ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Seicoleg a Chwnsela (Rhan amser) (BSc Anrh)

Abertawe
6 Mlynedd Rhan amser
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Mae ein gradd BSc rhan amser mewn Seicoleg a Chwnsela yn ddelfrydol os oes gennych ddiddordeb mewn deall sut mae’r meddwl yn gweithio ac eisiau helpu eraill. Mae’r cwrs hwn yn rhoi sylfaen gadarn i chi o ran sut mae’r ymennydd yn dylanwadu ar ymddygiad ac iechyd meddwl. Byddwch hefyd yn dysgu sgiliau cwnsela allweddol, yn ogystal ag archwilio’r gwahanol ddamcaniaethau a thystiolaeth sy’n esbonio pam mae pobl yn meddwl ac yn ymddwyn fel y maent.

Mae’r rhaglen hon wedi’i hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS), gan sicrhau y cewch addysg o ansawdd uchel. Byddwch yn archwilio dulliau integreiddiol a therapi sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan ddysgu am wahanol therapïau seicolegol sy’n helpu pobl i wella eu bywydau. Yn ogystal â hyn, bydd y cwrs yn eich helpu i ddatblygu sgiliau ymchwil allweddol a mynd i’r afael â materion ymarferol sy’n codi yn y maes.

Mae’r cwrs yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, o brosesau niwrowyddonol i ddeall seicoleg fforensig ac ymddygiadau sy’n gysylltiedig ag iechyd. Byddwch yn dysgu datblygu sgiliau dadansoddi beirniadol, gan eich galluogi i werthuso ymchwil a deall syniadau cymhleth mewn seicoleg. Erbyn diwedd y rhaglen, bydd gennych ddealltwriaeth gref o sut mae’r meddwl, yr ymennydd, ymddygiad a phrofiad yn rhyngweithio â’r amgylcheddau o’u cwmpas.

Mae’r radd hon hefyd yn canolbwyntio ar gwnsela fel swyddogaeth gymdeithasol, gan eich helpu i archwilio sut mae cwnsela’n cael ei ddylanwadu gan gyd-destunau unigol, cymdeithasol a byd-eang. Drwy ddeall y dylanwadau ehangach hyn, byddwch mewn sefyllfa well i gefnogi eraill mewn amrywiaeth o leoliadau.

Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn elwa o awyrgylch dysgu cadarnhaol, cyfleusterau pwrpasol, a chefnogaeth darlithwyr sy’n gweithio ym maes ymchwil a chydag ymarferwyr. Bydd yr arbenigwyr hyn yn gweithio’n agos gyda chi, gan roi arweiniad a rhannu eu profiadau eu hunain o faes seicoleg a chwnsela. Yn ogystal, cewch gyfle i ddatblygu sgiliau cwnsela ymarferol a chael profiad gwerthfawr yn y gweithle, gan eich paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

Mae’r radd BSc rhan amser mewn Seicoleg a Chwnsela yn cynnig hyblygrwydd, gan ganiatáu i chi astudio ar eich cyflymder eich hun wrth gydbwyso ymrwymiadau eraill. Os ydych chi eisiau cael dealltwriaeth wyddonol o’r meddwl a datblygu sgiliau cwnsela a all wneud gwahaniaeth i fywydau pobl, mae’r cwrs hwn yn darparu llwybr cyffrous ac ymarferol i fyd seicoleg a chwnsela.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
6 Mlynedd Rhan amser
Gofynion mynediad:
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Achrededig:
The British Psychological Society

Pam dewis y cwrs hwn

01
Labordai Seicoleg newydd sy’n annog sgiliau meddwl beirniadol, datrys problemau ac ymchwilio.
02
Datblygu dealltwriaeth o ystod o sgiliau cwnsela a rhyngbersonol a werthfawrogir gan lawer o gyflogwyr a chyrsiau ôl-raddedig.
03
Cynorthwyo ac arwain myfyrwyr ar bob lefel trwy ddarlithoedd, seminarau mewn grwpiau bach a gweithdai.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Yn y rhaglen Seicoleg a Chwnsela hon, cewch sylfaen gadarn mewn damcaniaethau seicolegol, sgiliau cwnsela, a dulliau ymchwil.  Mae pob blwyddyn yn adeiladu ar y flwyddyn flaenorol, gan eich paratoi am yrfa broffesiynol ym maes seicoleg neu gwnsela.

