Arweinydd Telathrebu yn Troi’n Ymchwilydd: PCYDDS Llundain yn Dathlu Charles Okeyia Sydd Wedi Graddio o’r DBA
Bu Dr Charles Okeyia, rheolwr telathrebu sydd bellach wedi graddio o’r cwrs Doethur mewn Gweinyddiaeth Busnes (DBA) ar gampws Llundain Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn dathlu ei gyrhaeddiad academaidd heddiw, gan nodi carreg filltir arwyddocaol yn ei ymgais i bontio arbenigedd yn y diwydiant ac ymchwil academaidd cymhwysol.

Gyda chefndir proffesiynol mewn rheoli asedau telathrebu ac awch am ddatrys problemau strategol, dewisodd Charles raglen DBA PCYDDS sy’n canolbwyntio ar arfer i ddwysáu ei effaith mewn arweinyddiaeth busnes ac ysgolheictod academaidd fel ei gilydd.
Mae gan Dr Okeyia flynyddoedd o brofiad ym maes rheoli asedau a gweithrediadau telathrebu, a’i awydd i gysylltu ymchwil ag arfer yn y byd go iawn a’i arweiniodd at PCYDDS. “Roedd strwythur y rhaglen DBA, sy’n cyfuno ymchwil cymhwysol â fframweithiau damcaniaethol wedi’u teilwra i heriau’r gweithle, yn cyd-fynd yn berffaith â’m nodau proffesiynol,” meddai.
Pan ofynnwyd iddo am ei gymhelliad i ddilyn y cwrs, pwysleisiodd Dr Okeyia ei uchelgais i ennill sgiliau ymchwil uwch, i ddyfnhau ei sgiliau meddwl yn feirniadol, ac i ddatblygu agwedd fwy strategol at reoli ac arwain. “Mae’r daith hon wedi fy helpu i ddatblygu’r wybodaeth a’r hyder i ymgymryd â chydweithio ysgolheigaidd ystyrlon ac i arwain â phwrpas,” ychwanegodd.
Un o uchafbwyntiau penodol y cwrs i Dr Okeyia oedd y gallu i gymhwyso damcaniaethau academaidd uwch i brosiectau yn y gweithle, gan helpu i ddatrys problemau sefydliadol. Roedd ei ymchwil arbenigol yn canolbwyntio ar reoli cynnal a chadw asedau; maes sydd yn ei farn ef yn hanfodol ar gyfer effeithlonrwydd gweithredol yn y sector telathrebu. “Roedd datblygu methodoleg a chynllun ymchwil cadarn i ymchwilio i’r maes hwn yn heriol a gwerth chweil,” meddai.
Un o’r heriau anoddaf yn ystod ei astudiaethau oedd cael gafael ar gyfranogwyr ymchwil a sicrhau ansawdd data yn ystod y cyfnod casglu. “Roedd angen cynllunio gofalus, dyfalbarhad, a’r gallu i addasu, ond fe wnaeth goresgyn hynny ddysgu llawer i mi am foeseg ymchwil a chyfyngiadau ymarferol,” meddai.
Mae’n rhoi’r clod mwyaf i’r rhaglen DBA ac yn ei hargymell i weithwyr proffesiynol sy’n ceisio datblygu eu harfer trwy ymchwil. “Nid yw’n ymwneud â damcaniaeth yn unig; mae’n ymwneud â thrawsnewid sut rydym yn arwain ac yn datrys problemau yn y gweithle.”
Yn broffesiynol ac yn bersonol, mae’r cwrs eisoes wedi cael effaith sylweddol. “Mae’r sgiliau rydw i wedi’u hennill, meddwl yn strategol, arweinyddiaeth, a datrys problemau, yn adnoddau rwy’n eu defnyddio’n ddyddiol,” meddai. Wrth edrych ymlaen, mae Charles yn bwriadu parhau i gyfrannu at wybodaeth academaidd ac arfer proffesiynol trwy gyhoeddi erthyglau ymchwil sy’n archwilio rheoli cynnal a chadw asedau mewn mwy o fanylder.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071