
Cyfleusterau Adeiladu a Pheirianneg Sifil
Ein Cyfleusterau
Ein Cyfleusterau
Yn fyfyriwr adeiladu neu beirianneg sifil, fe welwch fod ein cyfleusterau’n fwy na dim ond mannau dysgu – maent yn hybiau deinamig a ddyluniwyd i ysbrydoli a meithrin eich angerdd am y diwydiant adeiladu.
Mae gan ein stiwdios o’r radd flaenaf ddigon o le i arbrofi’n ymarferol a chynnal prosiectau cydweithredol, ac mae ein gweithdy arolygu digidol pwrpasol yn cynnig mynediad i offer a thechnolegau blaengar er mwyn dod â’ch gweledigaethau’n fyw. Gydag amrywiaeth eang o adnoddau, o feddalwedd modelu digidol 3D i ddronau ac offer VR, fe gewch y gefnogaeth y bydd arnoch ei hangen i archwilio ffiniau technoleg a ddefnyddir yn y diwydiant adeiladu. Dewch i ymuno â’n cymuned fywiog o ddarpar ymarferwyr proffesiynol adeiladu a dechrau taith yn archwilio a phrofi o fewn ein cyfleusterau eithriadol yn yr Ysgol.  
Ein Cyfleusterau
Mae ein cyfleusterau Adeiladu a Pheirianneg Sifil yn cynnwys:
-
Gweithdy Adeiladu pwrpasol sy’n cynnwys profion Shear, profion treiddio, offer profion tynnol a chywasgol.
-
Offer arolygu, gan gynnwys lefelau a sawl ‘total station’.
-
Gweithleoedd cyfrifiaduron CAD, gan gynnwys Revit, Revisto a phrosiect MS
-
Nifer o blotwyr fformat mawr pwrpasol
-
Ystafell arolygu ddigidol gan gynnwys offer VR, sganwyr 3D, dronau ac offer thermograffig.
-
Labordy amgylchedd ar gyfer profion pridd.
-
Ystafell ddosbarth adeiladu pwrpasol.

Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru CWIC   
Hefyd, mae gan fyfyrwyr adeiladu a pheirianneg sifil fynediad i’r gweithdai ar gyfer gwneud modeli fformat mawr, torri â laser, peiriant CNC ac argraffwyr 3D. Ymhlith adnoddau technegol eraill, fel technoleg thermograffig.



Oriel Gyfleusterau
Bywyd ar y Campws

Bywyd Campws Abertawe
Archwiliwch y cyfleusterau trawiadol sydd ar gampysau Abertawe, sy’n cynnig profiad myfyrwyr deinamig. Mae’r campysau yn cynnwys labordai blaengar, gweithdai celf a dylunio arbenigol, a mannau addysgu arloesol. Mae’r llyfrgelloedd cynhwysfawr yn llawn casgliadau digidol a chorfforol helaeth. Mae myfyrwyr yn elwa o feysydd pwrpasol ar gyfer celf, peirianneg, adeiladu a labordai seicoleg. Mae’r ystafelloedd trochi, sydd ar gael i bob myfyriwr gan gynnwys rhai Plismona, yn darparu profiadau dysgu unigryw. Yn ogystal, mae mannau cymdeithasol bywiog, caffis, a hwb Undeb y Myfyrwyr gweithredol yn meithrin awyrgylch cymunedol bywiog ar gyfer datblygiad academaidd a phersonol.