Y Drindod Dewi Sant yn cynnal Diwrnod i Gymdeithas Strôc
Roedd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch o gynnal digwyddiad agored a drefnwyd mewn partneriaeth â’r yn ei Chanolfan Iechyd Gwyrdd Cynefin yn Johnstown Caerfyrddin.

Pwrpas y diwrnod oedd casglu adborth ar hygyrchedd y cyfleuster gan ddefnyddwyr posibl, yn enwedig y rhai sy’n gwella ar ôl strôc, fel y gall mwy o bobl fwynhau sesiynau lles sy’n seiliedig ar natur yn y ganolfan.
Nod Canolfan Iechyd Gwyrdd Cynefin yw hyrwyddo lles a chyfleoedd iechyd meddwl i grwpiau cymunedol drwy fynediad i fannau gwyrdd lleol. Mae’n gweithio gyda sawl partner i gynnal gweithgareddau sy’n hyrwyddo lles, bondio cymdeithasol, a gwybodaeth am y byd naturiol.
Dywedodd Andrew Williams, Swyddog Prosiect ac Ymgysylltu PCYDDS yn Cynefin: “Rydym yn croesawu’r cyfle i gasglu barn ar ein cyfleusterau fel y gall mwy o bobl fwynhau’r amrywiaeth o weithgareddau a gynigiwn. Mae Cynefin yn lle y gall pawb deimlo croeso, lle o seibiant, cyfeillgarwch a thwf. Mae’r gweithgareddau’n manteisio ar ein lleoliad gwledig i roi cyfle i ymgolli ym myd natur, dysgu sgiliau i fynd ychydig yn agosach at fyw’n naturiol a gwneud ymarfer corff iach, ysgafn ymhlith cymuned gefnogol.”
Dywedodd Carla Williams, Cydlynydd y Gymdeithas Strôc, gwasanaeth Cyswllt Cymunedol Sir Gaerfyrddin a ariennir gan Gyngor Sir Caerfyrddin: Mae’n gyffrous cael cyfle i oroeswyr Strôc ddefnyddio eu profiad byw i helpu i lunio amgylchedd a fydd yn cynorthwyo adferiad, cefnogi dysgu sgiliau newydd a phresennol. a hwyluso cefnogaeth hanfodol gan gymheiriaid. Gallai’r Hyb Iechyd Gwyrdd fod o fudd i lawer o grwpiau o bobl i reoli eu hiechyd a’u lles a chreu cyfleoedd i wneud cyfraniad.
Derbyniodd prosiect Canolfan Iechyd Gwyrdd Cynefin gyfanswm o £270,000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Fe’i lansiwyd ym mis Ionawr mewn partneriaeth â , sy’n darparu rhaglenni lles coetir am ddim ledled Cymru, gan gyfuno’r byd naturiol a’r gweithgareddau a osodir mewn mannau coetir i wella iechyd a lles. Mae eu gwaith yn cynnig cyfleoedd i unigolion gefnogi eu lles gyda 5 ffordd y GIG o les fel fframwaith (rhowch yn ôl, sylwi, bod yn actif, dysgu, cysylltu).
Mae Cynefin yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau fel byw yn y gwyllt, naddu, gwehyddu helyg, canu, llifynnau ac inciau naturiol, tecstilau, chwedlau Cymreig, fforio, gwneud meddyginiaeth naturiol, coginio ar dân gwersyll, adrodd straeon, cysylltu â natur, plannu hadau, gwaith lledr a llawer mwy! Mae’r gweithgareddau’n cael eu cynnal yn ystod cyfarfodydd misol neu fel darpariaeth o raglenni 6 wythnos. Mae’r gweithgareddau yn agored i bawb. Bydd rhai gweithgareddau ar gyfer oedolion yn unig, tra bydd eraill yn canolbwyntio ar y teulu.
I gael gwybod mwy, cysylltwch â: Andrew Williams (a.williams1@uwtsd.ac.uk).
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071