Yn eich blwyddyn gyntaf a’ch ail flwyddyn, cewch eich cyflwyno i hanfodion seicoleg. Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil sylfaenol ac yn dechrau dysgu am iechyd meddwl a phersonoliaeth. Mae’r flwyddyn hon yn gosod y sylfeini ar gyfer deall ymddygiad dynol a sut i helpu pobl eraill. 

Gorfodol 

Cyflwyniad i Sgiliau Cwnsela

(20 credydau)

Materion Cysyniadol a Hanesyddol mewn Seicoleg

(20 credydau)

Sgiliau Astudio ar gyfer Seicoleg

(20 credydau)

Gorfodol 

Hanes Cwnsela

(20 credydau)

Dulliau Ymchwil I

(20 credydau)

Personoliaeth a Gwahaniaethau Unigol

(20 credydau)

Yn eich trydedd a’ch pedwaredd flwyddyn, byddwch yn archwilio’n ddyfnach i sgiliau cwnsela a dulliau cyfunol.  Byddwch yn astudio damcaniaethau seicolegol mwy datblygedig ac yn mynd i’r afael â materion ymarferol o’r byd go iawn drwy astudiaethau achos.  Mae’r flwyddyn hon yn canolbwyntio ar gymhwyso damcaniaethau a thystiolaeth i wella eich sgiliau meddwl yn feirniadol ac ymchwil

Gorfodol 

Yr Ymennydd, Bioleg a Gwybyddiaeth

(20 credydau)

Seicoleg Gymdeithasol a Diwylliannol

(20 credydau)

Damcaniaeth a Dulliau Cwnsela

(20 credydau)

Gorfodol 

Dulliau Ymchwil II

(20 credydau)

Seicoleg Datblygiad a Gwahaniaethau Unigol

(20 credydau)

Sgiliau Cwnsela Pellach

(20 credydau)

Mae’r bumed flwyddyn a’r flwyddyn olaf yn pwysleisio ymarfer proffesiynol ac yn eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn seicoleg neu gwnsela. Byddwch yn cynnal ymchwil annibynnol, gan ganolbwyntio ar y maes sydd o ddiddordeb i chi.  Mae’r flwyddyn hon yn gwella eich sgiliau dadansoddi beirniadol ac yn darparu gwybodaeth fanwl am therapi sy’n canolbwyntio ar unigolion a dulliau therapiwtig eraill. 

Gorfodol 

Prosiect Empirig Seicoleg

(40 credydau)

Sgiliau Cwnsela Adfyfyriol

(20 credydau)

Dewisol

Seicoleg Fforensig a’r Meddwl Troseddol

(20 credydau)

Niwrowyddoniaeth Biolegol a Gwybyddol

(20 credydau)

Seicoleg Rhagfarn a Gwahaniaethu

(20 credydau)

Iechyd Meddwl mewn Plant a Phobl Ifanc

(20 credydau)

Gwybyddiaeth ar waith

(20 credydau)

Therapi Ymddygiad Gwybyddol a Therapïau Gwybyddol Newydd

(20 credydau)

Gwybodaeth a Hunaniaeth Gymdeithasol

(20 credydau)

Ecoseicoleg

(20 credydau)

Moeseg, Gwerthoedd, a’r Hunan Proffesiynol

(20 credydau)

Seicoleg, Iechyd a Salwch

(20 credydau)

Seicopatholeg ac Iechyd Meddwl

(20 credydau)

Seicoleg Addysg a Heneiddio

(20 credydau)

Dewisol

Seicoleg Fforensig a’r Meddwl Troseddol

(20 credydau)

Niwrowyddoniaeth Biolegol a Gwybyddol

(20 credydau)

Iechyd Meddwl mewn Plant a Phobl Ifanc

(20 credydau)

Therapi Ymddygiad Gwybyddol a Therapïau Gwybyddol Newydd

(20 credydau)

Gwybodaeth a Hunaniaeth Gymdeithasol

(20 credydau)

Gwybyddiaeth ar Waith

(20 credydau)

Seicoleg Rhagfarn a Gwahaniaethu

(20 credydau)

Ecoseicoleg

(20 credydau)

Moeseg, Gwerthoedd, a’r Hunan Proffesiynol

(20 credydau)

Seicoleg, Iechyd a Salwch

(20 credydau)

Seicopatholeg ac Iechyd Meddwl

(20 credydau)

Seicoleg Addysg a Heneiddio

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 96-112 o Bwyntiau Tariff UCAS  

    • e.e. Safon Uwch: CCC-BBC, BTEC: MMM-DMM, IB: 30-32  

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;

    °Õ³Ò´¡±«â€¯ 

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;

    Llwybrau mynediad amgen  

    Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:  

    • ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.   

    Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd. &²Ô²ú²õ±è;

    • Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser. &²Ô²ú²õ±è;

     Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor. &²Ô²ú²õ±è;

    Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

     Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.

  • Bydd y rhaglen hon yn cynnig ystod o ddulliau asesu traddodiadol ac arloesol i roi’r cyfle ichi ymestyn eich sgiliau ymarferol ac academaidd ac annog eich dysgu annibynnol. Bydd y rhain yn cynnwys asesiadau o sgiliau ymarferol,  traethodau ac arholiadau academaidd, cyflwyniadau unigol a grŵp, adroddiadau ymchwil ac astudiaethau achos.

  • Mae’n rhaid i fyfyrwyr wneud cais am, a chael, Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Y Drindod Dewi Sant. Mae’r ffi’n cael ei bennu gan y DBS; ar hyn o bryd, y ffi yw tua Â£44.

    Rhaid i fyfyrwyr gael 20 awr o brofiad ar leoliad gwirfoddol drwy gydol yr ail flwyddyn, ac efallai y bydd angen DBS ar gyfer hyn (gweler uchod). Bydd y lleoliad hwn hefyd yn galw am gostau teithio a lluniaeth y bydd rhaid i’r myfyriwr eu talu.

    Mae’r Ysgol hefyd yn cynnig cyfleoedd dewisol i fyfyrwyr gymryd rhan mewn ymweliadau tu hwnt i’r campws er enghraifft Caerdydd neu Lundain. Rhaid i’r myfyrwyr dalu cost yr ymweliadau dewisol hyn.

    Mynychu Cynhadledd Myfyrwyr BPS (Dewisol) Â£100.

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. 

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r llwybr ôl-raddedig yn amlweddog ac ni fydd pob un o’r graddedigion yn dewis dilyn cymwysterau mewn Seicoleg neu Gwnsela.  Mae strwythur, natur a chynnwys y rhaglenni cydanrhydedd unigryw hon yn caniatáu i’n myfyrwyr ddatblygu sgiliau dadansoddol a throsglwyddadwy cryf a groesawir gan nifer o sectorau yn cynnwys Addysg, Gofal Cymdeithasol, Nyrsio a’r galwedigaethau cysylltiedig, Busnes ac AD.  Mae gan lawer o’n myfyrwyr mynediad ansafonol yrfa proffesiynol yn barod (mae enghreifftiau diweddar yn cynnwys nyrsio, ffisiotherapi a gyrfaoedd mewn iechyd meddwl) ac yn defnyddio eu gradd i ddatblygu eu gyrfa ymhellach.

    Mae myfyrwyr sy’n graddio ag o leiaf anrhydedd ail ddosbarth is (2:2) yn gymwys am Sail Raddedig Aelodaeth Siartredig (GBC) Cymdeithas Seicolegol Prydain. Dynoda hyn fod myfyrwyr wedi bodloni’r gofynion cwricwlwm sy’n deillio o ddatganiad meincnod pwnc yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (2007) ar gyfer Seicoleg, ac yn aml mae’n rhagofyniad pwysig ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno mynd yn eu blaenau i ddilyn astudiaeth neu hyfforddiant ôl-raddedig mewn seicoleg.

    Dros y pum mlynedd diwethaf mae cyfran uchel o fyfyrwyr y rhaglen wedi graddio gydag anrhydedd 2:1 ac uwch ac wedi mynd ymlaen i hyfforddiant ôl-raddedig pellach ar gyrsiau ôl-raddedig a achredir gan y BPS (y llwybrau poblogaidd yw’r Meistr mewn Seicoleg Glinigol/Annormal, Seicoleg Alwedigaethol a Seicoleg Iechyd), yn ogystal â dilyn cymhwyster Meistr ar yr MSc mewn Seicoleg Gymdeithasol ac Iechyd a gynigir yn YDDS.

    Hefyd, mae nifer gynyddol o fyfyrwyr yn dewis dilyn hyfforddiant cwnsela ôl-raddedig seiliedig ar arfer ar lefel ôl-raddedig neu feistr trwy’r portffolio ôl-raddedig a gynigir yn YDDS, ac mae nifer o fyfyrwyr yn aros gyda ni i hyfforddi am gymhwyster ar y rhaglen MA Arfer Seicotherapiwtig: Dyngarol.