ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Ymchwilio Proffesiynol (BSc Anrh)

Dysgu o Bell
15 Mis, Rhan Amser

Mae gwasanaeth heddlu’r DU yn wynebu prinder difrifol o dditectifs, gan ei gwneud yn anoddach i gynnal llu cryf a gwydn. Mae’r BSc Ymchwiliad Proffesiynol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi’i gynllunio i roi i’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr y sgiliau sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r her hon yn uniongyrchol.

Mae’r cwrs hwn yn darparu llwybr i’r rhai sy’n awyddus i ddatblygu eu gyrfa ym maes plismona ac ymchwilio troseddol. P’un a ydych chi’n swyddog yr heddlu yn barod sy’n bwriadu adeiladu ar eich sgiliau ymchwilio neu’n rhywun sy’n dod i mewn i’r maes am y tro cyntaf, mae’r radd hon yn cynnig cyfle cyffrous i ennill gwybodaeth ddamcaniaethol a phrofiad dysgu yn y gwaith.

Yn achos myfyrwyr sydd eisoes wedi cwblhau cymwysterau Lefel 1 a 2 PIP, mae’r rhaglen yn cynnig trawsnewidiad llyfn. Mae cymwysterau’r Rhaglen Proffesiynoli Ymchwilio (PIP) wedi’u hintegreiddio i strwythur y radd, gan ganiatáu i fyfyrwyr fynd yn uniongyrchol i mewn i flwyddyn olaf y radd os ydynt wedi’u hachredu â PIP2. Mae hyn yn golygu y gallwch gyflymu’ch astudiaethau trwy’r broses RPCL, gan osgoi lefelau cynharach a chanolbwyntio ar bynciau uwch.

Ar lefel 6, mae’r ffocws yn symud i ddysgu annibynnol gydag ymagwedd seiliedig ar waith, lle byddwch yn archwilio maes penodol o ymchwilio troseddol sydd o ddiddordeb i chi. Mae’r flwyddyn olaf yn canolbwyntio ar gynhyrchu astudiaeth ymchwil gynhwysfawr, gan eich annog i adfyfyrio ar eich strategaethau ymchwiliol a chryfhau eich sgiliau mewn cyd-destunau bywyd go iawn.

Mae’r radd wedi’i strwythuro’n dri modwl 40 credyd, y mae dau ohonynt yn fodylau dysgu yn y gwaith a fydd yn cynnwys profiad ymarferol. Mae’r trydydd yn fodwl a addysgir lle byddwch yn dyfnhau eich dealltwriaeth o faterion cymhleth ym maes plismona ac ymchwilio troseddol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Dysgu o bell
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Hyd y cwrs:
15 Mis, Rhan Amser

Cartref: 120 credyd am £35 y credyd.

Rhyngwladol: 120 credyd am £99 y credyd.

Pam dewis y cwrs hwn?

01
Mae gan ymchwilwyr sy’n meddu ar achrediad PIP 1 a 2 brofiad sylweddol ac maen nhw’n debygol o fod yn delio â throseddoldeb cymhleth a difrifol bob dydd.
02
Mae'r rhaglen hon, trwy gydnabod achrediad mewn swydd PIP 1 a 2 a hefyd y profiad sydd wedi’i ennill wrth weithio mewn rôl ymchwiliol, yn caniatáu i fyfyrwyr gychwyn ar lefel 6 ac ennill gradd BSc (Anrh) mewn 15 mis.​
03
Mae’r dull seiliedig ar waith lefel 6 yn caniatáu canolbwyntio ar faes sydd o ddiddordeb, gan gynhyrchu astudiaeth ymchwil tra’n myfyrio’n feirniadol ar sgiliau a strategaethau ymchwilio.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, rydym yn credu mewn ymagwedd ymarferol at ddysgu sy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer heriau’r byd go iawn. Mae ein BSc Ymchwiliad Proffesiynol yn cyfuno astudiaeth ddamcaniaethol â dysgu yn y gwaith, gan sicrhau eich bod yn cael profiad gwerthfawr ochr yn ochr â’ch datblygiad academaidd. Cewch eich arwain gan diwtoriaid arbenigol sydd â phrofiad academaidd a gweithredol, gan roi i chi’r sgiliau i lwyddo ym maes plismona ac ymchwilio troseddol.

Technegau a Sgiliau Ymchwiliol

Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwilio craidd sydd eu hangen ar gyfer gorfodi’r gyfraith, gan gynnwys sut i reoli safleoedd trosedd, cyfweld Ã¢ thystion, a phrosesu tystiolaeth. Trwy ddysgu yn y gwaith, byddwch yn cymhwyso’r technegau hyn mewn lleoliadau go iawn, gan eich paratoi ar gyfer gofynion rôl ymchwilydd proffesiynol ym maes plismona neu’r system cyfiawnder troseddol ehangach.

Ymchwil a Dadansoddi Beirniadol

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd ag astudiaeth ymchwil sy’n canolbwyntio ar faes penodol o ymchwilio troseddol sydd o ddiddordeb i chi. Bydd hyn yn datblygu eich gallu i ddadansoddi strategaethau, damcaniaethau ac arferion ymchwiliol yn feirniadol, gan eich helpu i adfyfyrio ar eich datblygiad proffesiynol eich hun a chyfrannu at y maes.

Dysgu yn y Gwaith

Mae’r cwrs yn cynnwys pwyslais cryf ar ddysgu yn y gwaith, gan ddarparu cyfleoedd i ennill profiad yn y byd go iawn ym maes plismona a sectorau cysylltiedig. Mae’r dull ymarferol hwn yn eich galluogi i gymhwyso gwybodaeth academaidd mewn ymchwiliadau go iawn, gan sicrhau eich bod yn datblygu dealltwriaeth glir o gymhlethdodau ymchwilio troseddol.

