Ҵý

Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant unwaith eto wedi ennill cydnabyddiaeth ragorol yn nadansoddiad The Times o’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF), gan ddod yn 1af yng Nghymru ac yn 2il yn y DU. 

Graduation 2025 on Carmarthen campus throwing hats in the air

Mae hyn yn adeiladu ar lwyddiant parhaus y Brifysgol ac yn adlewyrchu cryfder y profiad dysgu, y gefnogaeth bersonol, a’r gymuned yn y Drindod Dewi Sant. Mae’r dadansoddiad, a gyhoeddwyd gan The Times ar 11 Gorffennaf 2025, yn tynnu ar ymatebion gan dros 357,000 o israddedigion blwyddyn olaf ledled y DU ac mae’n defnyddio sgôr ‘positifrwydd cyffredinol’ cyson i gymharu sefydliadau. 

Meddai’r Athro Elwen Evans, KC, Is-Ganghellor y Drindod Dewi Sant: 

“Mae’r canlyniadau rhagorol hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad diwyro i roi myfyrwyr yn gyntaf. Maent yn tynnu sylw at y gefnogaeth a’r gofal rhagorol rydyn ni’n eu darparu trwy gydol taith y myfyriwr. Rwy’n hynod falch o’n cymuned brifysgol gyfan a’r cyfan y mae’n ei wneud i wneud y Drindod Dewi Sant yn lle mor groesawgar, cefnogol ac arbennig i astudio.” 

Mae’r Times wedi dadansoddi sut mae pob sefydliad yn perfformio ar draws saith mesur: addysgu, cyfleoedd dysgu, asesu ac adborth, cymorth academaidd, trefniadaeth a rheolaeth, adnoddau dysgu a llais myfyrwyr. Roedd eu dadansoddiad yn gosod y Drindod Dewi Sant yn ail yn y DU o flaen pob prifysgol arall yng Nghymru. 

Mae’r NSS yn cael ei reoli’n flynyddol gan y Swyddfa Myfyrwyr ac mae’n un o’r arolygon adborth myfyrwyr mwyaf yn fyd-eang. Mae’r canlyniadau yn helpu sefydliadau i wella ansawdd addysgu a phrofiad ehangach y myfyrwyr. Mae perfformiad cyson uchel y Drindod Dewi Sant yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn dyst i ffocws y Brifysgol ar bartneriaeth â myfyrwyr, dysgu wedi’i bersonoli, a diwylliant cryf o ofal a chefnogaeth.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
ô:&Բ;07384&Բ;467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon