Y darlunydd ac awdur plant Ocean Hughes yn dychwelyd i PCYDDS i ysbrydoli myfyrwyr BA Darlunio
Yn ddiweddar, cafodd myfyrwyr o raglen BA Darlunio PCYDDS gyfle cyffrous i fynychu cyflwyniad ysbrydoledig gan y darlunydd, y gwneuthurwr a’r awdur enwog Ocean Hughes.

Yn gyn-fyfyriwr yng Ngholeg Celf Abertawe’r Brifysgol, mae Ocean yn ddarlunydd sy’n gweithio yn y cyfryngau traddodiadol a digidol yn ogystal â serameg, ffabrigau a chrefftau eraill. Mae hi wedi creu gwaith celf ar gyfer teitlau fel ‘You are Enough‘ gan Jess Sanders, a gyhoeddwyd gan Affirm Press (2022) a enillodd iddi wobr ‘Best in Design’ yng Ngwobrau Dylunio Awstralia, a chyfres lyfrau Bartholomew Bear a gyhoeddwyd gan Jellycat. Mae hi hefyd yn dylunio cymeriadau anifeiliaid moethus ar gyfer Jellycat yn ogystal â dylunio, gweithgynhyrchu a gwerthu ei hystod ei hun o serameg, gemwaith, deunydd ysgrifennu ac ystod eang o nwyddau. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu a darlunio ei llyfr ei hun ‘Archie my Dinosaur Friend’, a gyhoeddwyd gan Jellycat, sydd bellach hefyd yn rhan o’u hystod o gymeriadau anifeiliaid.
Wrth fyfyrio ar y digwyddiad, rhannodd Ellie Ball, myfyrwraig darlunio yn y drydedd flwyddyn, “Rwyf wedi bod yn edmygydd ers amser maith o waith Ocean, felly roeddwn yn edrych ymlaen yn fawr at y digwyddiad hwn. Roedd ei chyflwyniad yn wirioneddol ysbrydoledig, a dysgais lawer hefyd wrth siarad â hi wedyn. Rwyf bellach yn teimlo’n llawer mwy hyderus am fy llwybr gyrfa ar ôl graddio.”

Tanlinellodd yr ymweliad hwn ymrwymiad PCYDDS i ddarparu profiadau ymarferol sy’n berthnasol i’r diwydiant i’w myfyrwyr, gan gadarnhau ei henw da fel sefydliad blaenllaw yn y maes hwn ymhellach. Mynegodd y darlithydd Ian Simmons ei frwdfrydedd, gan nodi, “Roedd yn wych cyfarfod â Ocean eto. Ychwanegodd ei chyngor a’i harbenigedd werth aruthrol at brofiad dysgu ein myfyrwyr, gan sicrhau eu bod wedi’u paratoi’n dda i lywio’r dirwedd gystadleuol o ddarlunio llawrydd.
Mae cysylltiadau cryf â diwydiant yn hanfodol i ni yn PCYDDS ac mae’r sefydliad yn parhau i atgyfnerthu’r cysylltiadau hyn er budd ei fyfyrwyr. Cafodd y myfyrwyr gyflwyniad gwych, a sesiwn holi ac ateb, gydag un o brif ddarlunwyr llyfrau plant y diwydiant. Ychwanegodd y ffaith bod Ocean hefyd wedi graddio o Goleg Celf Abertawe at y cyffro a’r disgwyliad. Mae’r ymweliad hwn yn enghraifft arall eto o ymrwymiad PCYDDS i feithrin talent greadigol ac arfogi myfyrwyr â’r sgiliau a’r hyder i lwyddo yn eu gyrfaoedd.”
Ewch i’n gwefan i ddysgu mwy am ein cwrs BA Darlunio, yn ogystal â’n hystod lawn o raglenni Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth yn PCYDDS.
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467076