ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar - 2 Flynedd (BA Anrh)

Abertawe
2 Blynedd Llawn Amser
Profiad gwaith perthansol

Os ydych eisoes yn gweithio neu os oes gennych brofiad o weithio gyda phlant / teuluoedd neu ardaloedd cysylltiedig, mae’r llwybr dysgu hyblyg hwn wedi’i gynllunio ar eich cyfer chi.  Wedi’i gyflawni o amgylch eich ymrwymiadau gwaith i’ch cefnogi i ddychwelyd i astudio. 

Gwnewch wahaniaeth ym mywydau plant ifanc gyda’n rhaglen Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yw eich porth i yrfa werth chweil mewn addysg Blynyddoedd Cynnar, lle mae pob rhyngweithio yn cyfrif tuag at lunio cenedlaethau’r dyfodol. 

Ymchwilio i hanfodion Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar a chael dealltwriaeth gynhwysfawr o ddatblygiad plant, arferion addysgol, a rôl hanfodol addysgwyr blynyddoedd cynnar. Gyda chwricwlwm sy’n cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â phrofiad ymarferol, byddwch yn caffael y sgiliau sydd eu hangen i ragori mewn amrywiol yrfaoedd Addysg Blynyddoedd Cynnar.  Mae hwn yn ffordd ddelfrydol i gael mynediad at hyfforddiant athrawon TAR a rolau graddedigion eraill 

Ymunwch â chymuned fywiog o ddysgwyr ac addysgwyr sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo addysg Blynyddoedd Cynnar. Cydweithio â thiwtoriaid profiadol a chyd-fyfyrwyr wrth i chi archwilio dulliau addysgu arloesol ac arferion gorau mewn Addysg Plentyndod Cynnar. 

Bydd ein rhaglen yn eich galluogi i gyflawni Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar, a gydnabyddir gan Ofal Cymdeithasol Cymru a Rhwydwaith Gradd Astudiaethau Plentyndod Cynnar, gan sicrhau eich bod yn barod i greu amgylcheddau meithrin sy’n cefnogi dysgu a datblygiad plant. P’un a ydych chi’n anelu at weithio mewn ysgolion, meithrinfeydd, Dechrau’n Deg, neu ganolfannau teulu a chymunedol, byddwn yn rhoi’r offer, y wybodaeth a’r gefnogaeth i chi lwyddo.  

Gallant hefyd arwain at ystod o rolau gyrfa graddedigion sy’n gysylltiedig ag addysg, Anghenion Dysgu Ychwanegol, lles, diogelu, chwarae, dysgu yn yr awyr agored, ymarfer cymunedol. 

Mae’r derbyniad ym mis Medi ar gyfer myfyrwyr sy’n dechrau’r cwrs o’r dechrau, tra bod y derbyniad ym mis Rhagfyr ar gyfer y rhai sy’n mynd i mewn yn uniongyrchol i Lefel 6 ar ôl cydnabod dysgu blaenorol. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
YPR2
Hyd y cwrs:
2 Blynedd Llawn Amser
Gofynion mynediad:
Profiad gwaith perthansol

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Saith eithriad o arholiadau proffesiynol Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig.
02
Cyfraniad staff sydd â phrofiad o ddiwydiant, ac y mae eu gwybodaeth yn seiliedig ar ymchwil, at yr addysgu.
03
Y cyfle i astudio dramor.
04
Y cyfle i ymgymryd ag o leiaf dwy interniaeth yn ystod y rhaglen dair blynedd.
05
Sgiliau cyflogadwyedd wedi’u mewnblannu ym mhob modwl.
06
Amrywiaeth y modylau ac asesiadau dilys.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein rhaglen Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yn trochi myfyrwyr ym mhob agwedd ar ddatblygiad plant ifanc, gan bontio profiadau ymarferol gyda damcaniaethau plentyndod cynnar. Darganfyddwch sut mae damcaniaeth yn integreiddio ag ymarfer sy’n eich galluogi i feithrin twf cyfannol mewn dysgwyr ifanc. 

Yn eich blwyddyn gyntaf o’r rhaglen Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar, byddwch yn archwilio’r egwyddorion sylfaenol sy’n sail i addysg Blynyddoedd Cynnar.  Byddwch yn cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp ysgogol a gweithdai rhyngweithiol sydd wedi’u cynllunio i’ch cyflwyno i gysyniadau hanfodol mewn Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar.  Byddwch yn dechrau adeiladu sylfaen gadarn o wybodaeth ar draws ystod amrywiol o bynciau perthnasol mewn darlithoedd ysgogol.   Bydd y pwyslais ar ddysgu ymarferol yn eich darparu â sgiliau ymarferol i gymhwyso damcaniaethau’n effeithiol i’ch arfer eich hun, gan eich paratoi ar gyfer ystod o rolau Blynyddoedd Cynnar.

Chwarae Plant: Theori ac Arfer

(20 credydau)

Y 1000 diwrnod cyntaf

(20 credydau)

Datblygiad Dynol

(20 credydau)

Yr Ymarferydd Proffesiynol

(20 credydau)

Diogelu: arfer, deddfwriaeth a'r tîm amlddisgyblaethol

(20 credydau)

Lles, gofal a byw'n iach

(20 credydau)

Ymchwil ar gyfer Dysgu

(20 credydau)

Datblygu Sgiliau Academaidd Llwyddiannus

(20 credydau)

Gan adeiladu ar eich gwybodaeth,  bydd eich ail flwyddyn yn y rhaglen Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yn dyfnhau eich dealltwriaeth ac yn ehangu eich safbwyntiau.  Cymerwch ran mewn gweithdai ymarferol a chyfleoedd ar gyfer ymweliadau astudio arbenigol sy’n archwilio i faterion cymhleth a thueddiadau sy’n dod i’r amlwg mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar.  Ymgysylltwch â siaradwyr gwadd, arbenigwyr a fydd yn rhannu eu syniadau am bolisïau a datblygiadau cyfredol o fewn y sector Blynyddoedd Cynnar.  

Efallai y bydd cyfleoedd am ymweliadau preswyl dewisol o fewn y DU a thramor. Bydd y rhain yn cynnig profiadau diwylliannol amhrisiadwy ac yn cyfoethogi ymhellach eich dealltwriaeth o arferion byd-eang wrth i chi astudio i ennill Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar.

Iaith a Llythrennedd yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Syndod a rhyfeddod - gwyddoniaeth, mathemateg a'r awyr agored

(20 credydau)

Arweinyddiaeth a gwaith tîm yn y blynyddoedd cynnar

(20 credydau)

Lles, gofal a byw'n iach

(20 credydau)

Ymchwil ar gyfer Dysgu

(20 credydau)

Arweinyddiaeth Gynhwysol: gweithio gyda'n gilydd i gefnogi teuluoedd

(20 credydau)

Adennill Paradwys? Cynaliadwyedd yn y Blynyddoedd Cynnar

(20 credydau)

Cwricwla Blynyddoedd Cynnar

(20 credydau)

Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer systemau ansawdd

(20 credydau)

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Mae’r Blynyddoedd Cynnar yn annog ac yn gwerthfawrogi ceisiadau gan fyfyrwyr sy’n dychwelyd i addysg, gan y bydd ganddynt brofiadau a sgiliau bywyd a allai gefnogi eu mynediad i’r radd. 

    Yn gyffredinol, bydd myfyrwyr wedi ennill neu y byddant yn gweithio tuag at, cymhwyster perthnasol ar gyfer gofal plant/addysg lefel 3 fel NNEB, CACHE, BTEC, NVQ, lefel A. Fodd bynnag, mae profiad arall hefyd yn werthfawr. Byddant hefyd yn gweithio neu’n gwirfoddoli’n rheolaidd mewn lleoliad blynyddoedd cynnar neu weithle sy’n darparu gwasanaethau i blant a theuluoedd ifanc. 

    Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd ddarparu dogfen ddatgeliad well boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). â€¯â€¯&²Ô²ú²õ±è;

    °Õ³Ò´¡±«â€¯â€¯&²Ô²ú²õ±è;

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd.  &²Ô²ú²õ±è;

    Llwybrau mynediad amgen  &²Ô²ú²õ±è;

    Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:  &²Ô²ú²õ±è;

    • ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.   &²Ô²ú²õ±è;

    Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd.  &²Ô²ú²õ±è;

    • Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser.  &²Ô²ú²õ±è;

     Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor.  &²Ô²ú²õ±è;

    Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon.  &²Ô²ú²õ±è;

    Cyngor a Chymorth Derbyn  &²Ô²ú²õ±è;

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. &²Ô²ú²õ±è;
     
    Gofynion Iaith Saesneg  &²Ô²ú²õ±è;

