
Peirianneg Ynni ac Amgylcheddol gyda Blwyddyn Sylfaen (Llawn amser) (BEng Anrh)
Mae Peirianneg Ynni ac Amgylcheddol yn faes pwysig sy’n helpu i lunio sut rydym yn defnyddio ac yn cynhyrchu ynni. Mae’r maes astudio hwn yn archwilio ffynonellau ynni’r dyfodol ac yn creu technoleg lleihau carbon i leihau niwed i’n planed. Mae hefyd yn sicrhau bod gennym ddiogelwch ynni a chyflenwad ynni dibynadwy.
Er mwyn datrys heriau amgylcheddol byd-eang, mae angen inni ganolbwyntio ar gyflenwad ynni cynaliadwy sy’n defnyddio technoleg ynni glân ac ynni adnewyddadwy. Bydd hyn yn helpu i gyrraedd targedau sero net. Mae Llywodraeth y DU a Senedd Cymru angen gweithwyr medrus ym maes technoleg ynni ac amgylcheddol.
Mae’r radd Peirianneg Ynni ac Amgylcheddol gyda blwyddyn sylfaen wedi’i chynllunio i roi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch yn y sector cyffrous hwn. Byddwch yn dysgu deall materion amgylcheddol a chynaliadwyedd ac yn datblygu dadleuon clir a rhesymegol. Mae ein cwrs yn darparu gwybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol sy’n berthnasol i sefyllfaoedd y byd go iawn.
Mae’r cwrs yn berffaith i’r rhai sy’n poeni am yr amgylchedd ac sydd am gyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy.
Trwy astudio’r cwrs hwn, byddwch yn ennill y sgiliau a’r wybodaeth i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Boed hynny drwy ddatblygu technoleg ynni glân newydd neu weithio ar brosiectau arloesol sydd â’r nod o gyrraedd targedau sero net, byddwch ar flaen y gad o ran creu atebion ar gyfer byd cynaliadwy.
Mae gwneud gradd gyda blwyddyn sylfaen yn fuddiol iawn i fyfyrwyr. Mae’n darparu sylfaen gref mewn meysydd allweddol ac yn eich paratoi ar gyfer astudiaeth bellach. Gall cael sylfaen gadarn wneud pynciau cymhleth yn haws i’w deall.
Yn gyffredinol, mae’r rhaglen hon yn eich galluogi i weithio ar brosiectau sy’n datblygu adnoddau cynaliadwy a lleihau dibyniaeth ar danwydd ffosil. Byddwch hefyd yn dysgu am weithgynhyrchu gwerth uchel a’i rôl wrth greu cyflenwadau ynni cynaliadwy.
Erbyn diwedd y cwrs hwn, byddwch yn barod i fynd i’r afael â phroblemau ynni ac amgylcheddol y byd, gan sicrhau dyfodol glanach, mwy gwyrdd i bawb.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
- Dwyieithog
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein rhaglen Peirianneg Ynni ac Amgylcheddol yn rhoi sylfaen gadarn i fyfyrwyr mewn egwyddorion peirianneg i ddatrys heriau ynni ac amgylcheddol nawr ac yn y dyfodol. Rydym yn pwysleisio atebion arloesol, defnydd effeithlon o ynni, a lleihau effaith amgylcheddol, gan baratoi myfyrwyr ar gyfer cyfleoedd gyrfa amrywiol yn y maes hanfodol hwn.
Byddwch yn ennill gwybodaeth sylfaenol mewn peirianneg. Byddwch hefyd yn cael eich cyflwyno i gysyniadau allweddol mewn arferion cynaliadwy ac yn dechrau datblygu sgiliau gwaith tîm a rheoli. Mae’r flwyddyn hon yn gosod y sylfaen ar gyfer deall hanfodion peirianneg ynni ac amgylcheddol.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Mae’r ail flwyddyn yn ymchwilio’n ddyfnach i arferion cynaliadwy. Byddwch yn cymryd rhan mewn Prosiect Grŵp sy’n gwella eich sgiliau cydweithredol ac sy’n parhau i feithrin arweinyddiaeth a meddwl arloesol. Mae’r flwyddyn hon yn cryfhau eich dealltwriaeth o ynni cynaliadwy ac arferion amgylcheddol.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Byddwch yn astudio pynciau datblygedig, gan gynnwys technegau dadansoddol modern yn y modiwl Dulliau Cyfrifiadurol. Mae’r flwyddyn hon wedi’i chynllunio i ddyfnhau eich arbenigedd technegol a’ch sgiliau dadansoddi. Mae’r gwaith cwrs yn eich paratoi ar gyfer datrys problemau mwy cymhleth ac yn eich cyflwyno i ddefnyddio peirianneg ynni ac amgylcheddol yn y byd go iawn.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Mae’r flwyddyn olaf yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â phynciau uwch ac yn gorffen gyda Phrosiect Annibynnol. Mae’r prosiect hwn yn eich galluogi i roi eich gwybodaeth ar waith ar gyfer problem y byd go iawn, gan ddangos eich parodrwydd ar gyfer ymarfer proffesiynol. Byddwch yn cael cyfle i arddangos eich gallu i ddatblygu atebion arloesol a chael effaith sylweddol ym maes peirianneg ynni ac amgylcheddol.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(40 credydau)
Course Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Facilities
Cyfleusterau
Cyfleusterau Peirianneg Sifil a Phensaernïaeth

Gwybodaeth allweddol
-
32 o Bwyntiau Tariff UCAS
e.e. Safon Uwch: E, BTEC: PPP, IB: 24
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;
°Õ³Ò´¡±«â€¯
Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;
Llwybrau mynediad amgen 
Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried: 
-
‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.  
Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd. &²Ô²ú²õ±è;
-
Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser. &²Ô²ú²õ±è;
 Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor. &²Ô²ú²õ±è;
Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon. &²Ô²ú²õ±è;
Cyngor a Chymorth Derbyn 
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg 
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
 Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
-
Mae gan fyfyrwyr y math yma o raglen ddiddordeb naturiol yn eu harbenigedd, a nod y tîm addysgu yw ennyn y diddordeb hwn fel bod myfyrwyr yn mwynhau dysgu a gwerthfawrogi’r manteision y gall gradd beirianneg eu hychwanegu i gefnogi eu meysydd diddordeb.
Bydd asesiadau’r rhaglen yn gymysgedd o waith cwrs ac arholiadau ffurfiol. Bydd cyflwyniadau hefyd yn rhan o fodylau fel y prosiect grŵp a phrosiect Mawr lle cewch y cyfle i arddangos eich gwaith.
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hwn heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y prif brosiect, ond nid yw hyn yn ofyniad ac ni chaiff unrhyw effaith ar y marc terfynol.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
-
Mae’r diwydiant yn cynnwys gweithgynhyrchwyr arbenigol bychain a diwydiannau graddfa fawr. Mae yna farchnad glir i fyfyrwyr gael eu cyflogi yn y maes hwn, ac mae’r galw am raddedigion peirianneg amgylcheddol yn parhau’n uchel a chynigir cyflogau cychwyn rhagorol i raddedigion.