Fframweithiau Plismona a Chyfiawnder Troseddol

Trwy gydol y cwrs, byddwch yn archwilio’r fframweithiau plismona a chyfiawnder troseddol allweddol sy’n llunio arfer ymchwiliol modern. Byddwch yn dysgu am ystyriaethau cyfreithiol a moesegol ymchwiliadau troseddol, a sut mae’r fframweithiau hyn yn cael eu defnyddio i ddiogelu’r cyhoedd a sicrhau bod cyfiawnder yn cael ei wasanaethu.

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i gefnogi eich datblygiad gyrfa o fewn gwasanaeth yr heddlu neu feysydd cysylltiedig. Byddwch yn datblygu sgiliau proffesiynol allweddol, gan gynnwys arweinyddiaeth, cyfathrebu a datrys problemau, sy’n hanfodol ar gyfer cyfleoedd gyrfa ym maes gorfodi’r gyfraith, asiantaethau’r llywodraeth, a rolau sector preifat mewn ymchwiliadau

Mae myfyrwyr yn cychwyn ar lefel 6 ac yna trwy ddull seiliedig ar waith yn canolbwyntio ar faes o ddiddordeb, gan gynhyrchu astudiaeth ymchwil tra’n myfyrio’n feirniadol ar sgiliau a strategaethau ymchwilio.​ Mae tri modiwl 40 credyd, dau ohonynt yn fodiwlau dysgu seiliedig ar waith a’r trydydd yn fodiwl a addysgir.

Mae’r dull astudio yn gyfuniad  o ddarpariaeth ar y campws ac ar-lein.

Mae 6 diwrnod cyswllt.

Semester 1

(tua 22 wythnos)

Gweithio Amlasiantaeth: Polisi ar Waith

(20 credydau)

Gweithredu, Grymuso ac Arfer Gwrth-ormesol

(20 credydau)

Semester 2

(tua 22 wythnos)

Ymchwiliad yn y Gweithle

(40 credydau)

Semester 1 a 2 ynghyd â thua 6 wythnos o’r ail flwyddyn.

Arfer Ymchwilio Proffesiynol

(40 credydau)

Course Page Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 96 o Bwyntiau Tariff UCAS     

    • e.e. Safon Uwch: CCC, BTEC: MMM, IB: 30 

    ae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth Ã¢ thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu  er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. 

    Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio, ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

    Rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd er mwyn asesu eu haddasrwydd ar gyfer y cwrs dan sylw. Caiff eich sgiliau, eich cyflawniadau a’ch profiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch portffolio gwaith.

    TGAU 

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. 

    Llwybrau mynediad amgen 

    Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno Ã¢â€™n gradd baglor, gallech ystyried: 

    • ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.  

    Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd. 

    • Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth Ã¢ blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser. 

     Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor. 

    Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar Ã´l seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon. 

    Cyngor a Chymorth Derbyn 

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.

    Gofynion Iaith Saesneg 

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth Ã¢ sgôr o 6.5 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 6.0 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill. 

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.

    Gofynion fisa ac ariannu

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. 

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. 

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.   

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. 

  • Mae amrywiaeth o ddulliau crynodol yn cael eu defnyddio. Nid yw arholiadau’n cael eu defnyddio yn y rhaglenni oherwydd bod ffocws yr asesu ar ddysgu seiliedig ar waith ac adlewyrchu theori ar waith. Gwaith cwrs yw’r brif strategaeth asesu gan ei fod yn hwyluso asesu sy’n cyfuno gwybodaeth a dealltwriaeth, sgiliau gwybyddol, sgiliau ymarferol a sgiliau allweddol gan ddefnyddio dulliau sy’n briodol ar gyfer lefel yr astudiaeth a gofynion y gweithle.​

    Mae’r tri modiwl yn cael eu hasesu’n bennaf trwy bortffolios o dystiolaeth ynghyd â phrosiect mawr, sy’n profi gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau gwybyddol a’r sgiliau ymarferol ac allweddol (trosglwyddadwy) sy’n adlewyrchu’r sgiliau y bydd y dysgwyr yn eu defnyddio yn eu swyddi. â€‹

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg. 

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol. 

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol

    Mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg

  • Nid oes unrhyw gostau ychwanegol yn gysylltiedig â’r rhaglen hon, er y byddai disgwyl i fyfyrwyr gael mynediad at offer TG a byddai’n rhaid iddynt dalu eu costau teithio eu hunain i gyrraedd y campws.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Bydd graddedigion y BSc Ymchwiliad Proffesiynol yn gymwys ar gyfer ystod eang o gyfleoedd gyrfaol. P’un a ydych yn dymuno aros yng ngwasanaeth yr heddlu, symud i swyddi uwch ym maes gorfodi’r gyfraith, neu archwilio rolau yn y sector preifat, bydd y radd hon yn eich helpu i ddatblygu eich gyrfa. Drwy gyfuno theori academaidd â phrofiad byd go iawn, cewch eich paratoi ar gyfer heriau ymchwiliadau modern a’r hwb i’ch gyrfa rydych chi’n chwilio amdano.

    Os ydych chi’n barod i gymryd eich diddordeb mewn plismona ac ymchwilio troseddol i’r lefel nesaf, mae’r radd hon yn cynnig cyfuniad perffaith o ddysgu hyblyg a datblygiad proffesiynol.