ĂÜĚŇ´«Ă˝

Skip page header and navigation

Yn ystod Wythnos Gwaith Cymdeithasol (17eg-21ain Mawrth), rydym yn dathlu Gemma Clarke a Joanne Maguire, sy’n raddedigion BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar PCYDDS a drosglwyddodd o fod yn  Gynorthwywyr Addysgu mewn ysgol gynradd i wneud gwahaniaeth mewn gofal cymdeithasol. Bellach yn gweithio yng Gwasanaethau Ymyrryd yn Gynnar Abertawe, ni wnaethant fyth ddychmygu y byddai eu gradd yn agor drysau y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.

Two ladies smiling

Roedd Gemma a Joanne yn gweithio gyda’i gilydd mewn ysgol gynradd leol, yn cefnogi plant oedd wedi profi adfyd. Er eu bod wrth eu bodd yn gweithio gyda phlant, roeddent am gefnogi teuluoedd cyfan.

Pan wnaeth Gemma ddarganfod gradd hyblyg gyda’r nos PCYDDS, fe anogodd Joanne i ymuno â hi.  Roedd dychwelyd i addysg yn frawychus, ond roedd yn bosib i’w wneud gyda’r gefnogaeth gan ddarlithwyr a’r gallu i astudio tra’n gweithio.

“Roedd y darlithwyr yn anhygoel,” meddai Joanne. “Roedden nhw’n ein hannog ni i weld faint yn fwy y gallen ni ei wneud gyda’n profiad a’n sgiliau.” 

Ychwanegodd Gemma, “Fel myfyrwyr aeddfed gyda theuluoedd a swyddi - roedden ni’n poeni y byddai’n ormod. Ond wrth edrych yn Ă´l nawr, byddwn i’n dweud wrth unrhyw un yn ein sefyllfa ni i fynd amdani. Mae wedi newid ein bywydau.”

Mae eu hastudiaethau wedi dyfnhau eu dealltwriaeth o ddatblygiad plant, yn enwedig modylau fel Y Mil Diwrnod Cyntaf, a oedd yn amlygu’r blynyddoedd cynnar hanfodol. “Rwyf bellach yn defnyddio’r wybodaeth honno’n ddyddiol wrth gefnogi teuluoedd,” meddai Joanne. 

Mae’r cwrs hefyd wedi meithrin eu hyder mewn ysgrifennu academaidd a chyflwyniadau - sgiliau y maent bellach yn dibynnu arnynt wrth arwain grwpiau rhianta ac ysgrifennu adroddiadau. Dywedodd Gemma, “Roedd ysgrifennu academaidd a chyflwyniadau y tu hwnt i’r hyn sy’n gyfforddus i mi yn llwyr. Ond roedd y radd yn ein paratoi i wneud y pethau hyn - a’u gwneud yn hyderus.”

Gydag anogaeth eu darlithwyr, buont yn archwilio gyrfaoedd y tu hwnt i addysg, gan eu harwain at Gwasanaethau Ymyrryd yn Gynnar Abertawe. Mae Joanne bellach yn Uwch-weithiwr ym Mlynyddoedd Cynnar Ymyrryd yn Gynnar, ac mae Gemma yn Weithiwr Cymorth Arweiniol Ymyrryd yn Gynnar, sy’n cynorthwyo teuluoedd drwy fentrau fel Dechrau’n Deg.

“Mae fy rĂ´l yn cynnwys gweithio ochr yn ochr â theuluoedd i ddarparu’r cymorth iawn ar yr adeg iawn,” meddai Gemma. “Yn ddiweddar, dywedodd rhiant wrthyf sut y gwnaeth newidiadau bach a awgrymwyd gennym wahaniaeth mawr i les eu plentyn. Mae’n fraint cael bod yn rhan o’r daith honno.”

Mae Joanne yn credu bod y radd wedi llunio ei gyrfa. Dywedodd: “Agorodd y radd ddrysau a dangos i ni beth oedd yn bosib. Roedd y darlithwyr nid yn unig yn ein dysgu- roedden nhw’n ein cefnogi ni bob cam o’r ffordd. Roedden nhw’n credu ynom ni cyn i ni wneud.”

Ychwanegodd Gemma, “Rwyf wedi magu cymaint o hyder. Roeddwn i’n barod i fynd am swyddi a chyfweliadau, i werthu fy sgiliau a bod yn falch o’r hyn rwy’n ei wybod. Mae hyn nid yn unig wedi newid fy ngyrfa, ond hefyd sut rydw i’n gweld pethau ac yn gweld fy hun.”

Rydym yn falch o weld sut mae graddau’n newid gyrfaoedd a safbwyntiau graddedigion fel Gemma a Joanne, yn ogystal â’r gwahaniaeth y maent yn ei wneud yn eu cymunedau lleol. 

Mae gradd PCYDDS Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar nid yn unig yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd mewn addysg - mae’n darparu Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (EYPS) ac mae’n cael ei gydnabod gan Gofal Cymdeithasol Cymru, gan ei gwneud yn llwybr rhagorol i ofal cymdeithasol. 

Os hoffech ddilyn yn Ă´l troed Gemma a Joanne, boed yn llawn-amser neu’n rhan-amser, beth am archwilio ein rhaglenni Blynyddoedd Cynnar.


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
ąó´ÚĂ´˛Ô:&˛Ô˛ú˛ő±č;+447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon