Ҵý

Skip page header and navigation

Mae Ocean Hughes, darlunydd llawrydd a raddiodd o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn 2019 wedi troi angerdd plentyndod am gelf yn yrfa lewyrchus. Mae ei chreadigaethau diweddaraf ar gyfer y llyfrau, Archie, My Dinosaur Friend ac It’s a Big World Bartholomew  a gyhoeddwyd gan Jellycat, yn arddangos ei thalent am ddod â straeon yn fyw a sbarduno dychymyg plant.

Woman leaning against a wall with arms crossed, smiling at camera

O’i thref enedigol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae Ocean yn cyfuno creadigrwydd gyda’i dawn busnes i gyflwyno prosiectau sy’n amrywio o lyfrau plant i gerameg a wneir ar archeb.

Ar ôl astudio BA Darlunio yng Ngholeg Celf Abertawe y Drindod Dewi Sant, roedd Ocean yn teimlo’n barod i gamu i mewn i waith llawrydd ac mae’n talu clod i’w haddysg am siapio ei siwrnai. Dywedodd: “Roedd fy astudiaethau yn gwbl amhrisiadwy wrth fy mharatoi ar gyfer gwaith llawrydd. Rhoddodd yr hyder i mi gredu y gallai breuddwyd fy mhlentyndod o ddod yn ddarlunydd llyfrau plant fod yn realiti mewn gwirionedd.”

Roedd modylau mewn Darlunio Naratif a Marchnata yn darparu sgiliau technegol a gwybodaeth ymarferol, gan alluogi Ocean i lywio elfennau creadigol a busnes gwaith llawrydd.

Small brush paint and paint tubes next to painted drawing

Meddai Ocean:

“Un o fodylau mwyaf dylanwadol y cwrs i mi oedd Darlunio Naratif lle ysgrifennais a darluniais fy llyfr plant fy hun. Arweiniodd fy nhiwtoriaid fi drwy bob cam, o ymchwil i fawdluniau i greu llyfr ffug, ac fe gadarnhaodd hwn fy nghariad at y grefft yn ogystal â chyfeiriad fy ngyrfa. Roedd y modwl Marchnata’r un mor werthfawr yn dysgu popeth i mi o estyn allan at gleientiaid i hunan-hyrwyddo, sgiliau sydd yr un mor bwysig i waith llawrydd â’r elfennau creadigol a’r rhai rydw i’n dal i ddibynnu arnyn nhw heddiw.”

Y tu hwnt i hyn, dywed Ocean fod ei hastudiaethau hefyd wedi ei helpu i ddatblygu meddylfryd proffesiynol: “Dysgais bwysigrwydd terfynau amser, rheoli fy amser yn effeithiol, a sut i weithio’n annibynnol ac ar y cyd. Mae’r rhain yn sgiliau hanfodol ar gyfer gwaith llawrydd, lle yn aml mae’n rhaid i mi gydbwyso sawl prosiect ar unwaith a rheoli fy amserlen fy hun.”

Yn ogystal â’i hastudiaethau, yn ystod ei hail flwyddyn, cafodd Ocean gyfle i gwblhau interniaeth gyda , adran gyhoeddi fewnol ar gyfer y Drindod Dewi Sant sy’n arbenigo mewn llyfrau ac adnoddau addysgol dwyieithog. Profodd yr interniaeth hon i fod yn allweddol, gan arwain at ei phrosiect llawrydd mawr cyntaf yn darlunio Nature’s Nasties a ysgrifennwyd gan yr Arglwyddes Carol Barrett. 

A table with a number of children's books spread out over it

Meddai Ocean:

“Roedd cael y llyfr hwn yn fy mhortffolio yn fy helpu i gael sylw gan gleientiaid ac fe roddodd hwb mawr i’m gyrfa lawrydd. Roedd yn brofiad amhrisiadwy gan ei fod wedi rhoi profiad i mi o’r byd go iawn. Doeddwn i ddim yn dysgu am waith llawrydd mewn theori yn unig, cefais ei weld ar waith - gweithio gyda thîm, delio ag adborth cleientiaid, a gweld sut mae’r diwydiant yn gweithredu o ddydd i ddydd. Fe wnaeth fy helpu i symud o fod yn fyfyriwr i fod yn weithiwr proffesiynol mewn ffordd llawer mwy llyfn.”

Mae gwaith Ocean yn adlewyrchu ei chariad at amrywiaeth ac annibyniaeth. “Dyw gwaith llawrydd byth yr un peth ddwywaith. Rwyf wrth fy modd â’r rhyddid i ymgymryd â heriau newydd, p’un a yw’n darlunio llyfr, dylunio deunydd ysgrifennu, neu archwilio cerameg.” Mae’r hyblygrwydd o bennu ei horiau ei hun hefyd yn caniatáu iddi gydbwyso bywyd teuluol, gan gynnwys darllen ei straeon darluniadol ei hun i’w mab.

Mae creu darluniau ar gyfer llyfrau plant, fel Archie, My Dinosaur Friend ac It’s a Big World Bartholomew, wedi bod yn weithgarwch arbennig o fuddiol i Ocean: “Mae’n freuddwyd plentyndod wedi dod yn wir. Fel merch fach, roeddwn i’n arfer treulio oriau yn copïo lluniau o fy hoff lyfrau, gan ddychmygu sut beth fyddai cael fy llyfr fy hun ryw ddydd.”

Mae gweld ei gwaith celf yn dod â llawenydd i blant, ac yn dod yn rhan o eiliadau teuluol a drysorir, yn destun balchder ac ysbrydoliaeth aruthrol wrth iddi barhau i ymgymryd â heriau creadigol newydd. A hithau’n ddarlunydd llwyddiannus ac yn entrepreneur creadigol, mae’n dangos, gydag angerdd a’r paratoi cywir, ei bod yn bosibl troi breuddwydion yn realiti.

Colourfully painted ceramics: teapots,, vases and other little trinkets

Gweler ei gwaith:


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;+447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon