Peirianneg Drydanol ac Electronig (Llawn amser) (BEng Anrh)
Wrth i dechnoleg ddatblygu, mae peirianneg drydanol ac electronig yn dod yn bwysicach. Mae’r maes hwn yn hanfodol mewn sawl maes, fel cerbydau trydan, gweithgynhyrchu, cynhyrchu pŵer, rhwydweithiau trawsyrru a dosbarthu, dyfeisiau clyfar a systemau cyfathrebu a gwybodaeth. Rhaid i beirianwyr newydd ddeall technolegau cyfredol a thechnolegau datblygol er mwyn helpu i leihau allyriadau carbon.
Mae cynaliadwyedd bywyd modern yn dibynnu ar leihau allyriadau carbon trwy gynyddu effeithlonrwydd ynni dyfeisiau trydanol a defnyddio cerbydau trydan. Bydd y rhaglen radd hon yn eich helpu i ddeall agweddau allweddol ar ystod o gysyniadau, egwyddorion a thechnolegau sy’n gysylltiedig â pheirianneg drydanol ac electronig, y mae rhai ohonynt yn flaenllaw yn y maes.
Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio’r technolegau, y technegau a’r offer priodol i ddatrys problemau neu ddiwallu anghenion penodol. Byddwch hefyd yn nodi tasgau ac yn cynllunio atebion gyda dogfennaeth briodol, gan ddangos eich gallu i gefnogi eich syniadau gyda thystiolaeth ac i gyfathrebu’n effeithiol.
Mae’r cwrs hwn yn annog trafod cymwysiadau, cysyniadau, egwyddorion, technegau a theori. Bydd yn datblygu eich dealltwriaeth o ddulliau meintiol ac egwyddorion mathemategol sy’n gysylltiedig â pheirianneg drydanol ac electronig. Byddwch hefyd yn dysgu am integreiddio agweddau dylunio, technoleg a masnachol i greu atebion amgylcheddol cynaliadwy ac arloesol i broblemau.
Drwy gydol y cwrs byddwch yn datblygu galluoedd dadansoddol ac yn defnyddio offer arbenigol uwch. Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol, ac yn cael cyfleoedd i gael profiad uniongyrchol gan ddefnyddio’r dechnoleg orau, wedi’i gefnogi gan ein cysylltiadau diwydiant cryf. Byddwch yn mynd i’r afael â phroblemau peirianneg go iawn ac yn gweithio ar senarios sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant yn unigol ac mewn grwpiau.
Erbyn diwedd y rhaglen, bydd gennych y sgiliau a’r wybodaeth i ddilyn gyrfa lwyddiannus mewn peirianneg drydanol ac electronig, gyda’r gallu i ddatblygu atebion arloesol ar gyfer dyfodol cynaliadwy.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
- Dwyieithog
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd y cwrs BEng hwn yn datblygu gwybodaeth o’r peirianneg trydanol ac electronig sydd eu hangen ar gyfer sefydliadau diwydiannol modern. Mae ein hathroniaeth wrth addysgu peirianneg drydanol ac electronig yn canolbwyntio ar ddysgu ymarferol, ymgysylltu â diwydiant a chynaliadwyedd. Ein nod yw rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i chi fynd i’r afael â phroblemau byd go iawn gan ddefnyddio atebion arloesol sy’n ymwybodol o’r amgylchedd.
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen gadarn mewn mathemateg, hanfodion systemau cyfrifiadurol, ac egwyddorion sylfaenol peirianneg drydanol ac electronig. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau hanfodol mewn rhaglennu a datrys problemau, gan eich paratoi ar gyfer pynciau mwy datblygedig yn y blynyddoedd dilynol.
Gorfodol
(10 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 Credydau)
Mae’r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar ddyfnhau eich dealltwriaeth o gylchedau trydanol ac electronig a systemau digidol. Byddwch hefyd yn dysgu am systemau rheoli, trawsddygiaduron a chyflyru signalau, a pheirianneg a rheoli prosiectau, gyda phwyslais ar weithredu ymarferol.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credydau)
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn cymryd rhan mewn pynciau datblygedig fel electroneg a gyriannau ynni, rheolyddion rhesymeg rhaglenadwy, a dylunio systemau electronig. Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect annibynnol ar gyfer eich blwyddyn olaf, gan roi eich gwybodaeth ar waith i ddatrys problem beirianneg y byd go iawn, yn aml mewn cydweithrediad â phartneriaid yn y diwydiant.
Gorfodol
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Course Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Cwrdd â’n Myfyrwyr
Gwybodaeth allweddol
-
104 o bwyntiau tariff UCAS 
-
e.e. Safon Uwch: BCC, BTEC: DMM, IB: 31
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;
°Õ³Ò´¡±«â€¯
Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;
Llwybrau mynediad amgen 
Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried: 
-
‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.  
Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd. &²Ô²ú²õ±è;
-
Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser. &²Ô²ú²õ±è;
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor. &²Ô²ú²õ±è;
Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon. &²Ô²ú²õ±è;
Cyngor a Chymorth Derbyn 
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg 
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. &²Ô²ú²õ±è;
-
-
Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw cynhyrchu graddedigion sy’n helpu i siapio dyfodol cyfrifiadura ac electroneg. Mae cynnwys y cwrs yn gyfoes ac wedi’i lunio er mwyn annog cyflogadwyedd drwy gysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol.
Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o asesiadau ymarferol yn y labordy, aseiniadau, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau. Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniadau, neu aseiniadau ac arholiadau. Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modylau gynnwys gosod a chwblhau un neu fwy darn o waith cwrs yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.
Anogir myfyrwyr i ddefnyddio ein cysylltiadau gyda Chynghrair Meddalwedd Cymru a Go Wales i weithio ar gynlluniau masnachol ar gyfer eu modwl Prosiect Mawr. Mae Go Wales yn darparu’r cyfle i fynd ar leoliadau gwaith â chyflog gyda busnesau lleol.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg.
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis prif brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol.
Teithiau astudio (Dewisol) – Ymweliadau diwydiannol wedi’u trefnu gan ysgolion yn y DU neu yn Ewrop.
(Tua £50 ar gyfer teithiau o fewn y DU / Tua £200 ar gyfer teithiau o fewn Ewrop)
Cydnabyddir, er enghraifft, y gallai’r union gostau’n gysylltiedig â thaith maes amrywio o flwyddyn i flwyddyn.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.
-
Dylai fod gan ymgeiswyr i’r rhaglen hon feddwl technegol ac efallai y byddant wedi astudio peirianneg, cyfrifiadureg neu’r gwyddorau o’r blaen.
Byddant yn ceisio dod yn arbenigwyr a all ddeall agweddau caledwedd, meddalwedd a chyfathrebu systemau trydanol ac electronig. Byddai disgwyl i raddedigion y rhaglen hon chwilio am waith fel peirianwyr trydanol, peirianwyr electronig, peirianwyr cynnal a chadw trydanol, ac ati.
Yn y rolau hyn, gallent ddisgwyl gael eu cyflogi mewn nifer o sectorau diwydiant gan gynnwys awyrofod, modurol, dosbarthu, gweithgynhyrchu, ac ati.