Y Drindod Dewi Sant yn dathlu derbyn Gwobr y Faner Werdd ar gampysau Llambed a Chaerfyrddin am y trydydd tro yn olynol
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o gyhoeddi bod ei champysau yn Llambed a Chaerfyrddin wedi ennill Gwobr fawreddog y Faner Werdd unwaith eto - gan nodi’r drydedd flwyddyn yn olynol i’r brifysgol dderbyn y gydnabyddiaeth genedlaethol hon.

Mae Gwobr y Faner Werdd, a reolir yng Nghymru gan Cadwch Gymru’n Daclus, yn feincnod rhagoriaeth ar gyfer parciau a mannau gwyrdd sy’n cael eu rheoli’n dda. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus PCYDDS i gynaliadwyedd, bioamrywiaeth, a chynnal mannau awyr agored rhagorol i staff, myfyrwyr, a’r gymuned ehangach.
Mae derbyn y wobr am y drydedd flwyddyn yn olynol yn dyst gwych i ymroddiad a gwaith caled tîm ystadau’r brifysgol, sydd wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyl yn gyson i wella bioamrywiaeth, hygyrchedd, ac ansawdd cyffredinol amgylcheddau’r campws.
Dywedodd, Koi Merebark, Rheolwr Cynaliadwyedd y brifysgol:
“Rydym yn hynod falch o gael ein cydnabod unwaith eto gyda Gwobr y Faner Werdd. Mae’n adlewyrchiad o ymdrechion diflino ein tîm ystadau a’u hymrwymiad i greu mannau gwyrdd croesawgar, bioamrywiol, a chynaliadwy ar draws ein campysau. Mae’r wobr yn tynnu sylw at werthoedd amgylcheddol y brifysgol a’r pwysigrwydd a roddwn ar fannau lles awyr agored i’n cymuned.â€
Nid yn unig y mae Gwobr y Faner Werdd yn dathlu apêl weledol mannau gwyrdd, ond mae hefyd yn cydnabod pwysigrwydd arferion cynaliadwy a bioamrywiaeth. Mae buddsoddiad parhaus y brifysgol mewn seilwaith gwyrdd, plannu sy’n gyfeillgar i beillwyr, a chynlluniau rheoli ecolegol yn dangos ei hymrwymiad cadarn i gyfrifoldeb amgylcheddol a gweithredu ar yr hinsawdd.
Hoffai Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ddiolch i bawb sy’n ymwneud â chynnal a datblygu ei mannau gwyrdd - ac yn edrych ymlaen at adeiladu ar y cyflawniad hwn yn y blynyddoedd i ddod.
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;07384&²Ô²ú²õ±è;467076