Ҵý

Skip page header and navigation

Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) gyhoeddi ei bod wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori ‘Darlithwyr ac Ansawdd Addysgu’ yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni (WUSCAs) 2025

Students throwing hats outside during graduation at UWTSD

Mae’r gydnabyddiaeth hon yn tanlinellu ymrwymiad cryf y brifysgol i gyflwyno addysgu eithriadol a meithrin amgylchedd academaidd cyfoethog i’w myfyrwyr.

Mae’r WUSCAs yn unigryw yn y sector addysg uwch, gan eu bod wedi’u seilio’n gyfan gwbl ar adolygiadau myfyrwyr, gan adlewyrchu profiadau gwirioneddol myfyrwyr ledled y DU. Cynhelir seremoni wobrwyo 2025 ar 21 Mai 2025 yn The Brewery yn Llundain, gyda’r gwesteiwr uchel ei barch Alexander Armstrong yn arwain.

Mynegodd yr Athro Mirjam Plantinga, Dirprwy Is-Ganghellor, ei balchder yng nghyflawniad y brifysgol:
“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael ein henwebu ar gyfer y wobr ‘darlithwyr ac ansawdd addysgu’ ac i’n myfyrwyr fod wedi cydnabod y cymorth a gânt gan eu tiwtoriaid. Yn PCYDDS, rydym yn blaenoriaethu dull sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr, gan sicrhau bod ein dysgwyr yn cael addysg a chymorth o’r safon uchaf. Mae’r gydnabyddiaeth hon, yn seiliedig ar adborth myfyrwyr, yn arbennig o ystyrlon i ni.”

Mae’r WUSCAs yn gwerthuso sefydliadau ar draws categorïau amrywiol, gan gynnwys ‘Prifysgol y Flwyddyn’, ‘Rhagolygon Gyrfa’, a ‘Chymorth i Fyfyrwyr’. Mae cynnwys PCYDDS ar restr fer ‘Darlithwyr ac Ansawdd Addysgu’ yn amlygu ei hymdrechion cyson i wella methodolegau addysgu ac ymgysylltiad myfyrwyr.

I gael rhagor o wybodaeth am y Whatuni Student Choice Awards ac i weld y rhestr lawn o sefydliadau ar y rhestr fer, ewch i .


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
ô:&Բ;07384&Բ;467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon