ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Mae’r Diwydiannau Dylunio a Pherfformio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch iawn o gyflwyno noson i ddathlu cyflawniadau creadigol eu myfyrwyr BA Gwneud Ffilmiau Antur a BA Cynhyrchu Cyfryngau Digidol.

an image of student taking a photo

Mae’r dangosiad arbennig hwn, a gynhelir am 7:30pm ar 7 Gorffennaf yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin, yn rhan o raglen Clwb Ffilmiau Caerfyrddin, gyda chefnogaeth falch gan Å´yl Ffilmiau Bae Caerfyrddin a Theatrau Sir Gâr.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys ystod gyffrous ac amrywiol o ffilmiau byr a gynhyrchwyd gan fyfyrwyr ar draws y tair blynedd o astudio. Gall cynulleidfaoedd ddisgwyl rhaglenni dogfen amgylcheddol, prosiectau cyfryngau creadigol, a ffilmiau drama byr – pob un yn adlewyrchu angerdd, arloesedd ac arbenigedd cynyddol y myfyrwyr.

Bydd y noson yn dechrau gyda chyflwyniad byr gan Dr Brett Aggersberg, Rheolwr y Rhaglen, a ddywedodd:

“Rydym bob amser yn falch iawn o’n myfyrwyr, ac eleni gwelwyd gwaith deinamig sy’n dathlu’r ddelwedd symudol mewn ystod o feysydd diwydiant. Mae gan y myfyrwyr sy’n graddio ddyfodol disglair o’u blaenau lle gallant fynegi eu syniadau a gweithio mewn cyd-destun proffesiynol mewn meysydd newydd cyffrous.

“Ymunwch â ni am noson ysbrydoledig o adrodd straeon ac archwilio sinematig, a chefnogwch y genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilmiau wrth iddynt gymryd eu camau cyntaf i’r diwydiannau creadigol.â€

Un o uchafbwyntiau’r noson fydd y ffilmiau ffuglen byr, sy’n arddangos gwaith cydweithredol rhwng myfyrwyr BA Cynhyrchu Cyfryngau Digidol a myfyrwyr BA Actio – sy’n dyst i ymrwymiad PCYDDS i greadigrwydd trawsddisgyblaethol.

Mae mynediad am ddim, a thocynnau ar gael ar y Theatr  neu’n uniongyrchol o’r swyddfa docynnau.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;07449&²Ô²ú²õ±è;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon