
Arweinyddiaeth Tân ac Achub (Llawn amser) (BA Anrh)
Mae ein cwrs BA (Anrh) Arweinyddiaeth Tân ac Achub wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sydd am ymuno â’r gwasanaeth tân neu ddeall sut mae’n gweithredu.
Fe’i datblygwyd ochr yn ochr â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (MaWWFRS) a hon yw’r rhaglen gyntaf o’i bath yn y DU.
A’r dysgu’n digwydd ar gampws PCYDDS Glannau Abertawe ac yng nghanolfan hyfforddi MaWWFRS yn Earlswood, ger Abertawe, ac mae gan y cwrs ymarferol hwn ffocws cryf ar ddysgu yn y byd go iawn.
Drwy gydol y cwrs, byddwch chi’n ymgymryd â lleoliadau hyfforddi ymarferol megis Canolfan Hyfforddi Gwasanaeth Tân Earlswood ger Abertawe, gan ymgymryd â hyfforddiant cadarn sy’n rhan o’r rhaglen hyfforddi genedlaethol i ddiffoddwyr tân. Yma, bydd gennych chi fynediad at hyfforddwyr a chyfleusterau arbenigol sydd fel arfer ar agor i staff y gwasanaeth tân yn unig. Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i’ch paratoi chi ar gyfer rolau arwain yn y gwasanaeth tân, eich paratoi chi â’r wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer rôl amser llawn.
Ar yr un pryd, byddwch chi’n dilyn fframwaith arweinyddiaeth y gwasanaeth tân yn yr ystafell ddosbarth, gan astudio meysydd gan gynnwys arweinyddiaeth, cydraddoldeb, llywodraeth, rheolaeth strategol, a dulliau ymchwil. Bydd y wybodaeth a’r sgiliau a gafwyd yma yn helpu i’ch paratoi chi ar gyfer swyddi arwain ar draws ystod o rolau gwasanaeth cyhoeddus yn y dyfodol.
O’r cychwyn cyntaf, byddwch chi hefyd yn cael y cyfle i ddod yn ddiffoddwr tân ar alwad â thâl am o leiaf un shifft yr wythnos. Byddwch chi’n rhan o dîm, yn ymateb i argyfyngau go iawn ac yn dysgu sut i gadw’n dawel o dan bwysau.
Yn rhan o’r cwrs, byddwch chi hefyd yn gweithio tuag at Ddiploma Lefel 3 mewn Gwasanaethau Tân ac Achub Brys, wedi’i achredu’n genedlaethol gan Sgiliau ar gyfer Cyfiawnder.
Mae’r radd hon yn gyfle unigryw i ennill profiad go iawn, adeiladu hyder, a gwneud gwahaniaeth yn y gymuned.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Ar y campws
- Saesneg
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cwrs gradd BA Arweinyddiaeth Tân ac Achub hwn yn ymarferol iawn, gan gydbwyso theori ac ymarfer Arweinyddiaeth gyda lleoliadau hyfforddi gwasanaeth tân cadarn.
Bydd gofyn i fyfyrwyr lwyddo’r broses recriwtio MaWWFRS ar gyfer swyddogion tân ar alwad sy’n cynnwys prawf ffitrwydd, prawf meddygol a fetio DBS. Gwneir hyn unwaith y bydd y myfyriwr wedi ennill ei gymwysterau lefel 3 ond cyn iddyn nhw allu cofrestru ar y cwrs hwn a bydd yn amod i’w gynnig i ymuno â’r cwrs hwn.
Efallai y bydd hi’n bosibl astudio rhai modylau ar y campws drwy gyfrwng y Gymraeg.
Lleoliad Ymarferol Tân ac Achub 1 (lefel 4, 60 credyd)
Yn y semester cyntaf, bydd myfyrwyr yn cael hyfforddiant lleoliad ymarferol i ddod yn swyddogion tân ar alwad mewn bloc pedair wythnos ac wedyn bydd disgwyl iddyn nhw weithio un shifft yr wythnos ar yr orsaf.
Bydd modylau ar y campws (i’w gadarnhau) yn cael eu cyflwyno ‘o gwmpas’ yr ymrwymiadau lleoliad.
Lleoliad Ymarferol Tân ac Achub 2 (lefel 5, 60 credyd).
Lleoliad Ymarferol Tân ac Achub 3 (lefel 6, 60 credyd) - ar draws y flwyddyn academaidd.
Course Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
80 o Bwyntiau Tariff UCAS
Ae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS.
Proses Recriwtio Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Bydd yn rhaid i fyfyrwyr hefyd lwyddo’r broses recriwtio MaWWFRS ar gyfer swyddogion tân ar alwad sy’n cynnwys prawf ffitrwydd, prawf meddygol a fetio DBS.
DBS
Os cewch eich derbyn ar ein rhaglen, bydd gofyn i chi gael gwiriad cliriad manwl clir gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a elwir yn CRB, y Swyddfa Cofnodion Troseddol cyn gynted â phosibl. Mae ffi yn gysylltiedig â’r gwasanaeth a dylech sicrhau eich bod yn dewis y gwasanaeth ‘diweddaru’.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â dbs@uwtsd.ac.uk.TGAU
Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd.
Llwybrau mynediad amgen
Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:
- Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor.
Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon.
Cyngor a Chymorth Derbyn
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.5 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 6.0 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
Mae’r cwrs hwn yn cyfuno lleoliadau a aseswyd yn ymarferol â MaWWFRS yn ogystal â dysgu ac asesu ar y campws.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg.
-
Bydd myfyrwyr yn cael eu talu am shifftiau Gwasanaeth Tân Ar Alwad. Disgwylir o leiaf 1 shifft yr wythnos yn rhan o’r cwrs hwn.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.
-
- Rolau’r Gwasanaeth Tân
- Rolau Gwasanaethau Cyhoeddus
- Rolau Arwain o fewn y sector Gwasanaethau Brys a Gwasanaethau Cyhoeddus.