
Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol
Ydych chi’n teimlo’n angerddol dros chwaraeon ac ymarfer corff? Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl a’u hannog i fyw’n iach? Mae ein rhaglenni Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn ymarferol ac yn canolbwyntio ar gyflogaeth, a byddan nhw’n rhoi hwb gwych i’ch gyrfa.
Rydym wedi dylunio ein rhaglenni Chwaraeon ac Ymarfer Corff i gynnig arbenigedd a fydd yn caniatáu i’n myfyrwyr ffynnu yn y diwydiant chwaraeon ac i gyrraedd y brig yn eu gyrfaoedd.
Ein gradd therapi chwaraeon ni oedd yr un gyntaf yng Nghymru i gael ei hachredu gan Gymdeithas y Therapyddion Chwaraeon. Craidd ein dull ni yw’r pwyslais yr ydym yn ei roi ar fod yn berthnasol i’r byd go iawn, gan annog ein myfyrwyr i ennill rhagor o brofiad a chymwysterau tra byddan nhw’n astudio, a chryfhau a chefnogi eu dyheadau gyrfa. Bydd nifer o’n modiwlau yn rhoi profiad uniongyrchol i chi o weithio gyda chleientiaid mewn lleoliadau proffesiynol, a bydd hynny’n gwella eich cyflogadwyedd a’ch rhagolygon gyrfa.
Oherwydd ein dull ni o ymgorffori cyflogadwyedd o fewn ein dysgu a’n addysgu, cewch gyfle i ennill dyfarniadau galwedigaethol allanol hefyd, fel rhai hyfforddwr campfa, hyfforddwr personol, a chymwysterau cymorth cyntaf, gan wella eich cyfleoedd gyrfa.
Fe wnaeth y pandemig COVID amlygu pwysigrwydd iechyd a lles personol, yn ogystal â’r angen am weithwyr proffesiynol yn y maes. Gyda’n rhaglenni ni, byddwch yn datblygu sgiliau datrys problemau, sgiliau dadansoddi, a’r gallu i wneud gwaith ymchwil annibynnol, gan feithrin ymroddiad gydol oes tuag at ddysgu ac arfer myfyriol.
Cewch ddysgu am asesiadau iechyd a gweithgareddau rhagnodi ymarfer corff sy’n mynd i’r afael â heriau’r byd go iawn. Byddwch yn rheoli eich gweithgareddau dysgu eich hun ac yn cydlynu tasgau, gan ddatblygu sgiliau galwedigaethol a phroffesiynol ynghyd â gwybodaeth ddamcaniaethol. Cryfder ein rhaglenni yw’r cyfleoedd y maen nhw’n eu cynnig i weithio gyda chleientiaid, lle cewch feithrin arbenigedd ymarferol ynghyd â dealltwriaeth ddamcaniaethol.
Pam astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn PCYDDS?
Spotlights

Cyfleusterau
Bydd ein cyfleusterau ardderchog yn helpu unrhyw un sydd â diddordeb neu hoffter o chwaraeon i ragori a datblygu eu gyrfa’n gyflym. Ar ein campws yng Nghaerfyrddin, ein nod yw darparu ar gyfer eich dyheadau chwaraeon a gyrfaol. Bydd gennych fynediad i gyfleuster cryfder a chyflyru, ardal hyfforddi 3G, stiwdio ffitrwydd, labordai ffisioleg a biomecaneg, pwll nofio, ystafell dadansoddi chwaraeon, neuadd chwaraeon dan do, ac ystafelloedd therapi chwaraeon ac adfer. Mae ein carfan bêl-droed yn hyfforddi ac yn chwarae ym Mharc Richmond, cyfleuster o safon Ewropeaidd UEFA, ac mae gan chwaraewyr rygbi gaeau chwarae penodedig ac ysgubor hyfforddi 3G dan do.