
MSc Seicoleg Gymhwysol (Rhan amser) (MSc)
Datgloi pŵer seicoleg yn y byd go-iawn gyda’n MSC mewn Seicoleg Gymhwysol ar Gampws Abertawe
Ydych chi’n angerddol am ddeall pobl a gyrru newid ystyrlon? Mae ein MSc Ôl-raddedig mewn Seicoleg Gymhwysol yn rhoi’r sgiliau i chi fynd i’r afael â heriau’r byd go-iawn drwy wyddor seicoleg.
Mae’r rhaglen Meistr mewn Seicoleg Gymhwysol yn canolbwyntio ar sut y gellir defnyddio seicoleg mewn bywyd bod dydd i wneud gwahaniaeth. Mae’n ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n edrych i gymhwyso ei wybodaeth o seicoleg i yrfaoedd ym meysydd fel iechyd a gofal cymdeithasol, rheolaeth, adnoddau dynol, addysgu, marchnata neu gyfathrebu. Yn ogystal, mae’n gam gwych ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb mewn astudiaethau proffesiynol pellach neu astudiaethau doethurol mewn seicoleg neu feysydd cysylltiedig.
Dysgwch sut i lunio’r byd o’n cwmpas!
Drwy gymhwyso egwyddorion seicolegol sydd wedi’u profi’n wyddonol, byddwch yn dysgu sut gallwn ni gael effaith gadarnhaol ar unigolion, cymunedau, sefydliadau a chymunedau cyfan, gan eu helpu i gyflawni eu nodau. P’un a yw’n hyrwyddo iechyd, deall iechyd meddwl, neu wella deinameg y gweithle, mae seicoleg yn chwarae rôl hanfodol wrth lunio’r byd o’n cwmpas.
Datblygwch sgiliau proffesiynol a rhyngbersonol cryf
Ochr yn ochr â datblygu eich dealltwriaeth flaengar o egwyddorion seicoleg gymhwysol, cewch gyfle i ddatblygu sgiliau proffesiynol, sgiliau ymchwil a sgiliau pobl cryf. Mae hyn yn cynnwys datblygu eich sgiliau a dealltwriaeth ar sut i gefnogi unigolion sy’n agored i niwed a phoblogaethau cleifion, deall yr heriau ynghylch ffyniant dynol, ac annog newid ymddygiadol effeithiol.
Gallwch deilwra eich prosiect ymchwil i’ch diddordebau a’ch gyrfa eich hun!
Mae’r rhaglen hon yn eich galluogi i ddewis a chynnal eich prosiect ymchwil annibynnol cyffrous eich hun mewn maes seicoleg gymhwysol yr ydych yn angerddol yn ei gylch – gan helpu i lunio eich MSc i gynyddu eich cyflogadwyedd!
Mae labordai Seicoleg pwrpasol yn darparu myfyrwyr â’r cyfle i ddatblygu profiad ymarferol gydag ystod o sgiliau ymchwil ac offer mesur ochr yn ochr â’r cyfle i ddatblygu hyder mewn sgiliau cyfathrebu a chefnogi allweddol ar gyfer y gweithle.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Rhan amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn archwilio sut y gellir defnyddio gwybodaeth seicolegol i wella bywydau, gwella llesiant a chefnogi newid cadarnhaol ar draws ystod o leoliadau.
Byddwch yn archwilio sut y mae pobl yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn mewn sefyllfaoedd yn y byd go-iawn – o gefnogi iechyd meddwl a hyrwyddo ffyrdd o fyw iach, i ddeall yr heriau a wynebir gan gymunedau amrywiol. Byddwch yn datblygu sylfaen gadarn mewn dulliau ymchwil, ochr yn ochr â sgiliau ymarferol mewn newid ymddygiad, arweinyddiaeth a mentora.
Yn ogystal, byddwch yn archwilio sut mae diwylliant, cymuned a niwroamrywiaeth yn llywio profiadau pobl, a sut y gellir defnyddio seicoleg i gefnogi cynhwysiant a gwydnwch. Mae’r rhaglen yn eich annog i feddwl yn feirniadol, cymhwyso eich dysgu’n greadigol ac adfyfyrio ar eich rôl fel gweithiwr proffesiynol moesegol a thosturiol.
Rhan allweddol o’r cwrs yw eich prosiect ymchwil annibynnol, y gallwch ei deilwra i’ch diddordebau a’ch nodau gyrfa eich hun. P’un a ydych yn angerddol am iechyd meddwl, seicoleg iechyd, neu faterion cymdeithasol a gwleidyddol, byddwch yn cael y cyfle i archwilio’r pynciau sy’n bwysig i chi.
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i adeiladu eich gwybodaeth academaidd a’ch hyder wrth gymhwyso seicoleg i heriau’r byd go-iawn – gan helpu i’ch paratoi ar gyfer gyrfa ystyrlon ac effeithiol.
(30 Credyd )
(30 Credyd )
(30 Credyd )
(30 Credyd )
(60 Credyd )
Ymwrthodiad
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Er y gallwn ni ystyried ceisiadau gan rai sydd â chefndir mewn maes cysylltiedig agos neu ar sail nodweddion eraill sy’n cynnwys profiad mewn maes cysylltiedig, oherwydd natur y rhaglen hon, byddai hyn yn dibynnu ar asesiad o sgiliau ysgrifennu academaidd ac ymchwil priodol.
Gradd anrhydedd 2:2 
-
neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS.
Cyngor a Chymorth Derbyn 
I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg 
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
 Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. 
-
-
Mae asesiadau wedi’u cynllunio i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd eang trwy amrywiol asesiadau arloesol â ffocws proffesiynol. Maen nhw’n cynnwys portffolios proffesiynol, adolygiadau systematig, cyflwyniadau, ymgyrchoedd hyrwyddo, strategaethau ymyrryd, cynigion ymchwil, a thraethodau traddodiadol.
-
DBS (os oes ei angen ar gyfer Rhan II)
£49.50
Dewisol: Ymweliad allanol e.e. cynhadledd leol neu ddigwyddiad (cofrestru, teithio a llety) = £250.00
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae gradd mewn seicoleg gymhwysol yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd gyrfa. Mae graddedigion ein rhaglen yn cael eu paratoi i ddilyn llwybrau gyrfa amrywiol, gan gynnwys addysg, lleoliadau iechyd a gofal, amgylcheddau corfforaethol, sefydliadau dielw, ac asiantaethau’r llywodraeth. Yn ogystal, mae’n cynnig sylfaen gadarn ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno dilyn llwybr PhD neu yrfa academaidd.