ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Ar ôl dysgu mewn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg am dair blynedd ar ôl cwblhau ei gradd israddedig ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, penderfynodd Megan Lewis ei bod hi’n bryd adeiladu ar ei phrofiad a chymryd y cam nesaf yn ei thaith broffesiynol. Trwy’r rhaglen MA Addysg (Cymru), mae hi wedi gallu tyfu ei gwybodaeth, cysylltu ag ymarferwyr ledled y wlad, a chymhwyso ei dysgu yn uniongyrchol i’r ystafell ddosbarth - i gyd wrth astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Menyw yn cymryd hun-lun gyda gwyrddni yn y cefndir

Yma, mae Megan yn siarad am sut roedd y cwrs yn cefnogi ei chamau nesaf:

Ar Ã´l cwblhau fy ngradd israddedig Addysg Gynradd gyda SAC yn y Drindod Dewi Sant yn 2021, treiliais dair blynedd yn dysgu mewn ysgol gynradd Gymraeg. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cynyddodd fy awydd i ddyfnhau fy ngwybodaeth broffesiynol - nid yn unig i fi fy hun, ond er budd fy nysgwyr.

Clywais am y cyfle cyffrous i gwblhau MA Addysg (Cymru), wedi’i ddatblygu ar y cyd â phrifysgolion Cymru a Llywodraeth Cymru. Apeliodd y cwrs i mi’n syth gan ei fod wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol fel fi sy’n edrych i dyfu. Mae cymryd rhan mewn trafodaethau proffesiynol â’r unigolion hyn mewn prifysgolion eraill ledled Cymru wedi bod yn gyfle arbennig o werthfawr.

Roedd yn gam naturiol i mi ddewis Y Drindod Dewi Sant ar gyfer fy astudiaethau cwrs meistr gan wybod o brofiad am y gefnogaeth a dderbyniwyd yn ystod fy ngradd israddedig ar gampws Caerfyrddin. Y tro hwn, ymunais Ã¢ champws Abertawe a oedd yn golygu mynediad at gyfleusterau newydd tra’n dal i elwa o gymuned cyfrwng Cymraeg cryf – rhywbeth a oedd yn bwysig i mi. Roedd yn braf iawn hefyd gweld nifer o wynebau cyfarwydd o fy nghwrs blaenorol sydd bellach yn cefnogi myfyrwyr ar y cwrs hwn hefyd.

Yn wahanol i gyrsiau meistr eraill, mae’r ffordd mae’r cwrs wedi ei drefnu yn fy ngalluogi i weithio fel athrawes llawn amser ac ennill y cymhwyster ar yr un pryd. Mae’r cymysgedd o sesiynau wyneb yn wyneb ag ar-lein yn golygu bod gen i fynediad i ddarlithoedd, adnoddau a chefnogaeth sy’n ffitio o gwmpas fy amserlen brysur fel athrawes. 

Un o’r uchafbwyntiau i mi yw’r dewis o fodylau gwahanol. Rydw i wedi gallu archwilio meysydd sydd o ddiddordeb i mi a chreu cwrs personol i mi fel unigolyn. Mae modylau ar les emosiynol wedi ehangu fy nealltwriaeth o strategaethau ar lawr dosbarth i gefnogi dysgwyr, tra bod y rhai ar arweinyddiaeth broffesiynol wedi fy arfogi â’r sgiliau sydd eu hangen arnaf i gymryd y camau nesaf yn fy ngyrfa.

Os ydych yn meddwl am y cwrs, fy nghyngor i yw ewch amdani! Mae digon o gefnogaeth ar gael gan y darlithwyr a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd. Mae pawb mor barod i helpu a’ch cefnogi chi ar eich taith ac eisiau gweld chi’n llwyddo. Mae wedi bod yn daith hynod werth chweil hyd yn hyn, ac rwy’n gyffrous i weld ble wnaiff fy arwain nesaf.


Eisiau dysgu rhagor am y cwrs MA Addysg (Cymru)? Darganfyddwch sut y gallwch astudio’n hyblyg, drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, a chymryd y cam nesaf yn eich taith broffesiynol: Addysg (Cymru) yn PCYDDS.


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;+447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon