Ҵý

Skip page header and navigation

Mae Gabe Turnell wastad wedi bod yn angerddol am greu straeon - mae wedi bod yn gwneud ei ffilmiau ei hun ers pan oedd yn 11 oed. Nawr, mae’n dathlu graddio o’r BA Gwneud Ffilmiau Antur ar gampws Caerfyrddin PCYDDS, ar ôl ennill Gwobr Tudor Bevan am ei gyfraniad i’r Celfyddydau Creadigol yng Nghymru.

Gabriel Turnell at his UWTSD graduation ceremony

Dewisodd Gabriel PCYDDS ar gyfer y cwrs Gwneud Ffilmiau Antur unigryw - un o’r unig raglenni o’i fath yn y DU.

Dywedodd: “Mae’n gyfle gwych i blymio i antur awyr agored tra’n parhau i fod wedi seilio yn y byd gwneud ffilmiau, a oedd eisoes yn gyfarwydd i mi. Byddwn yn argymell y cwrs yn llwyr. Hyd yn oed os nad oes gennych brofiad, mae cymaint o le i dyfu a chymaint o gyfleoedd anhygoel i’w harchwilio.”

Roedd ei nodau yn cynnwys meistroli sgiliau technegol mewn gwneud ffilmiau, golygu a sain, tra’n ennill parch dyfnach at y byd awyr agored. Trwy gydol y cwrs, manteisiodd ar bob cyfle - o gaiacio yn Llandysul i daith beiccio gofiadwy drwy fryniau niwlog Cymru.

Daeth uchafbwynt arall yn ei ail flwyddyn, pan weithiodd gyda Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar brosiect llyfr ffotograffau. 

Dywedodd Gabriel: “Fel arfer rydyn ni’n cael llawer o ryddid yn ein haseiniadau creadigol, ac ar gyfer yr un hon cefais fy swyno gan wenyn. Fe wnaeth fy nhiwtor fy helpu i gysylltu â’r Gerddi Botaneg, ac roedden nhw’n hynod o groesawgar - roedden nhw hyd yn oed yn dweud mai fi oedd y myfyriwr cyntaf i estyn allan atynt. Byddwn i’n bendant yn argymell cydweithio â nhw os cewch y cyfle.”

Yn debyg i lawer o fyfyrwyr, wynebai Gabriel heriau wrth addasu i ysgrifennu academaidd a meddalwedd golygu newydd, ond mae’n rhoi clod i’r gefnogaeth barhaus gan diwtoriaid am ei helpu i lwyddo. “Roedd eu harweiniad yn gwneud pethau gymaint yn haws.”

Fe wnaeth ei broffesiynoldeb ffynnu hefyd, yn enwedig mewn modiwl trydedd flwyddyn a oedd yn partneru myfyrwyr gyda Nikon UK. 

Meddai: “Gwaneth y brosiect hwnnw wir helpu I adeiladu fy hyder wrth weithio gyda chleient enwog mawr. Fe wnaethon ni ddysgu sut i gyflwyno syniadau, cyfathrebu’n glir, a chynhyrchu gwaith o ansawdd uchel. Fe wnaeth Nikon hyd yn oed fenthyg ystod o gamerâu i ni i gefnogi’r aseiniad.”

Cafodd Gabriel ei gydnabod yn ei seremoni raddio ddydd Mawrth 8 Gorffennaf 2025 gyda Gwobr Tudor Bevan, gan ddathlu ei ymarfer creadigol a’i ymrwymiad i gydweithio trawsddisgyblaethol. Trwy gydol ei amser yn PCYDDS bu’n gweithio gyda myfyrwyr o sawl cwrs, gan adeiladu cyfeillgarwch a rhannu syniadau a gyfoethogodd ei brosiectau. Daeth un cydweithrediad o’r fath trwy adran ffasiwn Coleg Sir Gâr, a helpodd nid yn unig i’w gysylltu â modelau ond hefyd yn cynnig eu stiwdio ffotograffiaeth i’w defnyddio.

Roedd ei brosiect annibynnol blwyddyn olaf, S.W.A.G Magazine, yn arddangos yr ysbryd cydweithredol hwn. Cyhoeddiad ffasiwn wedi’i wreiddio mewn themâu dilysrwydd, moeseg, cynaliadwyedd, diwylliant a hunaniaeth, roedd yn paru ei gariad at ddillad stryd gyda’i dalent mewn ffotograffiaeth. 

Dywedodd Gabriel: “Roedd fy diweddar fam yn steilydd ffasiwn yn Llundain, felly mae ffasiwn bob amser wedi bod yn agos at fy nghalon. Roeddwn i’n gwybod nad oeddwn i eisiau dechrau brand dillad stryd arall, felly fe wnes i ei gyfuno â rhywbeth rydw i’n dda ynddo: ffotograffiaeth.” 

Mae ei brosiect yn dangos hyblygrwydd y cwrs Gwneud Ffilmiau Antur, sy’n rhoi’r rhyddid i fyfyrwyr i archwilio adrodd straeon ar draws ystod o fformatau a disgyblaethau, nid yn unig o fewn gwneud ffilmiau yn yr awyr agored neu ffilmiau dogfen traddodiadol.

Dywedodd Brett Aggersberg, Uwch Ddarlithydd mewn Ffilm a’r Cyfryngau:

“Rydym yn hynod falch o Gabe a phopeth y mae wedi’i gyflawni yn ystod ei amser ar y cwrs Gwneud Ffilmiau Antur. O waith cleient proffesiynol gyda Nikon i’w brosiect cylchgrawn ffasiwn blwyddyn olaf, mae wedi dangos creadigrwydd, proffesiynoldeb ac ysbryd cydweithredol yn gyson. Roedd ei gyflwyniad arddangosfa graddio yn Yr Egin wir yn dal ei angerdd ac effaith ei waith. Rydym yn dymuno’n dda iddo yn ei ddyfodol, rydym yn hyderus y bydd yn ddisglair ac yn greadigol iawn.”

Wrth edrych ymlaen, mae Gabriel yn gobeithio mynd â S.W.A.G i siopau print a chorfforol, tra’n mynd ar ei liwt ei hun a gweithio ar gynnwys fideo ar gyfer cwmnïau annibynnol bach. Mae teithio hefyd ar y cardiau - nid yn unig ar gyfer twf personol, ond i archwilio diwylliannau ffasiwn byd-eang a sut mae steil stryd yn amrywio o wlad i wlad.

Llongyfarchiadau i Gabriel am ennill y wobr ac am y creadigrwydd, y cydweithrediad a’r proffesiynoldeb y daeth gydag ef i PCYDDS. Ni allwn aros i weld beth mae’n ei wneud nesaf.


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;+447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon