Ysgrifennu Creadigol gyda Blwyddyn Sylfaen (Llawn amser) (Sylfaen, BA Anrh)
Mae’r radd Ysgrifennu Creadigol gyda Blwyddyn Sylfaen yn cynnig amgylchedd ysbrydoledig a chefnogol i ddarpar awduron. Mae’r rhaglen hon, dan arweiniad safonau Cymdeithas Genedlaethol Awduron mewn Addysg (NAWE), wedi’i chynllunio i fagu eich hyder a datblygu’ch sgiliau wrth annog ymgysylltiad beirniadol â’ch gwaith creadigol.
Trwy gwricwlwm sydd wedi’i strwythuro’n ystyriol, byddwch yn archwilio hanfodion ysgrifennu ar draws gwahanol ffurfiau, gan gynnwys barddoniaeth, rhyddiaith a drama. Wrth i chi ddatblygu eich crefft, mae’r ffocws yn symud i dechnegau mwy datblygedig, megis ysgrifennu llais, ffurf, a lle, gan ganiatáu i chi arbrofi a mireinio’ch arddull.
Yn allweddol i’r rhaglen hon mae’r modylau arbenigol mewn ysgrifennu ffuglen a barddoniaeth, lle byddwch yn mireinio’ch sgiliau adrodd straeon a hunanfynegiant. Caiff y rhain eu cydbwyso gan bwyslais ar feddwl beirniadol ac arferion hunanadfyfyriol, gan eich helpu i asesu a gwella eich gwaith eich hun. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ymchwilio’n effeithiol a chymhwyso’r sgiliau hyn i greu prosiect annibynnol, gan arddangos eich galluoedd fel awdur.
Mae’r cwrs yn mynd y tu hwnt i fynegiant creadigol, gan roi i chi sgiliau hanfodol mewn golygu, ymchwil a chyhoeddi. Mae modylau penodol ar berfformiad a chyhoeddi yn rhoi mewnwelediad i sut i gyrraedd cynulleidfaoedd, gan hefyd gynnig dealltwriaeth ddyfnach o’r diwydiannau creadigol. Fe gewch wybodaeth werthfawr am sut y gellir addasu ysgrifennu i wahanol gyd-destunau, o lwyfannau digidol i gyfryngau traddodiadol.
Gyda ffocws ar gymwysiadau byd go iawn, mae’r rhaglen yn eich cyflwyno i ysgrifennu ar gyfer cyfryngau amrywiol, gan gynnwys sgriptio, newyddiaduraeth, creu cynnwys digidol, a gemau. Mae’r ymagwedd amrywiol hon yn sicrhau bod eich portffolio ysgrifennu yn adlewyrchu creadigrwydd a gallu amryddawn, gan eich paratoi ar gyfer cyfleoedd ym maes cyhoeddi, y cyfryngau a thu hwnt.
Erbyn diwedd y radd hon, bydd gennych ddealltwriaeth gynhwysfawr o grefft ysgrifennu, ochr yn ochr â phortffolio caboledig ac ymdeimlad clir o gyfeiriad o fewn y sectorau creadigol. P’un ai dod yn awdur proffesiynol, cyfrannu at y byd cyhoeddi, neu ddefnyddio eich sgiliau mewn meysydd creadigol eraill yw eich uchelgais, mae’r rhaglen hon yn gosod y sylfaen ar gyfer llwyddiant.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Cyfunol (ar y campws)
- Saesneg
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Credwn mewn meithrin creadigrwydd, meddwl beirniadol, a hunanfynegiant. Mae ein dull addysgu yn cyfuno fframweithiau academaidd trylwyr â chyfleoedd i roi’r rhain ar waith yn ymarferol, gan sicrhau eich bod yn tyfu fel awdur a meddyliwr. Trwy fentoriaeth gefnogol, ein nod yw datblygu eich llais unigryw wrth roi i chi’r sgiliau i ragori mewn cyd-destunau creadigol a phroffesiynol amrywiol.
Gorfodol
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
Dewisol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Byddwch yn archwilio barddoniaeth, rhyddiaith a drama trwy fodiwlau rhagarweiniol. Bydd y cyrsiau hyn yn eich helpu i ddeall hanfodion gwahanol genres a ffurfiau. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn sesiynau gweithdy, yn trafod eich gwaith gyda chyfoedion ac yn derbyn adborth gan diwtoriaid i fireinio eich sgiliau ysgrifennu.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credydau)
Mae’r flwyddyn hon yn ehangu eich ffocws, gyda phwyslais ar ysgrifennu llais, ffurf, a lle. Byddwch yn ymchwilio’n ddyfnach i ffuglen a barddoniaeth ac yn dechrau archwilio agweddau beirniadol a hunanfyfyriol ysgrifennu. Bydd modiwlau ar ymchwil ac archifo yn eich paratoi i gynhyrchu prosiect annibynnol estynedig.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(60 Credyd)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credits)
Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn canolbwyntio ar greu darn mawr o waith, a allai arwain at gyhoeddi. Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithdai uwch, yn derbyn hyfforddiant un-i-un a chefnogaeth gan wahanol awduron. Yn ogystal, byddwch yn dysgu am wahanol agweddau ar y diwydiant ysgrifennu, gan gynnwys adolygu, golygu ac ysgrifennu i friff, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiannau creadigol.
Gorfodol
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Course Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
TGAU neu brofiad proffesiynol perthnasol.
°Õ³Ò´¡±«â€¯â€¯&²Ô²ú²õ±è;
Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd.  &²Ô²ú²õ±è;
Cyngor a Chymorth Derbyn  &²Ô²ú²õ±è;
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. &²Ô²ú²õ±è;
Gofynion Iaith Saesneg  &²Ô²ú²õ±è;Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.  &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. &²Ô²ú²õ±è;
Gofynion fisa ac ariannu &²Ô²ú²õ±è;
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.  &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.  &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   &²Ô²ú²õ±è;
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.    &²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.  &²Ô²ú²õ±è;
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  &²Ô²ú²õ±è;
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. &²Ô²ú²õ±è;
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg
-
Asesir y rhaglen mewn amrywiaeth o ffyrdd a fydd yn cynnwys nifer o’r mathau a ganlyn o asesiad: traethodau rhwng 1,000 a 4,000 o eiriau, dadansoddi dogfen, adolygiadau llyfrau/cyfnodolion, adroddiadau byr a dyddlyfrau adfyfyriol, profion amser, arholiadau a welir ac nas gwelir ymlaen llaw, dyddlyfrau maes, posteri, cyflwyniadau grŵp ac unigol, traethodau hir 10,000 o eiriau, wicis, sylwebaethau a gwerthusiadau ffilm.
-
Mae’r Gyfadran wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.
Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.
Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn £20.
Taith Maes ddewisol:
Mae’r Gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol. Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud. Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian. Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.
Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): oddeutu £500 i £1,500
Teithiau unigol: oddeutu £5 i £50 -
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
-
Mae’r Cyfleoedd gyrfaol a gwaith yn eang iawn, ac yn cynnwys:
- Swyddi gweinyddol a rheoli
- Gwaith Cymuned
- Gwaith llawrydd fel ysgrifennu copi, golygu
- Ysgrifennu creadigol annibynnol ac a gomisiynir
- Marchnata a chodi arian
- Cyhoeddi
- Addysgu
- Ysgrifennu ar gyfer ffilm, teledu a chyfryngau