PCYDDS yn Cynnal Arddangosfa Dechnoleg Ymarferol i Addysgwyr Cymru
Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) groesawu sefydliadau o Gymru a staff i arbennig dros dridiau, a gynhelir o’r 1af i’r 3ydd o Orffennaf ar Gampws Caerfyrddin. Mae’r digwyddiad hwn, sy’n rhad ac am ddim ac a gefnogir gan, yn gyfle i gael profiad uniongyrchol o’r technolegau arloesol sy’n trawsnewid addysgu a dysgu ledled y brifysgol.
Bydd yr arddangosfa, a drefnir gan dîm Creadigrwydd a Dysgu Digidol (CDD) PCYDDS, yn cynnwys arddangosiadau rhyngweithiol a sesiynau ymarferol gyda’r bwriad o ysbrydoli, hysbysu a chysylltu. Caiff mynychwyr gyfle i archwilio ystod eang o adnoddau sydd ar flaen y gad; o realiti rhithwir ac amgylcheddau dysgu trochol i ddronau, camerâu 360°, ac atebion darlledu byw. Bydd ffefrynnau’r ystafell ddosbarth, megis Samsung Flip a Rapidmooc, hefyd ar gael i roi cynnig arnynt.
Caiff cyfranogwyr fwynhau mynediad uniongyrchol i’r adnoddau hyn, dan arweiniad yr union staff sy’n eu cyfuno â’u harferion addysgu dyddiol. P’un a oes gennych ddiddordeb mewn gwella ymgysylltiad y dosbarth, mewn archwilio amgylcheddau ymgolli, neu ddim ond awydd gwybod am y pethau nesaf ym maes technoleg addysg, mae hwn yn gyfle na ddylid ei golli.
Meddai Chris Rees, Pennaeth Gweithredol Creadigrwydd a Dysgu Digidol yn PCYDDS:
“Mae’r digwyddiad arddangos technoleg hwn yn ofod cydweithredol lle gall y gymuned addysg sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru a’r sector busnesau/sefydliadau lleol gael cyfle ymarferol â thechnoleg, rhannu profiadau, a meithrin perthnasoedd. Mae’n ymwneud ag agor drysau i’r hyn sy’n bosibl, gyda chymorth y tîm Creadigrwydd a Dysgu Digidol (CDD) yn PCYDDS.”
Mae hwn yn fwy na dim ond arddangosiad technoleg. Mae’n wahoddiad agored i gydweithredu, i gyfnewid syniadau, ac i feithrin cysylltiadau. Bydd y tîm CDD wrth law drwy gydol y digwyddiad i roi arweiniad ymarferol, i rannu astudiaethau achos, ac i drafod sut y gellir addasu a gweithredu’r adnoddau hyn ar draws lleoliadau addysgol a sefydliadol gwahanol.
Mae’r digwyddiad yn rhan o ymdrech ehangach gan PCYDDS i gefnogi arloesi digidol o fewn addysg yng Nghymru a thu hwnt. Trwy agor ei drysau i gydweithwyr ledled y rhanbarth, nod y brifysgol yw meithrin diwylliant o ddysgu a rennir, lle gellir archwilio technolegau ac addysgegau newydd ar y cyd mewn amgylchedd cynhwysol a chefnogol.
P’un a ydych yn addysgwr, yn rhywun sy’n frwd dros dechnoleg, neu ddim ond ag awydd gwybod am sut mae adnoddau digidol yn llunio dyfodol dysgu, dyma gyfle na ddylid ei golli.
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond rhaid cadw lle. Cliciwch i gadw eich lle.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476