Ysgrifennu Creadigol (Rhan amser) (PGDip)
Mae ein cwrs Ysgrifennu Creadigol Ôl-raddedig wedi’i gynllunio ar gyfer pobl sydd eisiau tyfu fel ysgrifenwyr, gwella eu crefft ysgrifennu ac adeiladu portffolio cryf o waith. Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithdai ysgrifennu dan arweiniad tiwtoriaid ac awduron cyhoeddedig. Yn y sesiynau hyn, byddwch yn rhannu eich ysgrifennu, yn rhoi ac yn cael adborth, ac yn dysgu technegau newydd.
Byddwch yn archwilio gwahanol ffurfiau o ysgrifennu, fel barddoniaeth, rhyddiaith, straeon byrion a ffeithiol. Mae pob gweithdy yn eich helpu i feithrin sgiliau a hyder yn eich llais ysgrifennu.
Mae’r cwrs hwn hefyd yn eich paratoi ar gyfer ysgrifennu yn y byd go iawn. Byddwch yn cwrdd ag asiantau llenyddol, golygyddion a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes cyhoeddi. Byddwch yn dysgu sut i anfon eich gwaith allan a beth i’w ddisgwyl wrth geisio cael eich cyhoeddi. Bydd y profiadau hyn yn cefnogi eich taith i ysgrifennu proffesiynol ac yn eich helpu i adeiladu gyrfa yn y diwydiannau creadigol. Fel rhan o’ch astudiaethau, byddwch yn mynychu digwyddiadau llenyddol, darlleniadau a thrafodaethau ar-lein. Byddwch yn cysylltu ag awduron eraill ac yn rhan o gymuned greadigol.
Byddwch hefyd wedi’ch paratoi’n dda ar gyfer gyrfa mewn cyhoeddi, addysgu, neu rolau eraill yn y celfyddydau a’r cyfryngau. P’un a ydych chi eisiau ysgrifennu i chi’ch hun neu fynd â’ch ysgrifennu ymhellach, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddod o hyd i’ch llwybr.
Manylion y cwrs
- Ar-lein
- Dysgu o bell
- Rhan amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Credwn fod awduron yn dysgu orau drwy ymarfer, adborth a darllen manwl. Mae ein cwrs yn cyfuno datblygiad creadigol â meddwl beirniadol, gan eich helpu i feithrin hyder, sgiliau ac annibyniaeth. Byddwch yn dysgu gan diwtoriaid profiadol a chyfoedion mewn gofod cynhwysol a chefnogol sy’n gwerthfawrogi eich llais ac yn eich annog i gymryd risgiau creadigol.
Byddwch yn archwilio sylfeini crefft ysgrifennu drwy weithdai craidd mewn barddoniaeth a rhyddiaith. Byddwch yn dysgu sut i ddarllen fel awdur, gan ddadansoddi testunau i ddatgelu technegau creadigol. Mae modiwlau ymarferol yn canolbwyntio ar ddatblygu eich llais a chynhyrchu drafftiau cynnar, tra bod adborth gan gymheiriaid yn eich helpu i fyfyrio a gwella. Byddwch yn dechrau datblygu arfer ysgrifennu rheolaidd a chymryd rhan yn y diwylliant llenyddol ehangach.
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 Credydau)
Course Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Gradd anrhydedd 2:2 
-
neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS.
Cyngor a Chymorth Derbyn 
I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg 
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
 Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. 
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. 
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr. â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. 
-
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg. â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. 
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol. â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg
-
Caiff y rhaglen ei hasesu mewn amrywiaeth o ffyrdd a gall gynnwys traethodau, adolygiadau llyfrau, adroddiadau byr a chyfnodolion myfyriol, cyflwyniadau grŵp ac unigol a thraethawd hir.
-
Efallai cewch gyfle i fynychu cynhadledd neu ddigwyddiad allanol perthnasol, ac efallai y bydd disgwyl i chi gyfrannu at y costau hyn.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
-
Mae’r Cyfleoedd gyrfaol a gwaith yn eang iawn, ac yn cynnwys:
- Gwaith llawrydd fel ysgrifennu copi, golygu
- Ysgrifennu creadigol annibynnol ac a gomisiynir
- Marchnata a chodi arian
- Cyhoeddi
- Addysgu
- Ysgrifennu ar gyfer ffilm, teledu a chyfryngau