Ҵý

Skip page header and navigation

Mae Coleg Celf Abertawe PCYDDS yn falch o ddathlu cyflawniadau rhyfeddol ei fyfyrwyr blwyddyn olaf yn ail wythnos New Designers 2025 yn Llundain, un o arddangosfeydd mwyaf mawreddog y DU o dalent greadigol newydd.

A smiling student in a white top holding an award and standing in front of her creative work.

Derbyniodd dau fyfyriwr wobrau mawr, ac enillodd sawl un arall gydnabyddiaeth proffil uchel gan arweinwyr y diwydiant, gan atgyfnerthu enw da Coleg Celf Abertawe fel pwerdy creadigrwydd ac arloesedd.

  • Enillodd Jodie Chung, a oedd yn astudio Dylunio Graffig, Wobr fawreddog Hallmark Connection y New Designers. Yn rhan o’i gwobr, bydd Jodie yn ymgymryd ag interniaeth â thâl yn stiwdio greadigol Hallmark, gan gynnig cyfle unigryw i ddatblygu ei thalent mewn amgylchedd masnachol blaenllaw.
  • Anrhydeddwyd Ellie Jones,  myfyrwraig Darlunio blwyddyn olaf, â Gwobr Partner yn rhan o  Wobr Sbotolau Cymdeithas y Darlunwyr (AOI). Mae’r anrhydedd hynod gystadleuol hon yn dathlu addewid eithriadol ym maes darlunio ac yn amlygu dull dychmygus a photensial proffesiynol Ellie.

    Uchafbwyntiau Cydnabyddiaeth y Diwydiant:
  • Derbyniodd Lucy De-La-Haye (Dylunio Graffig) gydnabyddiaeth gan PepsiCo, a ddywedodd: “We love this!” mewn ymateb i’w gwaith creadigol.
  • Cafodd Jodie Chung (Dylunio Graffig) hefyd ei chydnabod gan PepsiCo, gan ennill y gymeradwyaeth frwdfrydig “We love this!” am ei harddangosfa.
  • O’r maes Crefftau Dylunio, cyrhaeddodd Emily Jones restr fer Gwobr fawreddog Conran, sy’n dyst i’w harloesedd dylunio a’i chrefft. Yn ogystal, mynegodd Allermuir, brand dodrefn a dylunio adnabyddus, edmygedd am ei gwaith.
  • Gwnaeth Lewis Hill (Dylunio Graffig) argraff ar ddylunwyr y brand chwaraeon HEAD® a chafodd wahoddiad i dreulio diwrnod yn eu stiwdios dylunio yng Ngogledd Greenwich.

Daw hyn ar ôl wythnos gyntaf lwyddiannus yn New Designers lle gwelwyd myfyrwyr blwyddyn olaf y rhaglen Dylunio Patrymau Arwyneb a Thecstilau (PCYDDS) hefyd yn dathlu llwyddiant.

  • Ymhlith y talentau a oedd yn sefyll allan roedd Mini Sharma McLachlan, a dyfarnwyd iddi £1,500 gan y brand addurno mewnol a phapur wal blaenllaw o Brydain, Cole & Son. Yn adnabyddus yn fyd-eang am ei ddyluniadau unigryw ac arloesol, fe wnaeth y brand gydnabod Mini am ei sgiliau lluniadu eithriadol, ei gwaith cain yn ei llyfrau braslunio, a chasgliad cywrain a deinamig o batrymau.

Gwnaeth myfyrwyr o’r cwrs Dylunio Patrymau Arwyneb a Thecstilau yn PCYDDS hefyd argraff gref ar feirniaid a brandiau’r diwydiant yn ystod yr wythnos gyntaf:

  • Enillodd Aimee Rayner wobr SDC Associate a derbyniodd hefyd docynnau cariad - gwobrau cydnabyddiaeth - gan Laura Ashley a Romo, y ddau yn enwau uchel eu parch ym maes addurno mewnol a thecstilau. Mae Aimee hefyd wedi sicrhau interniaeth fawreddog 13 mis â thâl gyda Rolls-Royce, o ganlyniad i’w gwaith eithriadol ar brosiect diwydiant byw yn ystod ei gradd.
  • Derbyniodd Lily Staniforth docyn cariad gan Habitat, i gydnabod ei chreadigrwydd a’i photensial fel egin ddylunydd patrymau arwyneb.
  • Derbyniodd Susan Down docyn cariad gan M&S ac Ashley WildeSusan Down received a love token from M&S and Ashley Wilde

Meddai Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau: “Rydym yn hynod falch o gyflawniadau ein myfyrwyr yn sioe y New Designers. Mae’r gwobrau hyn a phob cydnabyddiaeth gan y diwydiant yn adlewyrchu nid yn unig dalent ac ymroddiad ein myfyrwyr ond hefyd gryfder ein haddysgu a’r diwylliant creadigol bywiog rydyn ni’n ei feithrin.”

Ynglŷn â New Designers: 

New Designers yw’r brif arddangosfa yn y DU o waith dylunio graddedigion, sydd, dros gyfnod o bythefnos, yn arddangos gwaith dros 2,500 o raddedigion o ysgolion dylunio gorau’r wlad. Mae’n dod ag egin dalent a busnesau blaenllaw ynghyd ar draws y meysydd dylunio graffig, darlunio, dylunio cynnyrch, tecstilau, a mwy. Gyda miloedd o ymwelwyr, gan gynnwys prynwyr, cyflogwyr a myfyrwyr ysgol, mae’r digwyddiad yn cynnig ffordd hanfodol i genhedlaeth nesaf y DU o weithwyr proffesiynol creadigol lansio eu hunain yn y diwydiant.

Ynglŷn â Choleg Celf Abertawe, PCYDDS:

Fel y coleg celf hynaf yng Nghymru, mae gan Goleg Celf Abertawe enw da sefydledig am gynhyrchu talent greadigol o’r radd flaenaf. Mae’n cynnig amgylchedd addysgol unigryw lle mae unigolrwydd, creadigrwydd ac arloesedd yn cael eu dathlu a’u meithrin. Mae myfyrwyr yn elwa o addysgu arbenigol, cysylltiadau â diwydiant, a’r cyfle i gyflwyno eu gwaith ar lwyfannau cenedlaethol fel New Designers.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;07384&Բ;467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon