ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Ysgrifennu Creadigol ac Athroniaeth (Llawn amser) (BA Anrh)

Caerfyrddin
3 Blynedd Llawn amser
96 - 112 o Bwyntiau UCAS, ynghyd â chyfweliad

Mae’r radd gydanrhydedd hon mewn Ysgrifennu Creadigol ac Athroniaeth yn  cynnig cyfle i chi archwilio dwy ddisgyblaeth gyflenwol. Gan gyfuno’r grefft o ddweud stori â meddwl dadansoddol, dwfn, bydd y cwrs hwn yn meithrin eich mynegiant creadigol tra’n ddatblygu eich gallu i fynd i’r afael â chwestiynau mawr bywyd.

Yn Ysgrifennu Creadigol, byddwch yn ymgolli yn y grefft o ysgrifennu, dan arweiniad tiwtoriaid arbenigol sy’n awduron cyhoeddedig eu hunain. Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio barddoniaeth, rhyddiaith a drama, gan ennill sylfaen gref mewn gwahanol ffurfiau o ysgrifennu. Wrth i chi symud ymlaen, byddwch yn mireinio’ch sgiliau wrth greu gweithiau gafaelgar, gan ganolbwyntio ar elfennau fel llais, ffurf, a lle. Bydd modylau mewn ffuglen ac ysgrifennu barddoniaeth yn eich helpu i adeiladu eich arbenigedd technegol, tra bod sgiliau hunan-adfyfyriol a golygyddol yn cael eu datblygu trwy weithdai ymarferol.

Mae’r rhaglen hefyd yn eich paratoi ar gyfer cyfleoedd proffesiynol. Byddwch yn dysgu am gyhoeddi a pherfformio ac yn cael profiad ymarferol mewn meysydd fel creu cynnwys digidol, ysgrifennu ar gyfer y sgrin, newyddiaduraeth, a hyd yn oed ysgrifennu ar gyfer gemau. Bydd y sgiliau hyn yn eich galluogi i adeiladu portffolio ysgrifennu amrywiol, gan eich paratoi ar gyfer ystod o rolau yn y diwydiannau creadigol.

Ochr yn ochr ag Ysgrifennu Creadigol,  mae agwedd Athroniaeth y radd yn eich cyflwyno i gwestiynau dwys a heriol. Nid yw athroniaeth yn ymwneud â derbyn gorchymyn beth i’w feddwl, ond yn hytrach dysgu sut i feddwl yn feirniadol ac yn greadigol. Byddwch yn archwilio pynciau mewn athroniaeth a moeseg, athroniaeth wleidyddol, a moeseg gymhwysol, gan ganolbwyntio ar faterion cyfoes fel cyfiawnder, pŵer a hunaniaeth.

Mae’r modylau’n ymdrin â hanes athroniaeth a dadleuon athronyddol cyfoes, gan sicrhau dealltwriaeth gynhwysfawr o’r maes. Byddwch yn astudio meddylwyr a damcaniaethau sylfaenol wrth gymhwyso syniadau athronyddol i heriau modern. Trwy ddatblygu eich sgiliau dadansoddol ac ymgymryd â dadansoddi beirniadol, byddwch yn dysgu sut i lunio dadleuon clir a gwerthuso problemau cymhleth.

Mae’r radd ryngddisgyblaethol hon yn eich arfogi â chyfuniad unigryw o sgiliau creadigol a dadansoddol, gan eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd yn y sectorau creadigol, addysg, cyhoeddi neu unrhyw faes sy’n gwerthfawrogi meddwl a chyfathrebu arloesol. P’un a ydych yn anelu at greu straeon sy’n cael effaith, cyfrannu at drafodaethau athronyddol, neu ddilyn y ddau lwybr, mae’r cwrs hwn yn darparu’r offer a’r wybodaeth i gyflawni eich uchelgeisiau.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Cyfunol (ar y campws)
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
WV85
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
96 - 112 o Bwyntiau UCAS, ynghyd â chyfweliad

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae'r rhaglen hon yn cynnig cyfle i chi archwilio dwy ddisgyblaeth gyflenwol.
02
Cyfuno'r grefft o adrodd straeon â meddwl dwfn, dadansoddol.
03
Dosbarthiadau grwpiau bach gyda ffocws ar drafod a gweithgareddau dysgu difyr.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Wrth wraidd ein cwrs Ysgrifennu Creadigol ac Athroniaeth mae dull sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr sy’n meithrin eich twf fel meddyliwr a chrëwr. Trwy seminarau grŵp bach, cefnogaeth un-i-un, a gweithdai ymarferol, rydym yn cyfuno astudiaeth academaidd drylwyr ag archwilio creadigol. Byddwch yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy mewn cyfathrebu, meddwl yn feirniadol a datrys problemau, gan eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd yn y dyfodol.

