ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Y Gyfraith ar Waith (Rhan Amser) (LLB)

Abertawe
2 Blynedd Llawn amser
96 o Bwyntiau UCAS

Mae LLB Y Gyfraith ar Waith yn radd ran-amser a gynlluniwyd ar gyfer y rhai sy’n barod i ddatblygu eu gyrfa gyfreithiol. Os ydych chi wedi cwblhau cymwysterau cyfreithiol Lefel 4 a 5, fel ardystiadau Paragyfreithiol neu Baragyfreithiol Uwch CILEX, mae’r cwrs atodol hwn yn cynnig llwybr uniongyrchol i ennill gradd LLB Y Gyfraith lawn.

Gan ei hastudio dros ddwy flynedd, mae’r rhaglen hon yn darparu cydbwysedd o wybodaeth gyfreithiol a sgiliau ymarferol wedi’u teilwra i weithleoedd cyfreithiol modern. Byddwch yn astudio ar y campws yn Abertawe, dan arweiniad gweithwyr proffesiynol profiadol sy’n darparu mewnwelediad byd go iawn wrth addysgu. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar sicrhau bod myfyrwyr yn barod i fodloni gofynion y gweithle, gan gyfuno dysgu academaidd â chymhwysiad ymarferol.

Mae’r cwricwlwm yn cwmpasu ystod o feysydd arbenigol o’r gyfraith, gan gynnwys datrys anghydfodau, trawsgludo, cyfraith teulu, ac ewyllysiau a phrofiant. Ochr yn ochr â’r modylau dewisol hyn, byddwch yn cwblhau modylau gorfodol yn ymwneud Ã¢â€™r gyfraith yn y gweithle a thraethawd hir arfer cyfreithiol, gan roi’r cyfle i chi ymchwilio ac archwilio pwnc cyfreithiol yn fanwl.

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio gyda hyblygrwydd mewn golwg, gan ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sy’n cydbwyso gwaith ac astudio. Mae’n berffaith i’r rhai sy’n awyddus i dyfu o fewn eu rôl bresennol, newid arbenigeddau, neu wella eu sgiliau cyflogadwyedd ar gyfer ystod ehangach o gyfleoedd mewn arfer cyfreithiol. Mae graddedigion yn gadael gyda’r hyder a’r cymhwysedd sydd eu hangen i lwyddo mewn lleoliadau fel cwmnïau cyfreithiol, adrannau cyfreithiol, neu arfer annibynnol.

Yn PCYDDS, byddwch yn elwa o diwtoriaid cefnogol, cyfleusterau modern, a chysylltiadau cryf â sefydliadau proffesiynol fel CILEX. Ein nod yw eich helpu i wireddu eich potensial a chyflawni eich nodau mewn proffesiwn cyfreithiol cystadleuol.

Os ydych chi’n barod i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa gyfreithiol, mae LLB Y Gyfraith ar Waith yn rhoi i chi bopeth sydd ei angen arnoch i lwyddo.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
2 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
96 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Dysgu ymarferol: Enillwch sgiliau ymarferol o ran drafftio dogfennau cyfreithiol, datrys anghydfodau, a rheoli achosion, gan sicrhau eich bod yn barod am y gweithle.
02
Opsiynau Astudio Hyblyg: Wedi'i gynllunio er mwyn ei astudio’n rhan-amser dros ddwy flynedd, sy'n eich galluogi i gydbwyso gwaith, astudio ac ymrwymiadau personol.
03
Ffocws Proffesiynol: Mae'r cwrs yn adeiladu ar eich cymwysterau presennol ac yn cynnig cysylltiadau cryf â CILEX, gan eich paratoi ar gyfer rolau uwch mewn arfer cyfreithiol.
04
Cwricwlwm wedi'i Deilwra: Mae modylau wedi’u halinio ag anghenion gweithwyr proffesiynol y cyfreithiol, sy'n cwmpasu meysydd fel cyfraith teulu, ewyllysiau a phrofiant, a thrawsgludo.
05
Tiwtoriaid Profiadol: Dysgwch gan arbenigwyr cyfreithiol sy'n cyflwyno mewnwelediadau ymarferol a phrofiad proffesiynol i'r ystafell ddosbarth.
06
Datblygu Gyrfa: Mae'r rhaglen yn rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth i ragori mewn cwmnïau cyfreithiol, adrannau cyfreithiol, neu hunangyflogaeth.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Yn PCYDDS, mae ein hymagwedd at dysgu yn cyfuno profiad ymarferol gyda mewnwelediad academaidd, gan sicrhau bod myfyrwyr yn ennill sgiliau sy’n uniongyrchol berthnasol i’r gweithle. Mae LLB Y Gyfraith ar Waith yn ffocysu ar gymhwyso gwybodaeth i senarios byd go iawn, datblygu meddwl beirniadol, a pharatoi graddedigion i lwyddo mewn amgylcheddau cyfreithiol proffesiynol.

Blwyddyn 1

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio meysydd allweddol y gyfraith a’u cymhwyso mewn arfer proffesiynol. Mae’r modylau craidd yn cynnwys y Gyfraith yn y Gweithle, lle byddwch yn datblygu sgiliau cyfreithiol hanfodol i’w rhoi ar waith yn y gweithle. Gallwch deilwra eich astudiaethau gyda modylau 20 credyd dewisol.

Blwyddyn 2

Mae’r ail flwyddyn yn dyfnhau eich dealltwriaeth o egwyddorion cyfreithiol ac yn gwella eich datblygiad proffesiynol. Byddwch yn cwblhau’r Traethawd Hir Arfer Cyfreithiol (40 credyd, Gorfodol), prosiect ymchwil annibynnol sy’n canolbwyntio ar bwnc cyfreithiol o’ch dewis. Mae modylau dewisol (20 credyd yr un) yn caniatáu arbenigedd pellach: 

Gorfodol
Y Gyfraith yn y Gweithle

(40 credyd)

Dewisol
Trawsgludo

(20 credydau)

Ymgyfreitha Troseddol

(20 credydau)

Datrys Anghydfod

(20 credyd)

Cyfraith ac Ymarfer Teulu

( credydau)

Ewyllysiau a Phrofiant

(20 credyd)

Gorfodol
Traethawd Hir Arfer Cyfreithiol

(40 credyd)

Dewisol
Cyfraith ac Ymarfer Teulu

(20 credyd)

Datrys Anghydfod

(20 credyd)

Ymgyfreitha Troseddol

(20 credydau)

Trawsgludo

(20 credydau)

Ewyllysiau a Phrofiant

(20 credyd)

Course Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 96 o bwyntiau tariff UCAS  &²Ô²ú²õ±è;

    • e.e. Safon Uwch: CCC, BTEC: MMM, IB: 30 

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS.  &²Ô²ú²õ±è;

    °Õ³Ò´¡±«â€¯â€¯&²Ô²ú²õ±è;

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd.  &²Ô²ú²õ±è;

    Llwybrau mynediad amgen  &²Ô²ú²õ±è;

    Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:  &²Ô²ú²õ±è;

    • ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.   &²Ô²ú²õ±è;

    Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd.  &²Ô²ú²õ±è;

    • Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser.  &²Ô²ú²õ±è;

     Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor.  &²Ô²ú²õ±è;

    Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon.  &²Ô²ú²õ±è;

    Cyngor a Chymorth Derbyn  &²Ô²ú²õ±è;

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. &²Ô²ú²õ±è;
     
    Gofynion Iaith Saesneg  &²Ô²ú²õ±è;

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.  &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. &²Ô²ú²õ±è;

    Gofynion fisa ac ariannu &²Ô²ú²õ±è;

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.  &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.  &²Ô²ú²õ±è;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   &²Ô²ú²õ±è;

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.    &²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.  &²Ô²ú²õ±è;

  • Cewch eich asesu trwy arholiadau, gwaith cwrs, ac aseiniadau ymarferol, fel paratoi dogfennau cyfreithiol a chreu portffolio proffesiynol.

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  &²Ô²ú²õ±è;

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. &²Ô²ú²õ±è;

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol &²Ô²ú²õ±è;

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg &²Ô²ú²õ±è;

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg 

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai y bydd myfyrwyr am brynu gwerslyfrau ar gyfer modylau, megis y Prosiect Ymchwil, ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni fydd yn effeithio ar y radd derfynol.

    Efallai y bydd teithiau maes dewisol hefyd a allai olygu rhai costau.

  • Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.

  • Bydd graddedigion yn barod am rolau mewn meysydd fel datrys anghydfod, cyfraith teulu, a thrawsgludo, neu am gymwysterau proffesiynol eraill.