ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Cyfleusterau

Cyfleusterau

Mae gan gampws Caerfyrddin ystod wych o gyfleusterau chwaraeon, iechyd ac ymarfer corff. Os ydych chi’n athletwr cystadleuol neu’n frwd dros ffitrwydd, mae ein campws ni’n cynnig ystod gynhwysfawr o amwynderau, gan gynnwys campfeydd modern, pwll nofio, canolfannau hyfforddi o’r radd flaenaf, a chaeau chwarae dilychwin. Dewch i ddarganfod yr amgylchedd perffaith i wthio’ch terfynau a chyrraedd eich brig personol!

Cyfleusterau

Mae ein cyfleusterau’n cynnwys

Mae gan gampws Caerfyrddin gyfleusterau chwaraeon eithriadol, gan gynnwys Campfa Cryfhau a Chyflyru, Cae Hyfforddi 3G, a Stiwdio Symudiad Dynol. Mae’n cynnwys Labordy Perfformio Dynol, Ystafelloedd Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff, a phwll nofio. Yn ogystal Ã¢ hyn oll, mae gan y campws gampfa awyr agored, neuadd chwaraeon hyblyg, wal ddringo dan do, ystafell iechyd a ffitrwydd, caeau chwarae helaeth, a chanolfan iechyd ac antur awyr agored Cynefin.

Strength and conditioning - Female student

Cryfder a Chyflyru

Mae gan PCYDDS gyfleusterau cryfder a chyflyru arbennig sydd wedi’u cynllunio ar gyfer cefnogi defnyddwyr o bob math, boed yn athletwyr elît neu’n chwaraewyr hamdden. Yn ein campfa ceir yr holl gyfarpar hyfforddi gwrthiant diweddaraf, pwysau rhydd, a pheiriannau cryfder arbenigol, er mwyn sicrhau profiad ymarfer cynhwysfawr. Mae yno hefyd le pwrpasol i wneud ymarferion swyddogaethol, gyda raciau sgwat, llwyfannau codi, ac offer plyometrig, sy’n galluogi sesiynau hyfforddi cryfder hyblyg ac effeithiol. Bydd ein staff proffesiynol yn cynnig cymorth a rhaglenni hyfforddi wedi’u teilwra mewn amgylchedd sy’n annog myfyrwyr y gyrraedd y brig, o ran eu gallu corfforol a’u llesiant cyffredinol.

Full room image of the strength and conditioning room
students testing on the 3g pitch

Cae Ymarfer 3G

Mae cae 3G o’r radd flaenaf i’w gael ger y gampfa cryfder a chyflyru ar gampws Caerfyrddin, sy’n gyfleuster ymarfer heb ei ail i’n myfyrwyr. Mae’r cae pob tywydd ardderchog hwn yn berffaith ar gyfer pêl-droed, rygbi a chwaraeon eraill, a bydd yn sicrhau eich bod ar eich gorau ac yn ddiogel trwy gydol y flwyddyn. Gan ei fod mewn lle cyfleus wrth ymyl ein campfa, does dim i rwystro myfyrwyr rhag cyfuno eu hyfforddiant ar y cae gyda’u sesiynau cryfder a chyflyru.  Mae cae 3G campws Caerfyrddin wedi’i greu er mwyn bodloni holl anghenion amrywiol ein cymuned o athletwyr, boed hynny’n gêm fach anffurfiol neu’n sesiynau hyfforddi trylwyr.

Neuadd Chwaraeon

Female students playing netball

Swimming Pool

swimming pool in Carmarthen

Stiwdio Symudiad Dynol

Indoor sports hall equipment

Labordy Perfformiad Dynol

Person yn gwisgo offer anadlu yn y cyfleusterau chwaraeon

Sport and Exercise Therapy Suites

Sport therapy student

Immersive Room 

Immersive room sport

Awyr Agored yn Cynefin 

Mae myfyrwyr antur awyr agored yn gwneud amrywiaeth o weithgareddau cyffrous yn ein cyfleuster addysg a hyfforddiant awyr agored pwrpasol, gan gynnwys: dringo clogwyni naturiol; caiacio a chanŵio ar lynnoedd tawel ac ar afonydd heriol; a rhoi eu sgiliau a’u dygnwch corfforol ar brawf trwy feicio mynydd ar lwybrau garw. Hefyd, byddan nhw’n gwneud ymarferion cyfeiriannu a llywio, gan hogi eu sgiliau a’u gallu i groesi amrywiaeth o wahanol dirweddau’n ddiogel. Mae’r rhaglen antur awyr agored yn Cynefin yn canolbwyntio ar sgiliau ymarferol yn ogystal â stiwardiaeth amgylcheddol, gan gynnig profiadau dysgu cynhwysfawr ac ymarferol yn yr awyr agored.

Cynefin

Cyfleusterau Awyr Agored 

Canoe and mountain bikes at cynefin

Offer Awyr Agored 

Students sorting outdoor equipment

Man Llesiant

Cynefin wellbeing centre

Academy of Sport

Academi Chwaraeon

Academy - Football students

Cynefin 

Outdoors cynefin walk

Canolfan Chwaraeon Caerfyrddin

Indoor sports hall equipment

Campus Life

students at Carmarthen Campus

Bywyd ar gampws Caerfyrddin

Archwiliwch yr ystod ardderchog o gyfleusterau sydd ar gampws Caerfyrddin, ac yn cynnig profiad buddiol cyffredinol i fyfyrwyr. Mae’r campws yn cynnwys adnoddau dysgu o’r radd flaenaf, mannau ar gyfer celfyddydau creadigol, stiwdios ac ystafelloedd ymarfer, a mannau addysgu arloesol. Mae’r llyfrgell yn llawn dop o gasgliadau digidol a chorfforol. Gall myfyrwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol yn y ganolfan chwaraeon, sy’n cynnwys campfa, dosbarthiadau ffitrwydd a chaeau chwaraeon. Yn ogystal, mae gan y campws ddigonedd o fannau cymdeithasol, caffis a hwb undeb y myfyrwyr, gan greu awyrgylch cymuned bywiog sy’n berffaith ar gyfer twf academaidd a phersonol.