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio barddoniaeth, rhyddiaith a drama, gan sefydlu sylfaen gref yn y grefft o ysgrifennu tra’n ymgysylltu â chwestiynau athronyddol am hunaniaeth, moeseg, a natur gwybodaeth. Mae modylau Athroniaeth yn cyflwyno syniadau a thestunau allweddol, gan annog ymgysylltu beirniadol a datblygu sgiliau dadansoddi a thrafod.

Gorfodol

Mythau a Mytholeg: Sut mae Straeon yn Siapio'r Byd

(20 credydau)

Archwilio'r Dyniaethau

(20 credydau)

Haneseiddio Testunau

(20 credydau)

Cyflwyniad i'r Grefft o Ysgrifennu

(20 credydau)

Astudio Llenyddiaeth: Testun a Theori

(20 credydau)

Ffuglen Boblogaidd

(20 credydau)

Ymagweddau at ffurf

(20 credydau)

Bydoedd pobl: Rhyngweithio â’r Amgylchedd

(20 Credydau)

Mae’r ail flwyddyn yn dyfnhau eich dealltwriaeth o ffuglen, barddoniaeth a ffeithiol greadigol, gan ganolbwyntio ar lais, ffurf ac arbrofi. Yn Athroniaeth, byddwch yn archwilio athroniaeth wleidyddol, moeseg gymhwysol, ac athroniaeth a moeseg, gan archwilio dadleuon cyfoes a mireinio eich meddwl beirniadol. Byddwch yn cael cyfleoedd am waith rhyngddisgyblaethol sy’n pontio’r ddwy ddisgyblaeth.

Gorfodol

"Green to the very door": Eco-feirniadaeth a Rhamantiaeth

(20 credydau)

Camgymeriad a Thrais Melys: Shakespeare a Chomedi a Thrasiedi’r Dadeni

(20 credydau)

Adnewyddu: Agweddau ar Ysgrifennu'r 20fed a'r 21ain Ganrif

(20 credydau)

Ymchwil Casgliadau Arbennig: Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen

(20 credydau)

Y Llyfr, y Corff a'r Byd: Dyneiddiaeth, Meddygaeth, ac Archwilio'r Dadeni

(20 credydau)

Ysgrifennu ar gyfer y Theatr

(20 credydau)

Cyfle Symudedd Rhyngwladol

(60 Credyd)

Undod anniddig: Athroniaeth, Cymdeithas a Rhyfel Cartref yn Llenyddiaeth yr Ail Ganrif ar Bymtheg

(20 credydau)

Cipolwg o’r ochr: Ysgrifennu’r stori fer

(20 credydau)

Oddi ar y Dudalen: Barddoniaeth Berfformio

(20 credydau)

Seice, Testun, a Chymdeithas: Damcaniaeth Feirniadol a Diwylliannol

(20 credydau)

Lleoliad Proffesiynol

(20 credydau)

Ysgrifennu nofelau

(20 credydau)

Prosiect Creadigol Annibynnol
Camgymeriad a Thrais Melys: Shakespeare a Chomedi a Thrasiedi’r Dadeni

(20 credydau)

Make it New': Agweddau ar Ysgrifennu'r 20fed a'r 21ain Ganrif

(20 credydau)

Ymchwil Casgliadau Arbennig: Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen

(20 credydau)

Y Llyfr, y Corff a'r Byd: Dyneiddiaeth, Meddygaeth, ac Archwilio'r Dadeni

(20 credydau)

Ysgrifennu ar gyfer y Theatr

(20 credydau)

"Green to the very door": Eco-feirniadaeth a Rhamantiaeth

(20 credydau)

Ffuglen Ddyfaliadol: Ffuglen wyddonol, ffantasi, realaeth hudol a bydau dychmygol eraill

