, cryfder a phenderfyniad.  Nid oedd ei thaith i addysg uwch yn ymwneud ag ennill gradd yn unig, roedd yn ymwneud ag ailysgrifennu ei stori, adeiladu dyfodol i’w merch, a throi heriau personol yn bwrpas proffesiynol.  

Serena Bailey graduation photo

Mae cymhelliant Serena i ymuno â’r sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn deillio o le personol iawn.  Ar ôl tyfu i fyny yn gwylio ei mam yn brwydro yn erbyn pryder ac iselder, datblygodd Serena synnwyr cryf o empathi ac awydd i wneud gwahaniaeth.  Roedd gweld effaith iechyd meddwl ar aelwyd rhiant sengl wedi’i hysbrydoli i ddilyn gyrfa lle gallai gefnogi eraill sy’n wynebu heriau tebyg.  

“Dewisais y cwrs hwn oherwydd fy mhrofiadau byw.   Mae fy mam wedi cael trafferth gydag iechyd meddwl ers blynyddoedd, ac roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau gwneud rhywbeth a fyddai’n fy nghaniatáu i helpu pobl fel hi,” meddai Serena.  

Fodd bynnag, roedd y llwybr i’r brifysgol yn bell o fod yn un llyfn. Ar ôl cael diagnosis o ddyslecsia ym Mlwyddyn 4, roedd Serena yn ei chael hi’n anodd drwy gydol ei chyfnod yn yr ysgol, yn aml yn tangyflawni er gwaethaf ei hymdrechion.  Ond, cymerodd ei bywyd dro pwerus, pan ddaeth hi’n fam yn 18 oed.  Daeth yr eiliad honno’n gatalydd am newid.  

“Roedd cael fy merch wedi newid popeth i mi.  Roeddwn i eisiau gwella fy hun, nid yn unig i mi, ond iddi hi.  Roeddwn i eisiau iddi dyfu i fyny gyda rhywun i edrych i fyny ato,” meddai.  

Ar y dechrau, cofrestrodd Serena i gwblhau Lefel 4 o’r cwrs yn unig.  Ond roedd y profiad o lwyddo ar y lefel gyntaf wedi sbarduno rhywbeth dyfnach, angerdd dros ddysgu ac awydd i ddal ati.   

Meddai: “ Doeddwn i ddim yn gallu stopio yna.  Roeddwn i eisiau cyflawni mwy, deall mwy a gwthio fy hun ymhellach.” 

Er gwaethaf ei heriau cychwynnol gyda dyslecsia, mae Serena yn cydnabod y cymorth anhygoel a gafodd gan PCYDDS a’i helpodd i lwyddo.  Gyda chymorth y brifysgol, cafodd sesiynau mentora un i un wythnosol, technoleg gynorthwyol, a throshaenau i’w helpu gyda darllen.  Cafodd y cymorth wedi’i deilwra hwn effaith ddwys.  

“ Roedd fy mentoriaid wedi fy helpu i fynegi fy nheimladau’n glir a gofyn cwestiynau heb ofn.  Tyfodd fy hyder, a dechreuais weld fy marciau asesu yn gwella.  Roedd yn gwneud i mi deimlo’n falch i weld y cynnydd roeddwn yn ei wneud,” meddai. 

Uchafbwynt ei phrofiad prifysgol oedd y system gymorth ddiysgog, meddai.  Roedd y darlithwyr, y teulu, ac yn enwedig gwasanaethau gyrfaoedd y brifysgol wedi bod yn gefnogol iawn iddi drwy gydol ei thaith academaidd.  

“Roedd astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn PCYDDS yn agoriad llygad go iawn.  Nid yn unig, roedd wedi fy mharatoi’n broffesiynol, ond roedd wedi fy helpu i dyfu’n bersonol  hefyd.  Mae’r cwrs hwn yn eich dysgu i fod yn empathetic, i wrando, ac i wir ddeall pobl.  Mae’r rhain yn sgiliau rydych yn eu defnyddio pob dydd mewn bywyd, nid yn unig mewn swydd.” 

Heddiw, mae Serena yn anelu at ddod yn Weithiwr Cyfiawnder Ieuenctid.  Mae’n benderfynol o ddefnyddio ei gradd, ei phrofiadau personol, a’i llais i gefnogi pobl ifanc sy’n wynebu trallod, yn enwedig y rhai sy’n cael eu heffeithio gan faterion iechyd meddwl.  

“Nid yw hon yn dystysgrif yn unig, i fi, mae’n symbol o ddyfalbarhad a chryfder.  Gallai ennill Anrhydeddau Dosbarth Cyntaf er gwaethaf dyslecsia yn ymddangos fel her, ond mae bellach yn rhan o fy nhaith, nid ei diwedd.  Nid oedd dyslecsia wedi fy rhwystro; dysgodd i mi fod yn wydn ac yn greadigol.” 

Mae ei neges i eraill a allai fod yn wynebu heriau tebyg yn glir:  

“Peidiwch â rhoi’r gorau iddi. Rydych chi’n gallu gwneud hyn.  Nid ydych yn cael eich diffinio gan eich anawsterau; rydych yn cael eich diffinio gan eich pwrpas.” 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon