Plismona Proffesiynol (Llawn amser) (BSc Anrh)
Nod ein gradd Plismona Proffesiynol yw rhoi’r ystod eang o sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen ar gyfer plismona modern i fyfyrwyr. Mae’r cwrs yn ymdrin â safonau plismona proffesiynol, sefyllfaoedd amrywiol, a chyd-destunau gwahanol. Ei nod yw ehangu eich gallu i berfformio’n effeithiol fel cwnstabl yr heddlu ym meysydd allweddol plismona proffesiynol.
Fel myfyriwr BSc Plismona Proffesiynol, byddwch yn archwilio sut mae ffactorau gwleidyddol a chymdeithasol yn dylanwadu ar droseddau. Byddwch yn astudio troseddoli a phrosesau gwleidyddol a chymdeithasol erledigaeth. Yn ogystal, byddwch yn dysgu am ddamcaniaethau troseddegol a sut mae amrywiaeth cymdeithasol ac anghydraddoldeb yn effeithio ar droseddu a’r ymatebion iddo. Bydd deall y cysyniadau hyn yn eich helpu i weld sut mae trosedd yn effeithio ar wahanol grwpiau o bobl mewn cymdeithas.
Mae’r cwrs hwn yn eich cyflwyno i’r problemau cymhleth cymdeithasol sy’n gysylltiedig â throseddu, megis materion dosbarth ac erledigaeth. Byddwch yn dysgu am yr ymatebion i drosedd a gwyrni, a datblygu sgiliau i gymharu’r ymatebion hyn, gan adnabod eu cryfderau a’u gwendidau. Bydd hyn yn cynnwys astudio dulliau ymchwilio troseddol a deall sut i werthuso eu heffeithiolrwydd.
Byddwch yn ymchwilio i wahanol strategaethau a dulliau sy’n cael eu defnyddio mewn plismona ar y radd hon. Byddwch yn dysgu i asesu pa mor addas yw’r strategaethau hyn mewn sefyllfaoedd gwahanol. Yn ogystal, mae’r cwrs yn ymdrin ag arferion a datblygiadau mewn arferion asiantaethau cyfiawnder troseddol. Mae hyn yn cynnwys edrych ar sut mae gwerthoedd a pherthnasoedd yn newid rhwng unigolion, grwpiau ac asiantaethau cyhoeddus a phreifat.
Mae’r radd hon yn radd cyd-ymuno sy’n seiliedig ar wybodaeth mewn plismona proffesiynolae angen i chi cyn y gallwch ymuno’n ffurfiol â gwasanaeth yr heddlu.Erbyn diwedd y cwrs, byddwch wedi datblygu yr wybodaeth a’r sgiliau sy’n uniongyrchol berthnasol i orfodi’r gyfraith yn y Gwasanaeth Heddlu yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r pynciau allweddol a drafodir yn y cwrs yn cynnwys plismona cymunedol, plismona ymateb a diogelu’r cyhoedd. Yn ogystal, byddwch yn astudio plismona yn seiliedig ar dystiolaeth, sy’n defnyddio ymchwil i liwio eich penderfyniadau a’ch gweithredoedd. Byddwch hefyd yn dysgu am rolau’r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol a’r Gwasanaethau Carchardai a Phrawf.
Mae’r radd Plismona Proffesiynol hon wedi’i chynllunio i’ch paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn plismona. Byddwch yn datblygu sylfaen gadarn ym meysydd craidd plismona, gyda ffocws ar ddeall troseddau a gwyrni ac ymateb iddynt. Mae’r cwrs hwn yn darparu’r wybodaeth a’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer recriwtio i wasanaeth yr heddlu ac i ragori fel cwnstabl yr heddlu.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cwrs hwn yn cydbwyso theori ac ymarfer gan ddefnyddio strategaethau dysgu sy’n bersonol ac yn gydweithredol.
Bydd myfyrwyr yn cael profiad mewn gweithgareddau plismona allweddol drwy gydol y rhaglen hon. Mae llawer o’r gweithgareddau hyn yn ymdrin â phroblemau ac achosion yn y byd go iawn. Mae’r ymagwedd hon yn sicrhau bod myfyrwyr nid yn unig yn dysgu yn yr ystafell ddosbarth, ond hefyd yn defnyddio eu gwybodaeth mewn lleoliadau ymarferol.
Ein nod yw datblygu meddwl beirniadol, sgiliau ymarferol a dealltwriaeth ddofn o blismona. Mae’r ymagwedd amlochrog hon yn sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu ystod eang o sgiliau, gan eu paratoi ar gyfer maes cymhleth a deinameg plismona proffesiynol.
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn cael eich cyflwyno i hanfodion plismona proffesiynol ac yn archwilio ffactorau sy’n dylanwadu ar drosedd a phlismona. Cynigir modylau mewn sgiliau cyfathrebu ar gyfer plismona hefyd.
(20 credydau)
(20 Credits)
(20 credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
Mae’r ail flwyddyn yn ymchwilio’n ddyfnach i gymhlethdodau trosedd, dosbarth ac erledigaeth. Byddwch yn astudio amrywiaeth o atebion i drosedd a gwyrni, gan ddatblygu sgiliau i gymharu’r ymatebion hyn yn feirniadol. Mae modylau arbenigol yn cynnwys plismona Cymru, polisi ac ymateb Cymunedol a phlismona’r ffyrdd.
(20 Credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn canolbwyntio ar bynciau uwch mewn plismona proffesiynol. Byddwch yn ymgymryd ag ymchwil annibynnol a chymhwyso strategaethau plismona sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Nod y flwyddyn hon yw atgyfnerthu eich dysgu a’ch paratoi ar gyfer recriwtio i wasanaeth yr heddlu, gan sicrhau eich bod yn barod am heriau’r sector hwn.
(20 credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
(40 Credydau)
Course Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
96 o Bwyntiau Tariff UCAS
- e.e. Safon Uwch: CCC, BTEC: MMM, IB: 30
ae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS.
TGAU
Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd.
Llwybrau mynediad amgen
Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:
- ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.
Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd.
- Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor.
Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon.
Cyngor a Chymorth Derbyn
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.5 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 6.0 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
Mae’r asesiadau wedi’u cynllunio ar y cyd gan dîm y rhaglen, i sicrhau eu bod yn ffurfio cyfanwaith cydlynol ac yn bodloni gofynion cwricwlwm Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona (PEQF) y Coleg Plismona ar gyfer y radd Plismona Proffesiynol Cyn Ymuno.
Prif bwrpas y cynllun asesu yw galluogi myfyrwyr i ddangos yn unigol eu bod wedi bodloni nodau’r rhaglenni ac wedi cyflawni’r deilliannau dysgu i’r safon sy’n ofynnol ar gyfer lefel yr astudiaeth. Bydd asesu hefyd yn cael ei ddefnyddio i roi adborth i fyfyrwyr i’w cynorthwyo gyda dysgu dilynol.
Bydd pob modiwl yn cael ei asesu’n grynodol drwy amrywiaeth o dasgau asesu unigol ond defnyddir dulliau ffurfiannol hefyd. Cynhelir asesiad ffurfiannol trwy ymarferion ymarferol sy’n cael eu cynnal a’u trafod yn y dosbarth, chwarae rôl, trafodaethau, cyflwyniadau gan fyfyrwyr a’r sesiynau sydd wedi’u neilltuo i adolygu’r arholiadau ar ôl iddynt gael eu marcio.
Bydd amrywiaeth o ddulliau asesu crynodol yn cael eu defnyddio. Defnyddir arholiadau yn bennaf (ond nid yn unig) i brofi gwybodaeth a dealltwriaeth.
Mae gwaith cwrs ac asesiadau ymarferol hefyd yn profi gwybodaeth a dealltwriaeth, ond maen nhw’n dueddol o ganolbwyntio mwy ar ddatblygu sgiliau gwybyddol, ymarferol ac allweddol. Mae dulliau o’r fath yn hynod briodol i natur y ddisgyblaeth blismona gan eu bod yn hwyluso asesu ac arfer dilys sy’n berthnasol i’r gweithle. Bydd gwaith cwrs a gwaith ymarferol yn cael eu gosod mewn amrywiaeth o ffurfiau; mae’r rhain yn cynnwys:
- Traethodau
- Adroddiadau
- Portffolios
- Prosiectau Ymchwil
- Cyflwyniadau.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg.
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai y bydd myfyrwyr yn dymuno prynu gwerslyfrau ar gyfer modiwlau fel y Prosiect Annibynnol, ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar y radd derfynol.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.
-
Fel darparwr cymeradwy, bydd heddluoedd yn gallu cydnabod y radd fel un sy’n addas i’r diben a bydd hynny o blaid y myfyrwyr wrth iddynt wrth wneud cais.
Mae’r Brifysgol yn cydweithio â Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent. Yn hanesyddol, mae nifer o’n graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio gyda’r heddluoedd hyn oherwydd y cysylltiadau sydd wedi’u gwneud. O ganlyniad i’r cydweithio hwn, mae nifer o hyfforddwyr yr heddlu yn gweithio gyda’r tîm i gyflwyno arfer proffesiynol ychwanegol a darparu sesiynau ymarferol HYDRA i’r myfyrwyr.
Mae’r rhaglen heddlu gwirfoddol sydd wedi’i chynnal rhwng PCYDDS a Heddlu De Cymru ers 2012 yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad gwerthfawr o blismona ymarferol sydd hefyd yn gwella eu cyfleoedd wrth gamu ymlaen.