(20 credydau)

The Art of the Pitch': Creu Gyrfa o Ysgrifennu

(20 credydau)

Ysgrifennu ar gyfer Teledu, Ffilm a Radio

(20 credydau)

Mae eich blwyddyn olaf yn cynnig cyfleoedd uwch i arbenigo yn eich dewis ffurfiau, megis ysgrifennu ar gyfer y sgrin, newyddiaduraeth, neu ysgrifennu ar gyfer gemau, gan arwain at brosiect annibynnol. Mae modylau Athroniaeth yn mynd i’r afael â phynciau uwch fel athroniaeth ffeministaidd, dadleuon athronyddol ar iaith ac ystyr, a gwaith meddylwyr allweddol fel Nietzsche, gan feithrin persbectif beirniadol dyfnach.

Gorfodol

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Camgymeriad a Thrais Melys: Shakespeare a Chomedi a Thrasiedi’r Dadeni

(20 credydau)

"Green to the very door": Eco-feirniadaeth a Rhamantiaeth

(20 credydau)

Ymchwil Casgliadau Arbennig: Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen

(20 credydau)

Ffuglen Ddyfaliadol: Ffuglen wyddonol, ffantasi, realaeth hudol a bydau dychmygol eraill

(20 credydau)

Y Llyfr, y Corff a'r Byd: Dyneiddiaeth, Meddygaeth, ac Archwilio'r Dadeni

(20 credydau)

Ysgrifennu ar gyfer y Theatr

(20 credydau)

Make it New': Agweddau ar Ysgrifennu'r 20fed a'r 21ain Ganrif

(20 credydau)

Ysgrifennu nofelau

(20 credydau)

The Art of the Pitch': Creu Gyrfa o Ysgrifennu

(20 credydau)

Ysgrifennu ar gyfer Teledu, Ffilm a Radio

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 96-112 o Bwyntiau Tariff UCAS - e.e. Safon Uwch: CCC-BBC, BTEC: MMM-DMM, IB: 30-32 a Chyfweliad 

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS.  &²Ô²ú²õ±è;

    °Õ³Ò´¡±«â€¯â€¯&²Ô²ú²õ±è;

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd.  &²Ô²ú²õ±è;

    Cyngor a Chymorth Derbyn  &²Ô²ú²õ±è;

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. &²Ô²ú²õ±è;
     
    Gofynion Iaith Saesneg  &²Ô²ú²õ±è;

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.  &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. &²Ô²ú²õ±è;

    Gofynion fisa ac ariannu &²Ô²ú²õ±è;

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.  &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.  &²Ô²ú²õ±è;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   &²Ô²ú²õ±è;

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.    &²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.  &²Ô²ú²õ±è;

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  &²Ô²ú²õ±è;

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. &²Ô²ú²õ±è;

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol  

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg  

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg 

  • Asesir y rhaglen mewn amrywiaeth o ffyrdd a fydd yn cynnwys nifer o’r mathau a ganlyn o asesiad: traethodau rhwng 1,000 a 4,000 o eiriau, dadansoddi dogfen, adolygiadau llyfrau/cyfnodolion, adroddiadau byr a dyddlyfrau adfyfyriol, profion amser, arholiadau a welir ac nas gwelir ymlaen llaw, dyddlyfrau maes, posteri, cyflwyniadau grŵp ac unigol, traethodau hir 10,000 o eiriau, wicis, sylwebaethau a gwerthusiadau ffilm.

  • Mae’r Gyfadran wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.

    Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.

    Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn Â£20.

    Taith Maes ddewisol:

    Mae’r Gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol. Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud. Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian. Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.

    Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): oddeutu £500 i £1,500
    Teithiau unigol: oddeutu £5 i Â£50

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

  • Mae’r Cyfleoedd gyrfaol a gwaith yn eang iawn, ac yn cynnwys:

    • Swyddi gweinyddol a rheoli
    • Gwaith Cymuned
    • Gwaith llawrydd fel ysgrifennu copi, golygu
    • Ysgrifennu creadigol annibynnol ac a gomisiynir
    • Marchnata a chodi arian
    • Cyhoeddi
    • Addysgu
    • Ysgrifennu ar gyfer ffilm, teledu a chyfryngau