O Shifftiau Nos i Anrhydedd Dosbarth Cyntaf : Myfyriwr Aeddfed yn cyflawni gradd mewn Plismona Proffesiynol yn PCYDDS
Roedd Matthew Rees, myfyriwr aeddfed o Abertawe, yn falch o raddio gyda Gradd Baglor Dosbarth Cyntaf mewn Gwyddoniaeth gydag Anrhydedd mewn Plismona Proffesiynol o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), gan oresgyn heriau sylweddol ar hyd y ffordd.

Ar ôl yr ansicrwydd a ddaeth yn sgil pandemig COVID-19, dechreuodd Matthew ail-werthuso ei lwybr gyrfa a chafodd ei ddenu at y syniad o ymuno â’r heddlu. Ar ôl dysgu bod cymhwyster Plismona Proffesiynol Lefel 1 yn gam angenrheidiol, dechreuodd ymchwilio i opsiynau lleol a darganfu bod PCYDDS nid yn unig yn cynnig y cymhwyster lefel mynediad hwn, ond hefyd gradd BSc lawn mewn Plismona Proffesiynol.
“Rhaid cyfaddef bod y syniad o fynd i’r brifysgol yn fy nhridegau braidd yn frawychus,” meddai Matthew, “ond roeddwn i’n benderfynol o beidio â gadael i hynny fy nal i yn ôl.”
Roedd lleoliad campws canol dinas cyfleus PCYDDS a’r cyfleusterau rhagorol yn amgylchedd perffaith i Matthew ddechrau ar ei daith academaidd.
O’r cychwyn cyntaf, gwnaeth dull strwythuredig a chefnogol y brifysgol argraff ar Matthew. “O’r diwrnod cyntaf, cawsom ni ein cyflwyno i’r staff addysgu, derbynion ni ein hamserlenni, a chafodd y flwyddyn academaidd gyfan ei hesbonio’n glir. Roedd y cyfathrebu’n ardderchog yn gyson, ac roedd hi bob amser yn hawdd cysylltu â’r darlithwyr, naill ai’n bersonol neu drwy’r e-bost.”
Un o gryfderau allweddol y rhaglen Plismona Proffesiynol yw ei pherthnasedd yn y byd go iawn. Mae’r rhan fwyaf o ddarlithwyr yn dod o gefndiroedd plismona, milwrol neu gyfreithiol blaenorol, gan ddod â phrofiad amhrisiadwy i’r ystafell ddosbarth. Roedd siaradwyr gwadd, gan gynnwys ymchwilwyr preifat, arbenigwyr fforensig digidol, a swyddogion heddlu rheng flaen, yn cyfoethogi’r profiad dysgu yn rheolaidd â chanfyddiadau a safbwyntiau byw a oedd yn mynd ymhell y tu hwnt i’r gwerslyfr.
Yn rhan o’r cwrs, cymerodd myfyrwyr ran mewn teithiau maes ymdrochol hefyd. Roedd ymweliad â Llys Ynadon Abertawe yn sefyll allan i Matthew: “Wrth siarad yn uniongyrchol â barnwr ces i gip ar achosion llys a oedd o gymorth mawr gyda fy arholiadau diwedd blwyddyn,” meddai.
Ac yntau’n cydbwyso bywyd yn fyfyriwr amser llawn wrth weithio shifftiau nos amser llawn yn Amazon, doedd llwybr Matthew ddim yn un hawdd. Ond gyda dyfalbarhad, penderfyniad, a chymorth cryf gan staff PCYDDS a gwasanaethau llesiant myfyrwyr, roedd yn gallu rhagori.
“Mae’r gamp hon yn ganlyniad i waith caled cyson, mynychu darlithoedd, cyflwyno pob aseiniad ar amser, a rheoli amser yn effeithiol,” meddai Matthew. “Rydw i wrth fy modd â’r canlyniad.”
“I unrhyw un sy’n meddwl am yrfa mewn plismona, rwy’n argymell y radd Plismona Proffesiynol yn PCYDDS. Mae’r flwyddyn academaidd yn hedfan heibio, a gydag ymrwymiad a chynllunio, byddwch chi’n synnu at yr hyn y gallwch chi ei gyflawni.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476