Profiad PCYDDS Salvador
Gwybodaeth Allweddol
Enw: Salvador Puma
Rhaglen: BA Lletygarwch a Rheoli Gwestai
Tref eich Cartref: Swansea
Profiad Lletygarwch a Rheoli Gwestai Salvador
Profiad Lletygarwch a Rheoli Gwestai Salvador

Beth oedd eich hoff beth am campws Abertawe?
Rwy’n hoffi campws Abertawe oherwydd ei fod yn ganolog ac o fewn pellter cerdded i siopau, adloniant a bwytai lleol. Rwyf hefyd yn mwynhau cyfleusterau campws SA1, fy ffefryn yw’r adeilad IQ, lle gwych i ryngweithio â myfyrwyr eraill, ymlacio, mwynhau pryd o fwyd, a gwneud eich gwaith prifysgol.
Pam gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Dewisais y Drindod Dewi Sant oherwydd bod ganddyn nhw raglen myfyrwyr aeddfed da, maen nhw’n Brifysgol sy’n cynnig amrywiaeth o gymorth i’r myfyrwyr waeth beth fo’u hoedran neu eu rhyw. Cynigiodd y Drindod Dewi Sant y rhaglen roeddwn i eisiau ei chymryd, a helpodd fi i symud ymlaen a gwella fy ngyrfa.
Beth gwnaethoch chi fwynhau tu allan i’ch astudiaethau?
Rwy’n mwynhau mynd allan a rhoi cynnig ar wahanol fathau o fwyd, chwilio am fwytai newydd yn agor yn yr ardal a rhoi cynnig arnynt, chwilio am eu mannau gwan, a chasglu syniadau newydd i’w cyfeirio yn y dyfodol.
Beth ydych chi’n gobeithio ei wneud pan fyddwch chi’n graddio?
Rwy’n gobeithio dod o hyd i yrfa o fewn y diwydiant, yn benodol mewn gwesty, fel rheolwr neu yn y pen draw fod yn berchennog balch o un, fel y gallaf helpu i wella’r diwydiant lletygarwch.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS?
Rwy’n argymell y Drindod Dewi Sant yn arbennig ar gyfer myfyrwyr aeddfed sy’n edrych i fynd yn ôl i’r brifysgol, lle perffaith i ddechrau, mae athrawon yn gyfeillgar ac yn gymwynasgar, mae’r rhaglen yn gyfredol o fewn y diwydiant lletygarwch neu unrhyw gwrs maen nhw’n ei gynnig.
Beth yw eich hoff beth am letygarwch a rheoli gwestai?
Yr hyn rwy’n ei fwynhau fwyaf yw boddhad cwsmeriaid, gallu cyflawni eu harhosiad perffaith, a gwyliau mewn unrhyw westy neu fwyty yr wyf yn gweithio iddo. Yn ddiwydiant gwych i gwrdd â phobl a dod i’w hadnabod.