ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (Rhan Amser) (MA)

Caerfyrddin
3 blynedd rhan amser
Gradd Israddedig (o leiaf 2:2)

Yn y byd newidiol sydd ohoni, mae iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc yn bwysicach nag erioed. Mae’r rhaglen MA Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc yn cynnig cyfle hyblyg a chyfoethog i ymarferwyr proffesiynol a graddedigion ddyfnhau eu dealltwriaeth o’r heriau cymhleth sy’n wynebu pobl ifanc heddiw.

Wedi’i gynllunio ag ymarferwyr proffesiynol mewn golwg, mae’r llwybr rhan-amser hwn yn caniatáu i chi gyd-bwyso eich astudiaethau ochr yn ochr ag ymrwymiadau presennol wrth ennill gwybodaeth arbenigol a sgiliau ymarferol. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ymyraethau therapiwtig a chefnogol seiliedig ar dystiolaeth, gyda phwyslais cryf ar arfer wedi’i seilio ar drawma, chwarae wedi’i seilio ar natur a dulliau ymchwil cyfranogol sy’n blaenoriaethu llais y plentyn.

Trwy gydol y cwrs, byddwch yn archwilio ystod eang o bynciau iechyd meddwl gan gynnwys ADHD, gorbryder, profedigaeth, trawma yn ystod plentyndod, ac anhwylderau ymlyniad. Byddwch hefyd yn ymgysylltu ag ymagweddau arloesol at gefnogi llesiant, fel therapïau awyr agored ac ymyraethau creadigol, oll wedi’u gwreiddio mewn damcaniaeth ac ymchwil seicolegol cyfredol.

Mae ein model dysgu cyfunol yn cyfuno astudio ar-lein Ã¢ sesiynau wyneb yn wyneb, gan greu amgylchedd cefnogol a chydweithredol ble gallwch gysylltu Ã¢ chymheiriaid ac ymarferwyr profiadol. Byddwch yn datblygu’r hyder a’r gallu i gymhwyso’r hyn rydych wedi’i ddysgu mewn lleoliadau go iawn, boed ym maes addysg, gofal cymdeithasol, cwnsela neu wasanaethau ieuenctid.

Mae’r rhaglen hon yn ddelfrydol ar gyfer y rheiny sy’n angerddol am wneud gwahaniaeth ystyrlon ym mywydau plant a phobl ifanc. P’un a ydych yn gobeithio gwella eich rôl gyfredol neu gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa, bydd yr MA mewn Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc yn rhoi i chi’r offer i arwain, cefnogi, ac eirioli ar gyfer deilliannau iechyd meddwl positif.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Cyfunol (ar y campws)
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
  • Dwyieithog
Hyd y cwrs:
3 blynedd rhan amser
Gofynion mynediad:
Gradd Israddedig (o leiaf 2:2)

Pam dewis y cwrs hwn

01
Gwella eich gwybodaeth am iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
02
Dysgu am ymyriadau a strategaethau ymddygiadol a therapiwtig ar gyfer ymarfer dyddiol wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc.
03
Manteisio ar addysgu mewn grwpiau bach mewn amgylchedd dysgu cefnogol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein hathroniaeth dysgu ac addysgu yn canolbwyntio ar ddarparu amgylchedd rhyngweithiol a chefnogol lle gallwch ddatblygu meddwl beirniadol a sgiliau ymarferol. Rydym yn blaenoriaethu profiad ymarferol a chydweithio, gan eich annog i ymgysylltu â heriau’r byd go iawn ym maes iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

Byddwch yn ennill gwybodaeth sylfaenol am iechyd meddwl plant a phobl ifanc, gan archwilio cysyniadau a damcaniaethau allweddol. Mae hyn yn cynnwys deall cyflyrau iechyd meddwl amrywiol a’u heffaith ar ddatblygiad. Rhoddir pwyslais ar arferion therapiwtig sy’n seiliedig ar dystiolaeth a phwysigrwydd dulliau cyfranogol wrth gefnogi lles pobl ifanc.

Wrth i chi symud ymlaen, byddwch yn canolbwyntio ar ymyriadau uwch a methodolegau ymchwil. Mae’r cam hwn yn dyfnhau eich dealltwriaeth o faterion iechyd meddwl penodol, fel ADHD a thrawma yn ystod plentyndod. Byddwch hefyd yn ennill sgiliau ymarferol mewn chwarae therapiwtig ac arferion sy’n seiliedig ar natur, gan eich darparu Ã¢â€™r sgiliau i gymhwyso’r ymyriadau hyn mewn lleoliadau yn y byd go iawn. Bydd prosiectau cydweithredol yn cyfoethogi eich profiad dysgu ymhellach.

I’r rhai sydd eisiau ehangu eu sgiliau ymchwil gyda phlant a phobl ifanc, mae ein modwl dulliau ymchwil unigryw yn archwilio methodolegau creadigol sy’n briodol i ymchwilio gyda phobl ifanc, gan gynnwys dulliau cyfranogol, y dull mosaig, darluniau, ac adrodd straeon. 

Deall trawma ac anghenion iechyd meddwl plant

(30 credydau)

Chwarae Therapiwtig a Chwarae Seiliedig ar Natur

(30 credyd)

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD): Gwaith Ymchwil ac Arfer

(30 credydau)

Dulliau ymchwil ar gyfer plant a phobl ifanc

(30 credyd)

Traethawd Hir Ymchwil Gymhwysol

(60 credydau)

Ymwrthodiad

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer byddwch yn cwblhau 180 credyd ar gyfer rhaglen Meistr. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Er y gallwn ni ystyried ceisiadau gan rai sydd â chefndir mewn maes cysylltiedig agos neu ar sail nodweddion eraill sy’n cynnwys profiad mewn maes cysylltiedig, oherwydd natur y rhaglen hon, byddai hyn yn dibynnu ar asesiad o sgiliau ysgrifennu academaidd ac ymchwil priodol.

    Gradd anrhydedd 2:2  

    • neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS. 

    Llwybrau mynediad amgen  

    • Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch (Tyst. Ôl-radd). Dyma ran gyntaf y radd Meistr lawn. 

    Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau Tyst. Ôl-radd yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i weddill y radd Meistr. &²Ô²ú²õ±è;

    Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch gyflawni’n raddau roeddech eu hangen i gael lle ar y radd hon. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

     Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. 

  • Mae asesiadau wedi’u cynllunio i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd eang trwy amrywiol asesiadau arloesol â ffocws proffesiynol. Maen nhw’n cynnwys portffolios proffesiynol, adolygiadau systematig, cyflwyniadau, ymgyrchoedd hyrwyddo, strategaethau ymyrryd, cynigion ymchwil, a thraethodau traddodiadol.

  • .

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. 

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae myfyrwyr yr MA hwn yn aml yn weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant (addysg, iechyd a gofal cymdeithasol) a hoffai ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau er mwyn helpu i ddarparu cymorth pellach i blant a phobl ifanc mewn byd o anghenion ac anawsterau cymhleth sy’n newid yn barhaus. Gall ymarferwyr ddefnyddio’r modiwlau a ddewiswyd yn ofalus o fewn yr MA hwn i gefnogi dyrchafiad yn eu gwaith presennol neu weithredu fel sbringfwrdd i rôl fwy arbenigol.

    Mae angen astudiaethau ôl-raddedig fwyfwy er mwyn gwella rhagolygon cyflogaeth a rhoi mantais i raddedigion mewn marchnad gyflogaeth gystadleuol. Mae cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus yn dangos eich bod wedi datblygu gwybodaeth arbenigol a sgiliau lefel uwch mewn dadansoddi ac ymchwil.