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.  &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. &²Ô²ú²õ±è;

    Gofynion fisa ac ariannu &²Ô²ú²õ±è;

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.  &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.  &²Ô²ú²õ±è;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   &²Ô²ú²õ±è;

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.    &²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.  &²Ô²ú²õ±è;

    Bydd rhaid i bob ymgeisydd ddarparu dogfen datgeliad manylach boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

  • Mae’r rhaglen hon yn cynnig profiad galwedigaethol sy’n heriol yn academaidd ac yn ymgorffori dulliau addysgu ac asesu arloesol. Bydd disgwyl i fyfyrwyr fod yn weithredol wrth reoli eu profiad dysgu, bod yn greadigol a chymryd camau i’w datblygu eu hunain.

  • Cwrs Cyfrwng Cymraeg yw hwn. &²Ô²ú²õ±è;

    Golyga hyn bod y cwrs hwn ar gael yn llawn yn Gymraeg (360 Credyd/100%).  &²Ô²ú²õ±è;

    Os byddwch yn dewis astudio eich cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i gefnogi eich astudiaethau. 

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

     Yn ogystal, mae llawer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;

  • Mae’n rhaid i fyfyrwyr wneud cais am, a chael Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Y Drindod Dewi Sant. Mae’r ffi’n cael ei bennu gan y DBS; ar hyn o bryd, y ffi yw tua Â£44. 

    Mae’n rhaid i fyfyrwyr gael cyfwerth â 700 awr o brofiad ymarferol mewn lleoedd fel lleoliadau blynyddoedd cynnar. Bydd costau teithio a chostau lluniaeth yn sgil hyn.

    Efallai y bydd rhaid i fyfyrwyr dalu costau ychwanegol gan fod rhaid iddynt fynychu rhai darlithoedd modwl gyda dillad addas ar gyfer astudio yn yr awyr agored.

    Mae’r Blynyddoedd Cynnar yn trefnu profiadau astudio gorfodol a gweithgareddau cyfoethogi i fyfyrwyr. Bydd y rhageln yn talu am y costau teithio ac astudio a gyfyd yn sgil hyn. Fodd bynnag, ar gyfer rhai ymweliadau, bydd rhaid i fyfyrwyr gyflenwi eu lluniaeth eu hunain.

    Yn ogystal â hyn, mae’r Blynyddoedd Cynnar yn trefnu cyfleoedd dewisol i fyfyrwyr gael cymwysterau ychwanegol yn ystod rhan olaf eu rhaglen, er enghraifft Iechyd a Diogelwch, Amddiffyn. Bydd y rhain yn gofyn i’r myfyrwyr dalu costau; a chaiff y gost ei phennu gan y darparwr. 

    Mae’r rhaglen hefyd yn cynnig cyfleoedd dewisol i fyfyrwyr i gymryd rhan mewn ymweliadau tu hwnt i’r campws er enghraifft Caerdydd, Llundain, Sweden a Chanada. Rhaid i’r myfyrwyr dalu cost yr ymweliadau dewisol hyn.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Mae’r rhaglen Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar hon wedi’i chynnwys yn rhestr Gofal Cymdeithasol Cymru o gymwysterau gofynnol i weithio o fewn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru. Bydd gan fyfyrwyr sy’n cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus radd yn ogystal â thrwydded i arfer mewn ystod o rolau arfer a rheoli mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.

    Mae gan y rhaglen gyfradd cyflogadwyedd uchel ar gyfer graddedigion, sydd mewn gwaith o fewn chwe mis i gwblhau’r radd. Mae nifer sylweddol o raddedigion hefyd yn mynd ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig yn y brifysgol hon a rhai eraill.

    Mae’r Gyfadran yn cynnig gradd MSc Rheolaeth Ariannol i’r rheini sy’n dymuno astudio ymhellach.  Mae’r astudio hyblyg ar y rhaglen yn rhoi’r gallu i fyfyrwyr lywio’u hastudiaethau yn ôl eu huchelgais o ran gyrfa ac amgylchiadau personol.  Mae integreiddio myfyrwyr o’r DU, yr UE a myfyrwyr rhyngwladol ynghyd â chymdeithas cyn-fyfyrwyr gryf yn caniatáu rhwydweithio a sefydlu cyfeillgarwch hirdymor.

Mwy o gyrsiau Gwaith Ieuenctid ac Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar

Chwiliwch am gyrsiau