ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol (BSc Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
96 o Bwyntiau UCAS

Mae ein rhaglen Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ar gyfer y rheini sy’n angerddol am ddeall trosedd, ei achosion, a’i effeithiau. Ar y cwrs hwn, byddwch yn astudio amrywiaeth o bynciau, o gyfiawnder ieuenctid a throseddau difrifol a chyfundrefnol i effaith ffactorau cymdeithasol fel trais ar sail rhywedd, gwahanu, ac anghydraddoldeb ar ymddygiad troseddol.  

Archwiliwch feysydd pwysig fel polisi cyhoeddus, niwed cymdeithasol, a sut mae polisïau cyffuriau’n llywio cymdeithas.  Mae ein dull amlddisgyblaethol yn cyfuno cymdeithaseg, y gyfraith a pholisi cyhoeddus, gan roi persbectif cynhwysfawr i chi ar droseddolrwydd a chyfiawnder.

Byddwch yn ymchwilio i faterion hollbwysig fel cynhwysiant cymdeithasol, camddefnyddio sylweddau, a phrosesau cyfreithiol, gan gael cipolwg ar drosedd a throseddolrwydd. Dysgwch am blismona, y system cyfiawnder troseddol a sut mae’r cyfryngau’n adrodd am droseddau.  Mae’r rhaglen hon yn eich paratoi i fynd i’r afael â throsedd a bregusrwydd mewn amrywiol gyd-destunau.

Yn ogystal, mae ein cwrs yn ymdrin ag adsefydlu, gan gynnig dealltwriaeth ddyfnach o sut mae’r system yn cefnogi troseddwyr i ailintegreiddio i gymdeithas. Byddwch yn archwilio sut mae hil a chrefydd yn dylanwadu ar drosedd ac effaith troseddau difrifol a chyfundrefnol ar gymunedau.

Wrth astudio gyda ni, byddwch yn ennill yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i baratoi ar gyfer swyddi ym maes troseddeg a chyfiawnder troseddol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
CCJ1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
96 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa yn y system cyfiawnder cyfreithiol neu’r rhai sydd â diddordeb mewn gweithio yn y sector cyhoeddus neu’r system cyfiawnder troseddol.
02
Mae'r cwrs wedi datblygu cysylltiadau cryf gyda sefydliadau lleol i ganiatáu profiad gwaith perthnasol a phroffesiynol gan roi'r sylfaen gorau posibl i'n graddedigion wrth iddynt fynd o'r byd academaidd i'r byd gwaith.
03
Mae tîm y cwrs yn gweithredu polisi drws agored sy'n darparu amgylchedd cyfeillgar ac agored i fyfyrwyr ddysgu a datblygu.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd y rhaglen hon yn rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr i chi o drosedd a chyfiawnder troseddol, gan eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd yn y maes.
 

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn gosod y sylfaen ar gyfer deall troseddeg a chyfiawnder troseddol.  Byddwch yn astudio hanfodion troseddeg, gan archwilio beth yw trosedd a sut mae’n effeithio ar gymdeithas.  Bydd modylau mewn cyfiawnder ieuenctid, yn eich helpu i ddeall achosion troseddau ieuenctid a sut mae’r system yn ymdrin â throseddwyr ifanc. Bydd modylau allweddol yn eich cyflwyno i’r system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys rolau’r heddlu, y llysoedd a sefydliadau cywirol.  Yn ogystal, byddwch yn archwilio sut mae ffactorau cymdeithasol fel hil, rhywedd, a dosbarth yn dylanwadu ar drosedd a’r ymatebion iddo. 

Gorfodol 

Paratoi ar gyfer Cyflogaeth

(20 credydau)

Cyflwyniad i Droseddeg

(20 credydau)

Pobl ifanc, Gangiau a Throseddu Difrifol

(20 credyd)

Camddefnyddio Sylweddau a Throseddolrwydd

(20 credyd)

Proses Gyfreithiol

(20 credydau)

Sgiliau Astudio

(20 credydau)

Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn dyfnhau eich gwybodaeth am droseddeg a chyfiawnder troseddol. Byddwch yn astudio plismona, gan ddysgu am yr heriau a’r strategaethau sy’n cael eu defnyddio gan y rheini sy’n gorfodi’r gyfraith.  Bydd modylau ar adsefydlu a chyfiawnder troseddol yn eich dysgu am y dulliau amrywiol sy’n cael eu defnyddio i adsefydlu troseddwyr a lleihau aildroseddu.  Bydd modylau ar drais ar sail rhywedd a niwed cymdeithasol yn eich helpu i ddeall cyd-destun ehangach trosedd a’i effeithiau ar wahanol grwpiau. Yn ogystal,  byddwch yn ymchwilio i bolisi cyhoeddus, gan archwilio sut mae cyfreithiau a pholisïau yn cael eu creu a’u heffaith ar drosedd a chyfiawnder.

Gorfodol 

Deall Trosedd, Cyfiawnder a Chosb

(20 credydau)

Paratoi ar gyfer Ymchwil Troseddegol

(20 credydau)

Yr Heddlu, Plismona a Chymdeithas

(20 credydau)

Cynhwysiant Cymdeithasol, Erledigaeth a Lles

(20 credydau)

Gwirfoddoli: Y Porth i Gyflogaeth

(20 Credydau)

Adsefydlu Troseddwyr

(20 credyd)

Dewisol

Cyfle Symudedd Rhyngwladol

(60 Credyd)

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn canolbwyntio ar bynciau uwch a chymwysiadau ymarferol. Byddwch yn archwilio sut mae’r cyfryngau’n adrodd am drosedd, deall sut mae trosedd yn cael ei bortreadu a’i effaith ar ganfyddiad y cyhoedd.  Byddwch yn archwilio troseddau difrifol a chyfundrefnol, gan ddysgu am yr effaith a’r strategaethau sy’n cael eu defnyddio i frwydro yn eu herbyn. Byddwch yn dysgu am ddulliau ymchwil sy’n cael eu defnyddio ym maes troseddeg, gan eich helpu i gasglu a dadansoddi data’n effeithiol. Yn ogystal, bydd gennych y cyfle i wneud ymchwil annibynnol, gan gymhwyso’r wybodaeth a’r sgiliau y byddwch wedi’u hennill ar y cwrs ar gyfer pwnc o’ch dewis.

Gorfodol 

Trosedd a Bregusrwydd

(20 credydau)

Rhywedd, Hil, Crefydd a Throsedd

(20 credydau)

Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol

(20 credyd)

Y Cyfryngau a Throsedd

(20 credyd)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Course Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 96 o Bwyntiau Tariff UCAS  

    e.e. Safon Uwch: CCC, BTEC: MMM, IB: 30

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;

    °Õ³Ò´¡±«â€¯ 

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;

    Llwybrau mynediad amgen  

    Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:  

    • ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.   

    Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd. &²Ô²ú²õ±è;

    • Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser. &²Ô²ú²õ±è;

     Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor. &²Ô²ú²õ±è;

    Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

     Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.

  • Bydd y cwrs yn cael ei asesu trwy gymysgedd o waith cwrs ysgrifenedig, gwaith prosiect, cyflwyniadau ac arholiadau.

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. 

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;

  • .

  • Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.

  • .