Cariad at Farddoniaeth a Chymru yn denu Alier i'r Drindod Dewi Sant
Mae cariad dwfn at farddoniaeth, athroniaeth, a thirwedd a diwylliant Cymru wedi arwain at ddiwrnod o ddathlu i Alier Collins, 21 oed, sydd heddiw yn graddio gyda BA mewn Ysgrifennu Creadigol ac Athroniaeth o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), Llanbedr Pont Steffan.

Mae Alier hefyd yn derbyn Gwobr Anthony Dyson yn Saesneg, gan gydnabod ei chyflawniadau academaidd a chreadigol rhagorol.
Mae Alier, sy’n dod o Swydd Berkshire, wedi bod yn ysgrifennu barddoniaeth ers yn chwech oed ac mae’n dweud bod ei dewis i astudio yn y Drindod Dewi Sant wedi’i ysbrydoli gan gymuned academaidd unigryw’r brifysgol, y system ddysgu bloc, a harddwch Cymru.
Meddai Alier. “Rwyf bob amser wedi caru Cymru, ac wedi arfer gwersylla yma llawer gyda fy nheulu, gan gael fy swyno gan y wlad a’i hanes, ei chwedl a’i mytholeg”.&Բ;
Y rheswm y dewisodd Alier astudio yn y Drindod Dewi Sant oedd ehangu ei gwybodaeth a gwella ei hysgrifennu. “Yn bersonol, roeddwn i’n anelu at fagu rhywfaint o hyder yn fy ngallu fel awdur, ac mae’r cwrs a’r staff gwych wedi fy helpu i lwyddo yn y nod hwnnw yn y pen draw”, meddai hi, gan ychwanegu, DZwn hefyd yn gobeithio archwilio’r iaith a’r diwylliant Cymraeg er mwyn gwthio fy hun a’m meddwl am greadigrwydd i gyfeiriadau newydd a gwahanol”.
Mae amser Alier yn y Drindod Dewi Sant wedi’i nodi gan dwf personol, gwytnwch ac archwilio creadigol. Wrth fyfyrio ar y cwrs, fe wnaeth ganmol dosbarthiadau bach, cefnogol y brifysgol, ymroddiad y staff addysgu, a’r dulliau asesu diddorol – gan gynnwys portffolios, perfformiadau a chyflwyniadau.
Yn ystod y cwrs cwblhaodd Alier nifer o brosiectau y mae yn dweud ei bod wedi bod yn bwysig iddi’n bersonol ac yn broffesiynol.
DZ fy nhraethawd hir: ‘will we have a cup of tea when we get there?’ yn archwiliad barddonol o alar, hen a newydd, mewn arddull gyffes gyfoes”, meddai Alier. Cymerodd y prosiect bwysau emosiynol ychwanegol ar ôl dau brofedigaeth annisgwyl yn ystod ei ddatblygiad – her a wynebodd Alier gyda chefnogaeth tîm lles, darlithwyr, a goruchwyliwr traethawd hir y brifysgol. “Cefais fy annog a’m cefnogi mewn ffyrdd a oedd yn caniatáu i mi wthio’r prosiect ymhellach nag yr oeddwn i’n meddwl yn bosibl,” meddai Alier.
Ymhlith ei llwyddiannau niferus y mae Alier yn arbennig o falch ohono yw cael erthygl wedi’i chyhoeddi yng nghylchgrawn Land Rover Series II Club, Built 2 Last. Wedi’i gynnwys yn rhifyn Haf 2024, roedd y darn - o’r enw “It’s A Dishwasher Not A Parts Washer” - yn archwilio prosiect adfer Land Rover ac roedd yn ôl Alier yn, “hwyl wych i’w gynhyrchu.” Hefyd mae cael cerdd o’i thraethawd hir wedi’i chyhoeddi yn Bluebird Anthology Nottingham o’r enw “What I Wish You Knew” hefyd wedi bod yn uchafbwynt.
Mae Alier yn llawn canmoliaeth i’r rhaglen radd ac yn dweud bod y staff addysgu yn amlwg wedi rhoi ymdrech ac amser i ddatblygu’r cwrs, ac mae wedi agor drysau i gyfleoedd annisgwyl a oedd yn cynnwys ymuno â llawer o ddigwyddiadau barddoniaeth lleol yn Llanbedr Pont Steffan, Caerfyrddin ac Aberystwyth a gwneud cysylltiadau ag awduron lleol a rhannu ei gwaith mewn digwyddiadau fel Cerddi y Cwrw ac Ysgol Haf Dylan Thomas.
“Mae gen i fy narlithwyr i ddiolch am hyn, yn arbennig. Felly diolch i Tristan Nash, Rebekah Humphreys, Sarah Reynolds, Matt Jarvis a Dom Williams”, meddai hi. “Mae’r cwrs wedi fy helpu i wella fy ngwaith academaidd a chreadigol, hyd yn oed ei gael i lefel gyhoeddadwy”.
Ychwanegodd y darlithydd athroniaeth, Tristan Nash: “Mae Alier yn fyfyriwr eithriadol o ddiwyd. Mae hi wedi gweithio’n galed yn gyson trwy gydol ei gradd ac wedi dangos ymrwymiad diwyro i ddatblygu ei chrefft”.
Wrth edrych i’r dyfodol, mae Alier yn paratoi i ddechrau cwrs TAR Uwchradd mewn Saesneg ym Mhrifysgol Rhydychen, gyda’r gobaith o barhiau i ddysgu Cymraeg a dychwelyd i Gymru yn y pen draw i addysgu ac ysgrifennu.
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;01267&Բ;676790