Prentis yr heddlu i gystadlu yng Ngemau Heddlu a Thân y Byd
Bydd prentis heddlu y Drindod Dewi Sant, Jack Dixon ymhlith y garfan sy’n cynrychioli Cymru yng a gynhelir yn Birmingham, Alabama, UDA rhwng 27 Mehefin a 6 Gorffennaf 2025.

Mae Jack, yn aelod o Glwb Pêl-droed Heddlu De Cymru a fydd yr unig lu o Gymru sy’n cystadlu yng nghystadleuaeth bêl-droed Oed Agored a Feteran (dros 35).
Mae yn gystadleuaeth tebyg i’r gemau Olympaidd gyda miloedd o athletwyr yn cynrychioli Ymatebwyr Cyntaf o wahanol wledydd ledled y byd.
Bydd Jack, sy’n byw yn Abertawe, yn graddio eleni o’r brentisiaeth gradd Ymarfer Plismona Proffesiynol eleni. Meddai: ”Wrth ddechrau fy ngyrfa gyda Heddlu De Cymru, rwyf wedi bod yn rhan o’r adran bêl-droed gan fy mod wedi bod yn angerddol am y gamp trwy gydol fy oes. Y llynedd, roeddwn i’n ddigon ffodus i fod yn rhan o’r garfan yn chwarae yn Salou, Sbaen i gystadlu ym Mhencampwriaethau Ewropeaidd ESFL lle cyrhaeddon ni rownd yr wyth olaf.
“Eleni, byddaf yn chwarae i Dîm Pêl-droed Heddlu De Cymru yn Alabama, UDA i gystadlu yng Ngemau Heddlu a Thân y Byd 2025. Bydd y gemau yn cael eu cynnal rhwng y 27ain o Fehefin a’r 7fed o Orffennaf, yn cynnwys 60+ o chwaraeon a 30+ o leoliadau ledled Alabama. Byddaf yn cymryd rhan yn y twrnamaint pêl-droed lle bydd Heddlu De Cymru yn cystadlu yn erbyn timau o bob cwr o’r byd. Mae ein gêm agoriadol yn erbyn Toronto, Gwasanaeth Heddlu Canada ddydd Sadwrn y 28ain o Fehefin.
“Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn garedig yn rhoi nawdd tuag at gost fy nhreuliau yn ystod y gemau. Mae’r cyllid wedi helpu’n enfawr tuag at gost teithio, llety a cit. Mae’r gefnogaeth hon yn cael ei werthfawrogi’n fawr imi ac rwy’n diolch i Bronwen Williams a phawb sy’n gwneud hyn yn bosibl”.&Բ;
Meddai Bronwen Williams, Cyfarwyddwr Academaidd Ysgol y Gyfraith Abertawe Y Drindod Dewi Sant: “Rydym yn falch iawn o gefnogi Jack i’w alluogi i gystadlu yn y gemau hyn gyda’i gyd-swyddogion heddlu. Mae hwn yn gyflawniad anhygoel i gael eich dewis i gynrychioli Heddlu De Cymru a Chymru yn y gemau hyn. Mae Jack hefyd yn graddio o’r Drindod Dewi Sant mewn Ymarfer Heddlu Proffesiynol pan fydd yn dychwelyd o’r gemau ym mis Gorffennaf. Mae cydbwyso ei yrfa plismona, gyda’i astudiaethau academaidd ac i chwarae chwaraeon ar y lefel hon yn dyst i ymroddiad, ymrwymiad a phroffesiynoldeb Jack i’w rôl fel swyddog heddlu. Rydym yn dymuno pob lwc iddo yn y gystadleuaeth”.
Dechreuodd gyrfa Jack o fewn yr heddlu ac yn y Brifysgol dair blynedd yn ôl pan ymunodd â Heddlu De Cymru fel Cwnstabl yr Heddlu. Dywedodd: “Ffactor pwysig wrth wneud fy mhenderfyniad i ddechrau fy ngyrfa ym maes plismona oedd y posibilrwydd o ennill gradd mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
“Dair blynedd yn ôl, roeddwn i’n nerfus wrth feddwl am gydbwyso fy ngyrfa ac astudio, fodd bynnag, gyda diwrnodau dysgu a chefnogaeth gan y Brifysgol mae wedi gwneud y profiad yn hollol werth chweil. Roedd unrhyw anawsterau neu gefnogaeth oedd ei angen arnaf bob amser yn un alwad ffôn, e-bost neu gyfarfod wyneb yn wyneb i ffwrdd. Mae astudio Plismona Proffesiynol wedi fy helpu i gymhwyso’n ddi-dor i’r hyn yr oeddwn wedi’i brofi a’i ddysgu tra ar ddechrau fy ngyrfa i’m haseiniadau academaidd a’m llyfrau gwaith”.&Բ;
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071